Cyllid Addysgol

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 5 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 2:10, 5 Mawrth 2019

Mae rhagrith y Torïaid ar fater cyllido gwasanaethau cyhoeddus yn syfrdanol. Blynyddoedd o lymder y Ceidwadwyr yn San Steffan sy'n gwaedu'n hysgolion ni ac yn tanseilio cyflawniad ein plant a'n pobl ifanc. Ond, does dim dwywaith: mae angen i Lywodraeth Lafur Cymru weithredu a stopio claddu eu pennau yn y tywod. Er enghraifft, mae angen cydgordio'r gefnogaeth i ysgolion yn well i osgoi gwastraffu arian ar ddyblygu a biwrocratiaeth a chaniatáu mwy o arian i lifo i lawr y dosbarth. Pa waith dŷch chi'n ei wneud ynglŷn â hynny?