Lleihau Llygredd ym Mhort Talbot

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 20 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 2:04, 20 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Weinidog, nid llygredd aer yw'r unig beth sydd gennym i boeni amdano ym Mhort Talbot a fy rhanbarth ehangach. Mae llygryddion eraill hefyd yn cael effaith. Amlygodd adolygiad diweddar yng nghyfnodolyn Biological Conservation yr effaith roedd plaladdwyr yn ei chael ar rywogaethau infertebratau. Fel hyrwyddwr rhywogaethau ar ran corryn rafft y ffen sydd â'i gynefin yng nghysgod y gwaith dur, un o dri yn unig yn y DU, rwy'n bryderus ynghylch effaith plaladdwyr, a fydd yn bygwth diddymu'r rhywogaeth frodorol hon. Weinidog, pa gamau y bydd eich Llywodraeth yn eu cymryd i amddiffyn corryn rafft y ffen a phryfed eraill rhag plaladdwyr a llygryddion eraill?