Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 5 Mawrth 2019.
Rwy'n cytuno. Rydym ni'n sicr eisiau lleihau biwrocratiaeth, a gwn fod y Gweinidog—yn sicr, ni fyddwn byth yn cyhuddo'r Gweinidog presennol o gladdu ei phen yn y tywod a gwn ei bod yn cymryd camau i sicrhau nad yw hyn yn digwydd. Nid ydym ni eisiau gweld dyblygu, nid ydym ni eisiau gweld biwrocratiaeth ychwanegol.
Dywedodd Janet Finch-Saunders yn ei chwestiwn gwreiddiol, bod y gwahaniaeth ariannu yn £607 fesul disgybl; nid yw hynny'n wir. Mater i bob awdurdod yw faint y mae awdurdod yn ei neilltuo ar gyfer cyllidebau ysgol. Ac yna mae'r ysgolion yn amlwg yn gweithio gyda'r awdurdodau lleol i sicrhau bod y gyllideb sydd ei hangen arnyn nhw ganddynt.