Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 20 Chwefror 2019.
Ddirprwy Weinidog, credaf fod rhai mesurau allweddol y gallwn eu cymryd i fynd i'r afael â'n hanghenion tai nad ydynt yn cynnwys gorfod adeiladu cartrefi newydd, ac un enghraifft o'r fath yw cynlluniau cyngor Rhondda Cynon Taf i ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd. Mae 312 o geisiadau grant eiddo gwag wedi dod i law ers i'r cynllun ddechrau yn 2016, a hyd yma, mae 128 o'r cartrefi hynny bellach wedi dod yn ôl i ddefnydd llawn, gyda £2.4 miliwn yn cael ei wario drwy'r grant eiddo gwag. Felly, a ydych yn cytuno â mi fod y math hwn o gynllun yn darparu ffordd gynaliadwy iawn o fynd i'r afael â'r prinder tai, ac a oes unrhyw gynlluniau i sicrhau y gall awdurdodau lleol eraill ddysgu o'r arfer gorau hwn?