Part of the debate – Senedd Cymru am 7:04 pm ar 20 Chwefror 2019.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r Aelod am godi'r mater pwysig hwn yn y Siambr heddiw? Gwn eich bod yn ddadleuwr brwd a gweithgar yn y maes hwn, ac wrth agor, roeddech yn dweud ei bod yn fraint bod yn gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog a'r cadetiaid. Ac er fy mod yn gymharol newydd i'r rôl hon, mae'n fraint cael fy ngwahodd i wneud hyn ac arwain ar gyn-filwyr ar ran Llywodraeth Cymru.