Part of the debate – Senedd Cymru am 3:35 pm ar 20 Chwefror 2019.
A gaf fi ddweud cymaint rwy'n croesawu'r ddadl sydd ger ein bron heddiw, ar y mater pwysig hwn o ymgysylltiad ar ôl Brexit? Nid wyf yn derbyn y darlun na allwch fod yn rhyngwladolaidd os ydych yn cefnogi Brexit, a'ch bod yn ymynysol. Yn sicr nid dyna yw fy marn i. Rwy'n rhyngwladolaidd iawn, ac mae'n bwysig iawn inni ymgysylltu ar lefel fyd-eang, ac nid o fewn Ewrop yn unig. Ac wrth gwrs mae'n gwbl hanfodol fod gennym berthynas agos barhaus gyda'r rhanbarthau gwahanol yn Ewrop ar ôl 29 Mawrth. Roeddwn yn un o'r rhai a bleidleisiodd o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd wrth gwrs, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn i'r Cynulliad Cenedlaethol hwn fod yn Gynulliad sy'n edrych at y gorwelion sydd y tu hwnt i Gymru, y tu hwnt i'r DU, a thu hwnt i 29 Mawrth.
Dywedwyd wrthym yn gyson yn ystod y refferendwm y byddai'n amhosibl cynnal perthynas agos gyda rhannau eraill o Ewrop ar ôl Brexit, ond wrth gwrs, nid yw hynny'n wir o gwbl, a dyna pam roedd fy mhlaid yn falch iawn o weld y Prif Weinidog newydd yn dilyn ein harweiniad drwy benodi rhywun i fod yn gyfrifol am gysylltiadau rhyngwladol. Ac rwy'n falch iawn o weld mai Eluned Morgan a gafodd y swydd honno, o gofio am y cyfoeth o brofiad a gafodd yn Ewrop. Ac wrth gwrs mae grwpiau eraill yn y Cynulliad Cenedlaethol hwn hefyd wedi achub ar y cyfle i benodi llefarwyr cysylltiadau rhyngwladol. Ac mae'n wych fod Delyth Jewell wedi cael y fraint honno ar ran Plaid Cymru, a hoffwn ei chroesawu i'w swydd.
Credaf ei bod yn hanfodol bwysig fod Llywodraeth Cymru yn datblygu ei strategaeth cysylltiadau rhyngwladol o ran ymgysylltu o gwmpas y byd, ac mae hyn, wrth gwrs, yn rhan bwysig iawn ohono. Ond rydych yn iawn i dynnu sylw yn eich araith agoriadol, Mick, at yr angen i'r Cynulliad Cenedlaethol hwn, fel sefydliad, gael strategaeth cysylltiadau rhyngwladol hefyd, fel y gallwn hyrwyddo gwaith y Cynulliad Cenedlaethol y tu allan i Gymru, a dysgu hefyd gan rannau eraill o'r byd, o ran sut y gweithredwn fel deddfwrfa ddatganoledig o fewn undeb llwyddiannus y Deyrnas Unedig.
Nawr, cefais y fraint o gynrychioli'r Cynulliad Cenedlaethol fel un o aelodau'r Cynulliad Seneddol Prydeinig-Gwyddelig. Bûm yn aelod o'r Cynulliad Seneddol Prydeinig-Gwyddelig ers dros ddegawd bellach, ac fel rhan o waith y Cynulliad Seneddol Prydeinig-Gwyddelig cawn gyfle hefyd i gymryd rhan, mewn fforwm gwahanol, gyda phobl o ddeddfwrfeydd eraill o fewn y DU, a Gweriniaeth Iwerddon wrth gwrs, ac yn wir, rhai o'r ynysoedd eraill sy'n ffurfio Ynysoedd Prydain. Ac i mi, dyna ffordd ddefnyddiol iawn o gydweithio gyda seneddwyr eraill, o ran ceisio ymchwilio i rai o'r heriau sy'n aml yn gyffredin iawn i bob un ohonom yn y Cynulliad Seneddol Prydeinig-Gwyddelig.
Rwy'n cadeirio pwyllgor materion Ewropeaidd y Cynulliad Seneddol Prydeinig-Gwyddelig, ac mewn gwirionedd, cynhaliodd y pwyllgor hwnnw ymchwiliad byr ynglŷn ag ymgysylltiad â gwahanol sefydliadau Ewropeaidd yn dilyn Brexit. Cyhoeddodd adroddiad tua 18 mis yn ôl, ac edrychodd ar werth ymgysylltiad a chydweithrediad a oedd eisoes ar waith—nid y cydweithrediad rhynglywodraethol yn unig, ond cyfarfuom hefyd â llywydd Pwyllgor y Rhanbarthau, Karl Heinz Lambertz, i gael trafodaeth gydag ef am y cyfleoedd a allai ddal i fodoli ar gyfer ymgysylltu â'r pwyllgor yn y dyfodol. Ac roedd hi'n amlwg iawn fod llu o wledydd y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd eisoes yn cymryd rhan mewn gwahanol fforymau a sefydlwyd ar gyfer ymgysylltu. Ac un o'r rhai y cyfeiriai atynt oedd Cymdeithas y Rhanbarthau Ffiniol Ewropeaidd, er enghraifft, sydd wrth gwrs yn mynd i fod yn fwyfwy pwysig i ni, rwy'n meddwl, o ran ein hymwneud yn y dyfodol. Mae'n gweithio'n agos iawn, fel y gŵyr Mick a Bethan, gyda Phwyllgor y Rhanbarthau, ac nid oes raid i chi fod yn aelod o'r UE er mwyn ymgysylltu â'r gymdeithas honno.
Felly, buaswn yn annog y Cynulliad Cenedlaethol hwn a Llywodraeth Cymru yn gryf i geisio ymwneud rhywfaint â'r sefydliad penodol hwnnw wrth i amser fynd yn ei flaen, oherwydd rwy'n credu bod cyfleoedd enfawr i ni o ran ymgysylltiad rhyngwladol ar ôl 29 Mawrth, a chredaf y dylem fanteisio arnynt, ond ni allwn wneud hynny heb fod gennym strategaeth briodol ar waith, fel Senedd ac fel Llywodraeth Cymru yn ogystal.