Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 20 Chwefror 2019.
Diolch am eich cwestiwn, Mike Hedges. Rydych yn gwneud pwyntiau dilys a diddorol iawn. Fel rwyf wedi'i grybwyll eisoes, mae'r fersiwn ddiweddaraf o 'Polisi Cynllunio Cymru', yn benodol, yn ei gwneud yn ofynnol yn awr i awdurdodau cynllunio lleol gadw cofrestr o safleoedd bach. Ac fel y soniais eisoes, rydym wedi cyhoeddi £40 miliwn i gefnogi cynlluniau Hunanadeiladu Cymru newydd ac arloesol, ac yn rhan o hynny, mae swyddogion yn ymgysylltu ag awdurdodau lleol ar hyn o bryd i nodi safleoedd addas ar gyfer hunanadeiladu, ar y raddfa a grybwyllwyd gennych yn eich cwestiwn o bosibl. Yn amlwg, mater i awdurdodau lleol yw penderfynu pa safleoedd a gyflwynir ar gyfer y cynllun, ond mae'r Gweinidog a minnau'n edrych ymlaen at weld y safleoedd hynny'n dechrau dod i'r amlwg dros y misoedd nesaf.