Part of the debate – Senedd Cymru am 7:05 pm ar 20 Chwefror 2019.
Mae gan bob Llywodraeth ddyletswydd i gefnogi cyn-filwyr y lluoedd arfog, yn enwedig y lleiafrif bach sy'n ei chael hi'n anodd newid i fywyd sifil. Fel y dywedodd yr Aelod, mae'n briodol inni roi'n ôl i'r rhai sydd wedi rhoi cymaint drwy wasanaethu eu gwlad. Dyma pam y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cymuned y lluoedd arfog, ac wedi ymrwymo i barhau i wneud hynny yn y dyfodol. Nid yw ond yn iawn ein bod yn sicrhau bod cyn-filwyr yn cael yr help a'r cymorth y maent eu hangen a phan fo'i angen. Mae ein pecyn cymorth a'r ddogfen 'Croeso i Gymru' yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol ar gyfer aelodau'r lluoedd arfog a'u teuluoedd. Rydym yn cefnogi GIG Cymru i Gyn-filwyr â bron i £700,000 bob blwyddyn er mwyn ymateb i broblemau iechyd meddwl ac i gynnal treialon ymchwil. Mae gweithio mewn partneriaeth â Newid Cam yn rhoi cyfle i gyn-filwyr gael cymorth mentora cymheiriaid a chymorth defnyddiol arall, gan gynnwys cyngor ar dai, cyflogaeth a lleihau camddefnyddio sylweddau.
Ond mae dadl heddiw yn canolbwyntio ar dai. Mae'r Aelod yn sôn am nifer o enghreifftiau yn ei gyfraniad, gan gynnwys enghraifft y sied yn ei etholaeth ei hun. Rhoddwyd camau cadarnhaol ar waith i ddarparu tai fforddiadwy o ansawdd uchel ar gyfer cyn-filwyr, ac enghraifft arall, nad yw'n rhy bell oddi wrthych yng ngogledd Cymru, yn Wrecsam, yn Nhŷ Ryan, sef prosiect hunanadeiladu arloesol sy'n gweithio gyda chyn-filwyr digartref. Darparodd y prosiect brofiad gwaith iddynt ar y safle, yn ogystal â chyfle i gael cartref pan gâi'r gwaith ei gwblhau—cartref y gallent fod yn falch o ddweud eu bod wedi gweithio arno eu hunain—gan gefnogi eu hiechyd a'u lles ar adeg heriol yn eu bywydau.
Mae rhaglen gymorth tenantiaeth gofal acíwt Hafal yn enghraifft arall o wasanaeth sy'n darparu'r cymorth angenrheidiol i gyn-filwyr sydd â phroblemau iechyd meddwl ac sy'n methu dal gafael ar eu cartref. Mae nifer o ddarparwyr cymorth yng Nghymru yn cynnig cymorth tai i aelodau o gymuned y lluoedd arfog, ac mae Llywodraeth Cymru yn cysylltu'n rheolaidd â'r darparwyr hyn drwy ein grŵp arbenigol gweinidogol a swyddogion sy'n gweithio—[Torri ar draws.] i hyrwyddo gwasanaethau ar gyfer sector y lluoedd arfog yng Nghymru. Bendith. [Chwerthin.]
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud ei safbwynt yn glir iawn y dylai aelodau o'r lluoedd arfog sydd wedi cael anaf difrifol neu wedi eu gwneud yn anabl yn sgil eu gwasanaeth ac sydd ag angen brys am gartref cymdeithasol gael blaenoriaeth uchel yng nghynlluniau dyrannu awdurdodau lleol i gydnabod eu gwasanaeth. Rwy'n deall bod gan yr holl awdurdodau lleol ffafriaeth ychwanegol ar gyfer cyn-filwyr, ac mae atal digartrefedd i bawb yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Mae bron 20,000 o aelwydydd wedi cael cymorth yn llwyddiannus ers mis Ebrill 2015, ac mae ein deddfwriaeth wedi arwain at helpu mwy o bobl, a help ar gam cynharach, sy'n bwysig. Rydym wedi dangos ein hymrwymiad drwy fuddsoddi £30 miliwn i atal a lliniaru digartrefedd dros y flwyddyn hon a'r flwyddyn nesaf. Bydd y cyllid hwn yn cefnogi amrywiaeth o wasanaethau statudol ac anstatudol i helpu'r rhai heb le diogel i fyw, a fydd, yn amlwg, yn cynnwys cyn-filwyr.
Wrth ddrafftio'r ddeddfwriaeth, fe wnaethom sicrhau ein bod yn cadw'r categori angen blaenoriaethol gwreiddiol, sy'n sicrhau bod pawb sy'n ddigartref ar unwaith ar ôl gadael y lluoedd arfog rheolaidd yn parhau i elwa ar y warant o lety. I gefnogi hyn, ac mewn cydweithrediad â'n partneriaid, rydym wedi datblygu llwybr atgyfeiriadau tai i gyn-filwyr y lluoedd arfog i helpu cyn-filwyr a'u teuluoedd i wneud dewis gwybodus ynglŷn â'u hanghenion llety wrth newid nôl i fywyd fel sifiliaid. Nod hyn yw hwyluso'r broses a chynorthwyo cyn-filwyr a'u teuluoedd i ailymgartrefu yn y cymunedau y maent wedi dewis byw ynddynt. Mae hyn yn cynnwys cyngor ar gael mynediad at dai cymdeithasol a'r farchnad rhentu preifat. I'r rhai sydd ei angen, ceir cyngor hefyd ar sut i gael cymorth digartrefedd. I hybu'r llwybr ymhellach, rydym hefyd wedi datblygu cardiau cyngor ar gyfer cyn-filwyr y lluoedd arfog sy'n cysgu allan, ynghyd â thaflenni a phosteri. Roedd y cyhoeddiadau hyn yn cynnwys manylion cyswllt ar gyfer gwasanaeth y Porth Cyn-filwyr, a bydd yr Aelod yn gyfarwydd â'r siop un stop i gyn-filwyr ac aelodau o'u teuluoedd allu cael mynediad at wasanaethau a chymorth mewn un lle.
Yn union ar ôl deddfwriaeth 2015, roedd nifer y bobl y nodwyd eu bod ag angen blaenoriaethol oherwydd eu bod yn ddigartref ers gadael y lluoedd arfog yn llai na thri bob blwyddyn. Yn 2017-18, cynyddodd i naw o gyn-filwyr y lluoedd arfog. Rydym yn parhau i fonitro'r data a'r wybodaeth hon, ac er ein bod yn hyderus fod y system sydd ar waith yn gweithio, nid ydym yn hunanfodlon mewn unrhyw fodd. Ac rwy'n derbyn yn llwyr yr heriau y nododd yr Aelod heddiw eu bod yn dal i wynebu cyn-filwyr y lluoedd arfog a'u teuluoedd, boed yn arweiniad, cysylltiad. A gobeithio, gall ein hymarfer cwmpasu nodi rhai ohonynt i ni, a byddwn mewn sefyllfa i fwrw ymlaen â hynny yn y dyfodol.
Credaf hefyd ein bod yn cydnabod na fydd pob unigolyn sy'n defnyddio gwasanaeth yn datgelu eu cefndir yn y lluoedd arfog. Efallai y bydd y cerdyn adnabod newydd i gyn-filwyr yn helpu gyda'r broses adnabod, ond ni fydd yn goresgyn problemau'n ymwneud â datgelu, ac ni fydd yn helpu'r rhai sydd eisoes mewn argyfwng.
Roeddech yn sôn eich bod yn falch mai Cymru oedd y wlad gyntaf i weld pob awdurdod lleol yn ymrwymo i gyfamod y lluoedd arfog. Ac ers dod i'r rôl, rwyf wedi clywed llawer am y gwaith gwerthfawr y mae swyddogion cyswllt y lluoedd arfog yn ei wneud ar draws Cymru yn cefnogi anghenion y gymuned hon, gan gynnwys y gwaith partneriaeth gyda Solas Cymru a phenodi gweithiwr cymorth cyn-filwyr ar gyfer y digartref yng Ngwent. Mae hyn yn rhywbeth yr hoffwn ei weld yn cael ei ddatblygu ar draws awdurdodau lleol eraill yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £500,000 i ymestyn swyddi swyddogion cyswllt y lluoedd arfog am ddwy flynedd arall. Bydd hyn yn ei gwneud hi'n bosibl ymgorffori gwasanaethau a gaiff cymuned y cyn-filwyr mewn cymorth prif ffrwd gan awdurdodau lleol yn y dyfodol, gan gynnwys cymorth ar gyfer anghenion tai. Byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid allweddol, gan gynnwys gwasanaethau allgymorth, elusennau cyn-filwyr a'r Porth Cyn-filwyr i sicrhau bod cymuned ein lluoedd arfog yn cael y cymorth a'r cyngor sydd ei angen arnynt i'w helpu i newid i fywyd fel sifiliaid. Credaf ein bod yn cyflawni mwy, yn y sector hwn yn arbennig, drwy weithio gyda'n gilydd mewn partneriaeth, a thrwy rannu arbenigedd ac adnoddau.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wrthi'n comisiynu asesiad annibynnol o wneud newidiadau i angen blaenoriaethol, oherwydd mae'n hollbwysig inni ddeall y canlyniadau bwriadol ac anfwriadol cyn gwneud unrhyw newidiadau. Disgwylir adroddiad ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf, a byddai angen i unrhyw newidiadau i'r system bresennol barhau i gefnogi ein nod o sicrhau bod cyn-filwyr yn gallu cael y cymorth a'r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt.
Rydym hefyd yn monitro'n agos yr ymgynghoriad sydd ar y gweill gan Lywodraeth y DU mewn ymateb i'r materion a godwyd yn adroddiad blynyddol 2017 ar gyfamod y lluoedd arfog, sy'n nodi argymhellion ar gyfer diwygio'r canllawiau i awdurdodau lleol yn Lloegr, gyda'r bwriad, ymhlith pethau eraill, o wneud yn glir fod disgwyl i awdurdodau lleol ddileu gofynion cysylltiadau lleol i wŷr neu wragedd cyn-filwyr y lluoedd arfog sydd wedi ysgaru neu wahanu, yn ogystal â sicrhau bod y rhai sy'n dioddef o salwch meddwl yn cael blaenoriaeth briodol ar gyfer tai cymdeithasol.
I gloi, hoffwn fanteisio ar y cyfle unwaith eto i sicrhau'r holl Aelodau fod atal cyn-filwyr ein lluoedd arfog rhag mynd yn ddigartref, a chysgu allan o bosibl, yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Oes, mae heriau i'w hwynebu o hyd, ond rwy'n falch ein bod yn cydnabod gyda'n gilydd pa mor bell y daethom a'n hymrwymiad ar y cyd i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru mewn ffyrdd sy'n cefnogi cymuned ein lluoedd arfog. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn at weithio gyda chi i gefnogi cymuned ein lluoedd arfog yn y dyfodol.