Part of the debate – Senedd Cymru am 4:01 pm ar 20 Chwefror 2019.
Mae hunanladdiad yn fusnes i bawb; dyna'r neges allweddol a glywsom drwy gydol yr ymchwiliad hwn. Dyna'r neges y mae angen inni i gyd ei chofio a'i rhannu. Gall hunanladdiad effeithio ar unrhyw un, ni cheir unrhyw gymuned yng Nghymru lle nad yw pobl wedi'u cyffwrdd gan hunanladdiad, ac nid yw siarad am hunanladdiad yn ei wneud yn fwy tebygol o ddigwydd.
Clywodd y pwyllgor yn glir fod codi ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd, yn ogystal â'r rhai sy'n gweithio mewn gwasanaethau rheng flaen, yn hollbwysig. Mae angen inni annog ymddygiad sy'n ceisio cymorth a hyrwyddo ymateb mwy tosturiol i bobl mewn trallod. Awgrymodd tystiolaeth gan amrywiaeth o randdeiliaid y byddai budd mewn rhoi hyfforddiant ymwybyddiaeth o hunanladdiad i staff rheng flaen ar draws amryw o broffesiynau. Yn benodol, clywsom gan y Samariaid y byddai hyfforddiant mwy cyson i bobl ar y rheng flaen, sy'n debygol o ddod ar draws pobl sydd mewn perygl o gyflawni hunanladdiad, yn rhywbeth y gallwn wneud cynnydd gwirioneddol ar ei gyflawni.
Felly, mae'n bleser gennyf gyfeirio at ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion 1 a 2 yr adroddiad hwn. Rydym yn croesawu ymrwymiad y Llywodraeth i sicrhau bod adnoddau hyfforddi ar gael, ac yn awyddus i weld pa mor effeithiol fydd hyn ar gyfer cynyddu'r defnydd o hyfforddiant atal hunanladdiad, gan y gweithwyr proffesiynol rheng flaen a'r cyhoedd. Nid mater i feddygon yn unig yw hwn.
Mae'r pwyllgor hefyd yn croesawu'r ffaith bod Comisiwn y Cynulliad wedi derbyn argymhelliad 3, ac rydym yn annog y Comisiwn i barhau i hyrwyddo argaeledd hyfforddiant a chymorth i'w holl staff, o ystyried y rôl sydd gan bawb i'w chwarae yn atal hunanladdiad, ac rydym angen i fwy o therapïau siarad fod ar gael ym mhobman, ond mwy am hynny yn nes ymlaen.
Rydym yn falch fod y Llywodraeth wedi derbyn argymhelliad 5 ac wedi ymrwymo i roi camau cadarnhaol ar waith i sicrhau bod pob meddyg teulu yng Nghymru yn deall canllawiau'r Cyngor Meddygol Cyffredinol ar rannu gwybodaeth er mwyn diogelu bywydau. Cafodd y pwyllgor dystiolaeth rymus gan Papyrus yn ystod yr ymchwiliad hwn am eu hymgyrch i annog cyrff GIG i gynorthwyo staff yn briodol i wneud penderfyniad ar sail budd pennaf i dorri cyfrinachedd claf yn y cyd-destun hwn. Rydym yn deall bod Papyrus hefyd yn croesawu'r ymateb hwn. Fel pwyllgor, rydym yn cydnabod bod hwn yn gynnydd go iawn.
Yn argymhelliad 13, rydym yn ei gwneud yn glir fod gweithredu ar strategaeth ôl-ymyrraeth Cymru gyfan ar gyfer hunanladdiad yn flaenoriaeth uniongyrchol. Rydym yn croesawu ymateb cadarnhaol y Llywodraeth i edrych ar beth sy'n digwydd yn Lloegr gyda golwg ar ei addasu ar gyfer Cymru. Fel pwyllgor, rydym yn bwriadu dychwelyd at y mater hwn ymhen chwe mis ac yn disgwyl gweld datblygu yn y maes hwn.
Mewn perthynas â rhan b o'r argymhelliad hwn, mae gennym rai pryderon ynghylch y canllawiau i ysgolion ar siarad am hunanladdiad a'r cymorth a gynigir yn fwy cyffredinol i'r grŵp hwn sy'n agored i niwed. Nawr, bydd Lynne Neagle, fel aelod o'r pwyllgor hwn a Chadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, yn siarad mwy am hyn yn ei chyfraniad, gan fod llawer o argymhellion y pwyllgor hwn yn adleisio'r rhai yn adroddiad y pwyllgor hwnnw ar iechyd emosiynol a meddyliol plant a phobl ifanc, 'Cadernid Meddwl'.
Yn fyr, o ran argymhelliad 25, ceir tystiolaeth gref fod lleihau mynediad at ddulliau yn elfen effeithiol o atal hunanladdiad. Yn unol â'n neges allweddol fod hunanladdiad yn fusnes i bawb, rwyf am dynnu sylw at y rôl bwysig y gall awdurdodau cynllunio, penseiri ac eraill ei chwarae yn atal hunanladdiad, drwy gynnwys mesurau i atal hunanladdiad ym mhob cynllun adeilad newydd. Rydym yn annog Llywodraeth Cymru yn gryf i wneud popeth yn ei gallu i sicrhau bod adeiladau'n ddiogel.