Y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol) – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 5 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 2:35, 5 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Ond rwyf i wedi cael sylwadau gan unigolion sydd wedi mynegi pryderon ynglŷn ag ansawdd a phrydlondeb nifer o sefydliadau wrth ymdrin â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Ond ar ôl cyfeirio'r mater i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, ac aros cyhyd, erbyn i'r wybodaeth ddod i law, nid oedd ei hangen mwyach neu roedd digwyddiadau wedi cymryd drosodd. Yn anffodus, nid yw hyn yn anghyffredin. A ydych chi'n credu felly fod gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ddigon o adnoddau i gyflawni yn erbyn yr amcanion sydd ganddi, ac a allwch chi amlinellu pa drafodaethau a gawsoch chi ar y mater hwn er mwyn cael gwelliant?