Part of the debate – Senedd Cymru am 6:55 pm ar 20 Chwefror 2019.
Nawr, yn sgil cefnogi'r cyfamod, mae llawer o awdurdodau lleol wedi datblygu gwasanaethau newydd, wedi sefydlu arferion da, a dechrau partneriaethau gyda'r trydydd sector. Ac mae canmlwyddiant y rhyfel byd cyntaf hefyd wedi helpu i gynnal ffocws ar faterion a heriau sy'n wynebu cymuned y lluoedd arfog yma yng Nghymru. Roedd effaith y cyfamod yn destun ymchwiliad gan y grŵp trawsbleidiol yn ddiweddar, a chyhoeddwyd ein hadroddiad ar ddiwedd 2017. Roedd yn cofnodi ac yn dathlu'r cynnydd sylweddol a gyflawnwyd ers 2011, a bydd llawer o'r Aelodau wedi gweld tystiolaeth o waith allanol y cyfamod yn eu hetholaethau eu hunain. Gwelais innau hynny, yn sicr.
Sefydlwyd y sied gyntaf yn y DU i gyn-filwyr yn Llanddulas, ger Abergele, a hynny gan gyn-filwr y Falklands, Martin Margerison, un o fy etholwyr. Mae'r sied ym Mae Colwyn yn awr, mae wedi cael ymweliadau gan Weinidogion, ac mae'n rhoi cyfle i gyn-filwyr ddod at ei gilydd, rhoi'r byd yn ei le a chefnogi ei gilydd gyda thasgau ymarferol a gwirfoddoli. Mae Bae Colwyn hefyd yn gartref i bencadlys Newid Cam, rhaglen drwy Gymru sy'n cynnig cymorth effeithiol ar gyfer cyn-filwyr ar draws y wlad, gan gynnwys gwasanaethau penodol ar gyfer rhai mewn argyfwng, cyn-filwyr hŷn a phobl ag anghenion yn gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau ac iechyd meddwl. Fe'i sefydlwyd gan yr elusen camddefnyddio sylweddau CAIS, ac mae ganddo dîm o gyn-filwyr sy'n gweithredu fel mentoriaid cymheiriaid, gan ddefnyddio eu profiadau eu hunain i helpu cyn-filwyr i lywio ac wynebu'r heriau yn eu bywydau. Mae'n gweithio law yn llaw, wrth gwrs, â GIG Cymru i Gyn-filwyr, ac rwyf wedi bod yn ddiolchgar iawn i Help for Heroes, y Lleng Brydeinig Frenhinol a Llywodraeth Cymru am y cymorth ariannol y maent wedi'i roi iddo. Dyma'r unig wasanaeth o'i fath yn y DU.
Y llynedd, ym Mae Colwyn hefyd, gwelsom sefydlu Woody's Lodge, un o ddau yng Nghymru. Mae'r llall yn ne Cymru, yma ym Mro Morgannwg. Credaf fod David Melding wedi ymweld â'r lle hwnnw yn y gorffennol. Canolfannau cymdeithasol yw Woody's Lodges, maent yn arwain cyn-filwyr at y cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt ac yn ceisio eu denu i ailymwneud â'u teuluoedd a'u cymunedau, a'r weledigaeth yw creu gofod cyfarfod croesawgar ar gyfer y rhai sydd wedi gwasanaethu gyda'r lluoedd arfog a'r gwasanaethau brys ehangach, lle gallant gael y cymorth a'r cyngor a chysylltu â ffrindiau hen a newydd.
Mae ardal ehangach Conwy hefyd wedi'i bendithio â chartrefi Alabare ar gyfer cyn-filwyr. Gan weithio mewn partneriaeth â'r Gymdeithas Tai Dewis Cyntaf, mae Alabare, sy'n elusen Gristnogol, yn darparu cartref yng Nglan Conwy a dau yng Nghyffordd Llandudno ar gyfer cyn-filwyr sy'n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref. A dyma'r mater tai rwyf am droi ato am weddill yr amser sydd gennyf, gan ei fod yn dal i fod yn faes sy'n galw am ein sylw. Mae digartrefedd ymysg cyn-filwyr wedi bod yn bwnc sydd wedi cael ei drafod mewn neuaddau barics, ar ffrigadau, ac mewn canolfannau awyr ers diwedd rhyfeloedd Napoleon yn gynnar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. A 200 mlynedd yn ddiweddarach, er ein bod wedi gwneud cynnydd sylweddol, mae'n ddrwg gennyf ddweud bod yna gyn-filwyr yn dal i gysgu allan yma yng Nghymru.
Nawr, a bod yn deg, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n galed i geisio mynd i'r afael â'r broblem hon. Yn ogystal â'i rhaglenni atal digartrefedd cyffredinol, mae hefyd wedi canolbwyntio sylw ychwanegol ar gyn-aelodau'r lluoedd arfog. Mae tai yn elfen allweddol ym mhecyn cymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer y lluoedd arfog, a datblygwyd llwybr tai cenedlaethol penodol ar gyfer cyn-filwyr y lluoedd arfog hefyd. Mae'r partneriaid trydydd sector a sefydlodd y Porth Cyn-filwyr—gwasanaeth 24 awr yng Nghymru sy'n helpu cyn-filwyr i drefnu eu bywydau newydd fel sifiliaid—hefyd wedi ceisio cyfeirio pobl at asiantaethau cymorth megis Cymdeithas y Milwyr, Morwyr, Awyrenwyr a'u Teuluoedd (SSAFA), ac Alabare, a grybwyllais yn gynharach.
Nawr, mae amcangyfrifon o niferoedd yr aelodau o gymuned y lluoedd arfog sy'n byw yng Nghymru yn amrywio, ond mae rhai wedi awgrymu y gallai fod mor uchel â 385,000. Nawr, mae mwyafrif llethol y cyn-filwyr hyn yn trosglwyddo'n ôl i fywyd sifil yn dda iawn. Ond mae lleiafrif bach a sylweddol yn ei chael hi'n anodd addasu. Ac rwy'n meddwl mai'r peth lleiaf y gallwn ei wneud fel cymdeithas yw ad-dalu'r ddyled sydd arnom i'r arwyr hyn drwy eu helpu i gael to dros eu pennau. Nawr, i gydnabod hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd rhai camau cadarnhaol. Yma yng Nghymru, mae'r rhai sy'n gadael y lluoedd arfog yn cael ffafriaeth ychwanegol at ddibenion tai wrth wneud cais tai cymdeithasol i awdurdodau lleol. Hefyd, anogir awdurdodau lleol i roi ffafriaeth ychwanegol i gyn-filwyr sydd wedi cael anaf, cyflwr meddygol neu anabledd yn sgil eu gwasanaeth. Rhoddir statws angen blaenoriaethol ychwanegol i gyn-filwyr digartref. Caiff taliadau cynllun iawndal y lluoedd arfog neu daliadau cynllun pensiwn rhyfel eu diystyru wrth ymgeisio am grantiau cyfleusterau i'r anabl i addasu cartrefi pobl, ac mae statws blaenoriaethol gan aelodau a chyn-filwyr y lluoedd arfog yng nghynlluniau cymorth prynu a Rhent yn Gyntaf Llywodraeth Cymru, fel sydd gan wragedd a gwŷr gweddw unigolion a laddwyd yn ystod eu gwasanaeth. Nawr, mae'r rhain yn gamau i'w croesawu, ond nid ydynt yn mynd yn ddigon pell. Er enghraifft, gall awdurdodau lleol ystyried rhoi ffafriaeth ychwanegol i gyn-filwyr a phenderfynu peidio wedyn, gan mai canllawiau yn unig ydynt, nid dyletswydd statudol, ac mae llawer o landlordiaid cymdeithasol, megis cymdeithasau tai, y tu allan i'r canllawiau sydd ar gael yn gyfan gwbl. Ac mae anfanteision eraill sydd eto i gael eu datrys yn wynebu teuluoedd milwrol. Nid yw cynlluniau rhanberchenogaeth a chynlluniau rhentu i brynu yn rhoi unrhyw freintiau arbennig i'r rhai sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog.
Ac yna mae gennym broblem anodd y meini prawf cysylltiadau lleol a ddefnyddir yn aml gan lawer o landlordiaid cymdeithasol. Mae llawer ohonynt yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr am dai sydd wedi byw mewn ardal i fod wedi byw mewn ardal am gyfnod penodol o amser er mwyn sefydlu cymhwysedd i fynd ar restr dai leol. Ond beth os cawsoch eich anfon i ganolfan filwrol am rai misoedd yn unig cyn i'ch gwasanaeth ddod i ben? Gallai hynny eich anghymwyso rhag cael unrhyw gymorth o gwbl, ac mae'n anghywir. Weithiau camwahaniaethir yn erbyn y rhai sy'n gadael llety milwrol oherwydd diffyg cysylltiad lleol o'r fath a gall arwain at eu hanghymhwyso rhag cael tai gan y landlordiaid cofrestredig hynny. Ac mae hyn yn effeithio ar fwy na'r rhai sy'n gwasanaethu yn y lluoedd arfog yn unig. Rhaid meddwl am eu teuluoedd a'u dibynyddion hefyd, oherwydd mae'r rheolau hyn yn creu anfantais i wŷr a gwragedd priod a phartneriaid sifil y rhai sydd yn y lluoedd arfog os collant eu priod neu os yw eu perthynas yn chwalu. Nawr, gall pob un o'r sefyllfaoedd a grybwyllais arwain at ddiffyg cymorth priodol a mwy o risg o gartref amhriodol neu ddigartrefedd.
Nawr, fel y soniais yn gynharach, mae gennym sefydliadau gwych sy'n ceisio cefnogi'r rhai sy'n wynebu risg, megis Alabare, ond nid yw eu cefnogaeth ar gael ym mhob rhan o Gymru. Fel y soniais yn gynharach, rywsut maent wedi sefydlu rhai tai yn ardal Conwy. Mae ganddynt leoedd yn Wrecsam hefyd ac mewn mannau eraill, ond yn anffodus, nid yw eu gwasanaethau'n cyrraedd pob rhan o Gymru. Ac wrth ateb y cwestiwn y mae fy nadl yn ei ofyn heddiw: 'Cartrefi i'n harwyr: a ydym yn diwallu anghenion cartrefu ein cyn-filwyr yma yng Nghymru?', dyna pam mai fy ateb yw 'Na, nid ydym yn gwneud hynny eto, ond rydym yn gwneud cynnydd da'. Felly, beth sydd angen ei newid? Wel, rwy'n credu bod angen canllawiau statudol sy'n berthnasol i bob landlord cymdeithasol cofrestredig, nid i awdurdodau lleol yn unig. Mae angen inni ddatrys y broblem gyda meini prawf cysylltiadau lleol unwaith ac am byth drwy hepgor unrhyw ofynion am gysylltiad lleol ar gyfer unrhyw un sy'n gadael llety i deuluoedd sy'n gwasanaethu, gan gynnwys gwŷr a gwragedd milwrol neu ddibynyddion, ac mae angen inni anrhydeddu ein harwyr drwy roi ffafriaeth ychwanegol iddynt yn holl gynlluniau tai Llywodraeth Cymru, gan gynnwys cynlluniau rhanberchnogaeth a chynlluniau rhentu i brynu. Mae angen inni sicrhau hefyd, pan fydd pethau'n chwalu, fod cynllun lleol tai â chymorth ar gael ar gyfer cyn-filwyr i'w helpu i godi'n ôl ar eu traed, ac rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y Dirprwy Weinidog, gyda'r rôl newydd hon, yn gallu datblygu rhai o'r awgrymiadau hyn. Diolch.
Rwyf wedi rhoi munud o fy amser i Mark Isherwood; dylwn fod wedi crybwyll hynny yn gynharach, ac mae'n ddrwg gennyf.