Adeiladu Rhagor o Gartrefi

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 20 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 2:22, 20 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Vikki Howells. Yn sicr, croesawaf ymdrechion a gwaith Rhondda Cynon Taf ac awdurdodau eraill o ran sut rydym yn creu cartrefi newydd drwy ddod ag adeiladau gwag yn ôl i ddefnydd. Ac mae'n rhywbeth rwy'n teimlo'n arbennig o angerddol yn ei gylch yn fy rôl arweiniol mewn perthynas ag adfywio, sut y gallwn gysylltu hynny mewn modd cyfannol, nid yn unig adfywio ac adfywhau cymuned a chanol y dref, ond mynd i'r afael ag anghenion tai a'r angen am dai gweddus hefyd yn y broses.

Gwyddom fod llawer o resymau pam fod cartrefi'n wag, felly mae angen sicrhau bod amrywiaeth o offer ar gael i ddod â hwy yn ôl i ddefnydd. Felly, rwyf wedi gofyn i swyddogion archwilio sut y gallem gynorthwyo awdurdodau lleol yn well i ddefnyddio eu pwerau gorfodi i ddod â chartrefi gwag yn ôl i ddefnydd, ac yn sicr, credaf fod hwn yn faes lle gallwn ychwanegu mwy o werth.