Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol) – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 5 Mawrth 2019.
Mae'r Aelod yn nodi cwestiwn pwysig yn ei gwestiwn atodol. Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn hanfodol, wrth gwrs, i weithrediadau'r awdurdodau lleol. Ni oedd y Llywodraeth gyntaf i gyflwyno dyletswyddau cydraddoldeb penodol er mwyn i gyrff cyhoeddus gyflawni eu dyletswyddau'n well yn erbyn y gyfres ehangach honno o ddyletswyddau.
Mae'n bosib ei fod yn gwybod bod y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi comisiynu darn o waith i lywio hynny o ran cydymffurfiad awdurdodau lleol yn gyffredinol, ac i lywio ei waith ei hun ar gydymffurfiaeth ar draws amrywiaeth o ddyletswyddau, gan ddefnyddio hynny i ysgogi camau i sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn cydymffurfio â'u dyletswyddau cydraddoldeb yn gyffredinol. Bydd yn gwybod hefyd fod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi adroddiad o bryd i'w gilydd ar gydraddoldeb y sector cyhoeddus, ac fe gaiff hwnnw ei gyhoeddi yn yr wythnosau sydd i ddod.