Part of the debate – Senedd Cymru am 6:26 pm ar 20 Chwefror 2019.
Yn y lle cyntaf, fe hoffwn i ganmol ein hathrawon a'r staff yn ein hysgolion am eu hymroddiad parhaus i'r dasg gynyddol anodd o ddysgu ein disgyblion. Maen nhw'n gweithio o dan gyfyngiadau penodol o ddiffyg adnoddau a chyllid i lawer gormod o ymyrryd yn eu gwaith bob dydd. Mae’r proffesiwn dan bwysau aruthrol ar hyn o bryd, ac mae angen dweud 'diolch' iddyn nhw am barhau i geisio ysbrydoli ein plant a'n pobl ifanc ar lawr y dosbarth, sef eu priod waith ar ddiwedd y dydd. Ond mae’r cyd-destun yn un heriol.
Mae argyfwng cyllid difrifol yn wynebu ysgolion ar draws Cymru sy’n cael effaith andwyol ar addysg ein pobol ifanc. Mae hyn yn cael ei danlinellu yn yr adroddiad 'Cut to the Bone?'. Mae £324 yn llai yn cael ei wario mewn termau real yn ôl y disgybl o'i gymharu â naw mlynedd yn ôl. Yn ôl y Llywodraeth ei hun, mae yna ddiffyg yng nghyllideb dwy o bob pump ysgol.
Mae Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau yn dyfynnu data ar niferoedd athrawon gan nodi bod gostyngiad o 1,416, sef 5.6 y cant, yn nifer athrawon, ac yn aml, mae'r rhain yn athrawon profiadol sydd wedi gadael yn gynamserol yn ystod y broses o gyflawni toriadau.
Dŷn ni'n gwybod bod y gacen yn lleihau yn sgil polisïau llymder y Torïaid. Mae'n ddiddorol nodi, felly, fod y cynnig sydd gerbron heddiw yn manylu am un agwedd benodol o gyllido ysgolion. Mae Plaid Cymru yn cytuno bod yna ddiffyg tryloywder a dryswch am y fformiwla, a dŷn ni'n cytuno hefyd fod angen edrych ar effeithiolrwydd yr holl ffrydiau ariannu ysgolion ac, efallai, angen creu un ffrwd ariannu a chytuno ar sut i fesur llwyddiant.
Beth sy'n siomedig yw bod y Llywodraeth, drwy ei gwelliant, yn meddwl bod popeth yn iawn. Wel, mi ddywedaf i wrthych chi dydy popeth ddim yn iawn. Dŷn ni'n gwybod bod y broblem yn cychwyn efo'r Torïaid yn Llundain a'r ymgyrch ideolegol i danseilio ein gwasanaethau cyhoeddus drwy eu polisïau llymder nhw. Does dim rhyfedd, felly, bod y Torïaid yng Nghymru yn mynd at y glo mân, gan anwybyddu'r eliffant yn yr ystafell, sef bod y pot arian cyhoeddus yn gyffredinol yn crebachu, a bod angen buddsoddi, nid torri, ar ein gwasanaethau cyhoeddus. Ond mi fuaswn i'n dadlau hefyd: oes, mae angen i'r gacen gyhoeddus fod yn fwy yn y lle cyntaf, ond mae angen iddi hefyd gael ei thorri mewn ffordd sydd yn cyd-fynd yn well efo rhai o brif strategaethau'r Llywodraeth yng Nghymru. Dydy'r gwasanaethau ataliol ddim yn cael eu siâr ddigonol o gyllideb y Llywodraeth, a pha well enghraifft o wasanaeth ataliol nag addysg? Mae angen edrych yn llawer mwy holistaidd ar y gyllideb yn ei chrynswth a symud i ffordd o raniadau amrwd. Mae angen ariannu gwasanaethau sy'n atal problemau rhag datblygu mewn ffordd mwy priodol.
A beth am y sleisen o’r gacen sy’n mynd at addysg? Oes digon o'r sleisen addysg yn mynd at ein hysgolion, a beth a fedrid ei wneud i sicrhau bod yr arian yn cael ei wario yn briodol? Dwi yn gobeithio y bydd gwaith y Pwyllgor Plant, Pobol Ifanc ac Addysg yn bwydo i’r drafodaeth honno.
Gwaith y Llywodraeth yma ydy edrych yn hir a chaled ar y dystiolaeth a dod i gasgliadau a gweithredu yn ôl hynny. Dydy’r gwelliant, fel yr un sydd gerbron heddiw, yn helpu dim ar neb. Mae angen gwrando ar beth mae’r proffesiwn yn ei ddweud wrthym ni. Mae yna rai yn gofyn a ydy’r consortia yn sugno gormod o arian, a oes yna ddyblygu gwasanaethau ar draws yr amryfal haenau. Oes angen cyllidebau tair blynedd? Mae yna bryder bod cyllid drwy grantiau yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn yn creu ansicrwydd, yn arwain at ddull tameidiog, yn peidio ag adlewyrchu blaenoriaethau lleol bob amser. Maen nhw’n faich biwrocrataidd, a bod canran rhy uchel ohonyn nhw’n cael eu defnyddio ar gyfer tracio a monitro ac ati, ac ati. Mi allaf i ymhelaethu ar y materion penodol yna sydd angen sylw, a dwi’n edrych ymlaen at gyfrannu at waith y pwyllgor i gyfrannu tuag at hynny i gyd.
Dydy’r safbwynt o 'mae popeth yn iawn' ddim yn taro deuddeg, ac mae yn achos arall o’r Llywodraeth yma’n claddu ei phen yn y tywod tra bod ein hysgolion ni’n gwegian a’n pobl ifanc ni’n cael eu gadael i lawr.