Part of the debate – Senedd Cymru am 3:59 pm ar 20 Chwefror 2019.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n ei chysidro hi'n anrhydedd i agor y ddadl bwysig yma y prynhawn yma ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar atal hunanladdiad yma yng Nghymru, 'Busnes Pawb'. Mae nifer y marwolaethau o ganlyniad i hunanladdiad yng Nghymru yn syfrdanol. Bu 360 o farwolaethau cofrestredig o ganlyniad i hunanladdiad yng Nghymru yn 2017, 278 ohonyn nhw yn ddynion. Mae’r ffigur hwn wedi cynyddu ers 2016—322 o hunanladdiadau oedd pryd hynny—ac nid yw nifer yr hunanladdiadau wedi bod yn gostwng gydag amser. Mae'n debygol hefyd bod yr ystadegau swyddogol o ran hunanladdiad yn tan-gynrychioli gwir raddfa hunanladdiad oherwydd yr angen i sefydlu y tu hwnt i amheuaeth resymol mewn cwest crwner mai hunanladdiad oedd achos y farwolaeth.
Gwnaethom gynnal yr ymchwiliad hwn i ddeall beth sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd a lle mae angen gweithredu i annog y newid a'r gwelliannau sydd eu hangen i wrthdroi'r duedd hon sy'n peri pryder. Fel rhan o’r ymchwiliad hwn, cawsom ystod eang o dystiolaeth. Yn ychwanegol at y dulliau ffurfiol, arferol o gasglu tystiolaeth yng nghyfarfodydd y pwyllgor, cyfarfu'r Aelodau efo cynrychiolwyr Tir Dewi, a ffurfiwyd i helpu ffermwyr Gorllewin Cymru mewn cyfnodau anodd, a Sefydliad Jacob Abraham yng Nghaerdydd, sy'n darparu cefnogaeth ar gyfer problemau iechyd meddwl ac sy’n cefnogi pobl sydd wedi colli rhywun yn sgil hunanladdiad. Diolch i bawb a gyfrannodd at y gwaith hwn.
Dŷn ni wedi gwneud 31 argymhelliad yn yr adroddiad hwn. Os byddan nhw’n cael eu gweithredu, byddant yn gam mawr ymlaen o ran gwneud Cymru yn wlad heb hunanladdiad. Byddaf yn cyfeirio at rai o’r argymhellion hyn yn yr amser sydd gennyf heddiw.