Y Ddeddf Cydraddoldeb 2010

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol) – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 5 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 2:25, 5 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Mae cod ymarfer Rhan 2 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn datgan,

Mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn adran 149 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn ei gwneud hi’n ofynnol i bob awdurdod lleol roi sylw priodol i nodweddion gwarchodedig wrth gyflawni eu swyddogaethau. a hefyd,

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ei gwneud hi’n ofynnol i addasiadau rhesymol gael eu gwneud i sicrhau bod pobl yn cael mynediad cyfartal at wasanaethau gwybodaeth, cyngor a chymorth. Rhaid i awdurdodau lleol sicrhau hefyd fod pobl yn cael y cymorth priodol i’w galluogi i gael mynediad at y gwasanaeth.

Byddaf i fel mater o drefn yn cynrychioli etholwyr gerbron awdurdodau lleol ar faterion sy'n amrywio o wasanaethau cymorth anabledd i iaith arwyddion Prydain, ac awtistiaeth, a hygyrchedd i gadair olwyn—mynediad i gyflogaeth hyd yn oed. Nid oes neb yn sôn am y Ddeddf Cydraddoldeb na'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) cyn i mi eu crybwyll nhw, ac erbyn hynny mae'n adeg cyfyngu ar y difrod.

Felly, pa gamau yr ydych chi'n eu cymryd i sicrhau, er enghraifft, bod y gwendidau a nodwyd yn adroddiad Cynghrair Niwrolegol Cymru ar ran y grŵp trawsbleidiol ar gyflyrau niwrolegol a gyhoeddwyd fis Tachwedd diwethaf, yn dilyn arolwg o bobl sy'n byw â chyflyrau niwrolegol, sy'n nodi diffyg gwybodaeth, cyngor a chymorth, i bobl â chyflyrau niwrolegol nad ydynt yn cael eu cyfeirio ar gyfer adolygiad neu i fod â llais—? Y pwynt allweddol yw hyn: sut mae Llywodraeth Cymru yn monitro dealltwriaeth awdurdodau lleol a gweithrediad y codau o dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), oherwydd yn rhy aml o lawer, yn ddamweiniol neu o fwriad, nid yw hynny'n digwydd fel y dylai?