Part of the debate – Senedd Cymru am 4:05 pm ar 20 Chwefror 2019.
Gan droi at ongl wahanol, mae llawer o bobl yn teimlo na allant siarad am eu hiechyd meddwl, yn bennaf oherwydd y stigma sy'n parhau ynghylch cyfaddef bod ganddynt broblem. Mae angen inni oresgyn hyn fel bod pawb yn teimlo'n gyfforddus i ofyn am y cymorth sydd ei angen arnynt heb ofni cael eu barnu neu golli wyneb. Mae mynediad at wasanaethau arbenigol priodol ac amserol yn allweddol ar gyfer sicrhau bod pobl yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Rhaid bod cymorth ar gael ar lefel gydradd ar gyfer cyflyrau iechyd meddwl a chyflyrau iechyd corfforol fel y gall pobl gael cymorth priodol pan fyddant ei angen er mwyn atal sefyllfaoedd o argyfwng. Felly, rydym yn falch fod y Llywodraeth wedi derbyn argymhelliad 6 yr adroddiad hwn, lle mae'r pwyllgor yn galw am weithredu'r holl gamau angenrheidiol i sicrhau'r cydraddoldeb hwn. Rydym yn edrych ymlaen at weld sut y bydd cynllun cyflawni newydd yn mynd i'r afael â'r angen hwn ac yn disgwyl i'r gwaith hwn symud yn gyflym, gan gynnwys datblygu set ddata graidd iechyd meddwl.
Mae argymhellion 7 a 12 yn cyfeirio at lwybrau atgyfeirio brys ar gyfer meddygon teulu a'r amseroedd aros ar gyfer therapïau seicolegol fel therapi gwybyddol ymddygiadol. Er bod y Gweinidog wedi derbyn y rhain, nid yw ymateb y Llywodraeth yn ategu'r dystiolaeth a glywyd gan y pwyllgor yn ystod yr ymchwiliad hwn. Clywsom gan feddygon teulu ei bod yn aml yn anodd iawn iddynt atgyfeirio a chael rhywun wedi'i weld mor gyflym ag y credant sy'n angenrheidiol. Gyda salwch corfforol difrifol, gall meddygon teulu ffonio meddygon mewn ysbytai gofal eilaidd i glaf gael ei dderbyn i'r ysbyty ar unwaith. Nid oes unrhyw hawl o'r fath yn bodoli i feddygon teulu allu sicrhau mynediad at feddygon seiciatrig mewn gofal eilaidd. Mae'n annerbyniol nad yw gwasanaethau iechyd meddwl yn cael eu blaenoriaethu yn yr un modd ag iechyd corfforol, ac mae angen rhoi sylw i hyn fel mater o frys.
Gan droi at hunanladdiad ymhlith dynion, mae anallu i siarad am iechyd meddwl yn arbennig o wir am ddynion. Drwy gydol ein cyfnod yn casglu tystiolaeth, clywsom fod dynion, dynion canol oed yn arbennig, yn wynebu risg uwch o hunanladdiad. Mae'n ystadegyn syfrdanol mai hunanladdiad yw'r prif achos marwolaeth ymhlith dynion 20 i 49 oed. Mae angen inni oresgyn hyn fel bod pawb yn teimlo'n gyfforddus i ofyn am yr help sydd ei angen arnynt heb ofni cael eu barnu. Mae angen dulliau newydd o weithredu bellach er mwyn annog ymddygiad sy'n chwilio am gymorth ac i wella iechyd meddwl, lles meddyliol a chydnerthedd ymhlith dynion. Gall y rhain wneud gwahaniaeth aruthrol, ond yn aml maent yn dibynnu ar ymrwymiad unigolion neu'n anghynaladwy yn sgil ariannu sefydliadau elusennol ar sail fyrdymor. Mae angen cydnabod bod lleihau, ac yn y pen draw, atal hunanladdiad ymhlith dynion yn flaenoriaeth genedlaethol, ac rydym yn falch fod y Gweinidog wedi derbyn argymhelliad 18.
Ceir rhai ffactorau sy'n creu risg a straen i bobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig yn ychwanegol at y ffactorau risg hunanladdiad sy'n effeithio ar boblogaethau cyffredinol. Clywodd y pwyllgor, er nad oes unrhyw ystadegau penodol ar gael ar nifer y ffermwyr a oedd wedi cyflawni hunanladdiad, roedd pob ffermwr yn adnabod ffermwr a oedd wedi cyflawni hunanladdiad. Cawsom ein taro'n arbennig gan y dystiolaeth a ddarparwyd gan Tir Dewi pan ddywedasant wrthym, ac rwy'n dyfynnu:
Pan fo marwolaeth yn digwydd ar fferm, mae'n dal i fod angen godro'r gwartheg y bore yma, a heno ac yfory.
Mae hyn yn dangos yn glir pa mor bwysig yw deall yr effaith y gall pwysau amrywiol ei chael ar iechyd meddwl ffermwyr a'r angen am hyfforddiant ymwybyddiaeth iechyd meddwl i staff pob sefydliad sy'n rhyngweithio â ffermwyr a'u teuluoedd.
Rydym yn croesawu ymateb y Gweinidog i argymhelliad 22 ac rydym yn nodi bod gwasanaeth cysylltwyr fferm Llywodraeth Cymru wedi cael hyfforddiant yn ddiweddar. Fodd bynnag, hoffwn nodi y byddai pob aelod o staff sy'n gweithio i gefnogi ffermwyr yn elwa o'r hyfforddiant hwn, fel y rhai a fu'n gysylltiedig â threfnu archwiliadau fferm. Roedd y pwyllgor yn arbennig o falch o ddysgu bod Undeb Amaethwyr Cymru wedi gwneud ymrwymiad cyhoeddus yn ddiweddar i gynyddu ymwybyddiaeth o broblemau iechyd meddwl mewn cymunedau gwledig.
Gan droi'n fyr at risg carcharorion o gyflawni hunanladdiad a hunan-niweidio yng Nghymru, mae'r pwyllgor yn falch fod y Llywodraeth wedi derbyn yr argymhelliad hwn. Mae'r pwyllgor yn dechrau ar ymchwiliad i ofal iechyd mewn carchardai a bydd yn manteisio ar y cyfle i edrych ar y mater hwn yn fanylach dros y misoedd nesaf.
Yn olaf, croesawn y £500,000 ychwanegol bob blwyddyn a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y Gweinidog tuag at atal hunanladdiad yng Nghymru. Rydym yn gwybod bod y Samariaid yn adrodd bod yr amcangyfrif o gost gyfartalog hunanladdiad yn y boblogaeth gyffredinol yn £1.67 miliwn am bob hunanladdiad a gyflawnir, sy'n dangos cost economaidd hunanladdiad yn glir. Er bod y Gweinidog, yn ei ymateb i argymhelliad 31 yr adroddiad hwn, yn derbyn mewn egwyddor yr angen am ryddhau arian penodol ar gyfer atal hunanladdiad, byddai'r pwyllgor yn dymuno gweld rhai adnoddau'n cael eu diogelu. O'r herwydd, byddem yn croesawu gwybodaeth bellach ynglŷn â sut y gwerir yr arian ychwanegol hwn.