Part of the debate – Senedd Cymru am 6:52 pm ar 20 Chwefror 2019.
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Un o'r breintiau mawr y gallais eu mwynhau wrth wasanaethu fel Aelod Cynulliad dros y 12 mlynedd diwethaf oedd fy rôl fel cadeirydd grŵp trawsbleidiol y Cynulliad Cenedlaethol ar y lluoedd arfog a'r cadetiaid. Ers ei sefydlu dros ddegawd yn ôl, mae'r grŵp trawsbleidiol wedi ceisio gweithio gyda rhanddeiliaid a Llywodraeth Cymru i nodi arferion da, amlygu heriau a phleidio achos ein cyn-filwyr mewn perthynas â meysydd polisi datganoledig. Rwy'n falch iawn o ddweud ei bod wedi bod yn berthynas gynhyrchiol iawn, a gallaf ddweud yn hyderus fod Cymru, mewn sawl ffordd, wedi bod yn arwain yn y DU ar gefnogi cyn-filwyr a'u teuluoedd.
Yn ôl yn 2010, yn ystod y trydydd Cynulliad, cyflawnodd y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol ymchwiliad i wasanaethau trin anhwylder straen wedi trawma ar gyfer cyn-filwyr yma yng Nghymru. Ymatebodd Llywodraeth Cymru yn gadarnhaol i'r adroddiad hwnnw drwy ddatblygu gwasanaeth iechyd meddwl newydd pwrpasol ar gyfer cyn-filwyr. Mae'r gwasanaeth hwnnw, a elwir bellach yn GIG Cymru i Gyn-filwyr, wedi bod yn fendith i'r cannoedd o gyn-filwyr a'u teuluoedd sydd wedi cael cymorth gan Neil Kitchener, sy'n arwain y gwasanaeth, a'i dîm gwych o therapyddion.
Yna, yn 2011, gwelsom gyfamod y lluoedd arfog, a ymgorfforwyd yng nghyfraith y DU. Mae'r cyfamod, wrth gwrs, yn addewid gan y genedl i sicrhau bod y rhai sy'n gwasanaethu neu wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog a'u teuluoedd yn cael eu trin yn deg. Mae ei egwyddorion yn addo na ddylai cymuned y lluoedd arfog byth wynebu anfantais o gymharu â dinasyddion eraill o ran y modd y caiff gwasanaethau cyhoeddus a masnachol eu darparu, ac y dylid rhoi ystyriaeth arbennig iddynt mewn achosion priodol, yn enwedig i'r rhai sydd wedi rhoi fwyaf, megis y rhai a anafwyd neu sydd wedi cael profedigaeth. Croesawyd y cyfamod hwnnw'n frwdfrydig iawn yma yng Nghymru.
Roeddwn yn falch iawn mai Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i weld pob awdurdod lleol unigol yn cefnogi'r cyfamod, ac arweiniodd hyn wrth gwrs at benodi hyrwyddwyr y lluoedd arfog ym mhob ardal awdurdod lleol, a phenodi swyddogion arweiniol hefyd i hyrwyddo'r cyfamod. Mae byrddau iechyd Cymru wedi ei gefnogi ac maent hwythau hefyd wedi penodi hyrwyddwyr. Rwy'n falch o ddweud bod nifer gynyddol o fusnesau preifat a sefydliadau trydydd sector wedi ei gefnogi yn ogystal.