2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol) – Senedd Cymru ar 5 Mawrth 2019.
5. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r graddau y mae cyrff cyhoeddus yn cydymffurfio â'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth? OAQ53479
O ran cyrff cyhoeddus yn gyffredinol, rôl y Comisiynydd Gwybodaeth yw monitro a gorfodi cydymffurfiaeth cyrff cyhoeddus gyda'r gyfraith mynediad at wybodaeth. Does gen i ddim rôl yn monitro cydymffurfiaeth cyrff eraill. O ran Llywodraeth Cymru yn benodol, gweision sifil sy'n delio â cheisiadau am wybodaeth gan Lywodraeth Cymru, gan ddilyn trefniadau mewnol sydd wedi eu hen sefydlu. Mae'r raddfa gydymffurfiaeth bresennol yn uwch na tharged y Comisiynydd Gwybodaeth.
Diolch am hynna.
Ond rwyf i wedi cael sylwadau gan unigolion sydd wedi mynegi pryderon ynglŷn ag ansawdd a phrydlondeb nifer o sefydliadau wrth ymdrin â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Ond ar ôl cyfeirio'r mater i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, ac aros cyhyd, erbyn i'r wybodaeth ddod i law, nid oedd ei hangen mwyach neu roedd digwyddiadau wedi cymryd drosodd. Yn anffodus, nid yw hyn yn anghyffredin. A ydych chi'n credu felly fod gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ddigon o adnoddau i gyflawni yn erbyn yr amcanion sydd ganddi, ac a allwch chi amlinellu pa drafodaethau a gawsoch chi ar y mater hwn er mwyn cael gwelliant?
Wel, mae arnaf ofn nad wyf i mewn sefyllfa i wneud sylwadau ar yr adnoddau sydd gan y Comisiynydd Gwybodaeth a'i swyddfa; mae hwnnw'n fater sydd wedi ei gadw yn ôl. Yr adran sy'n noddi Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw Gweinyddiaeth Gyfiawnder Llywodraeth y DU. Mae'n amlwg, er hynny, mae'r drefn statudol, sy'n darparu drwy adran 15 fecanwaith i geisio iawnderau, fel y disgrifia, ac mae'n nodi rhai o'r rhwystrau i hynny yn ei gwestiwn—. Ond mae yn darparu system ar gyfer ceisio mwy o wybodaeth a gallu dwyn hynny gerbron yr Uchel Lys, yn y pen draw, os na cheir yr iawnderau a geisir. Ond, yn amlwg, mae darparu'r system honno mewn modd sy'n rhoi ystyr ac effaith i'r rhwymedigaethau statudol, fel gydag unrhyw rwymedigaeth statudol, yn gofyn am lefel ddigonol o adnoddau.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol.