Lleihau Llygredd ym Mhort Talbot

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 20 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:03, 20 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, credaf ein bod yn sicr wedi dangos arweiniad mewn perthynas â cherbydau trydan. Gwn inni roi—credaf inni roi oddeutu £2 filiwn o gyllid i'r holl awdurdodau lleol, rwy'n credu, ond fy nghyd-Aelod Ken Skates sy'n arwain ar hyn. Ond yn ôl yr hyn a gofiaf, credaf ein bod wedi rhoi oddeutu £2 filiwn i awdurdodau lleol er mwyn sbarduno, os mynnwch, rhywfaint o gynnydd yn y maes hwn. Ond wrth gwrs, mae angen inni wneud mwy, ac yn amlwg, mae angen inni—. Yn sicr, rwyf wedi cael trafodaethau gyda'r Grid Cenedlaethol, er enghraifft, i sicrhau y byddai llwybr o'r fath o fannau gwefru cerbydau trydan yn gallu cael ei gynnal gan y capasiti presennol sydd gennym o fewn y grid.