Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol) – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 5 Mawrth 2019.
Wel, mae arnaf ofn nad wyf i mewn sefyllfa i wneud sylwadau ar yr adnoddau sydd gan y Comisiynydd Gwybodaeth a'i swyddfa; mae hwnnw'n fater sydd wedi ei gadw yn ôl. Yr adran sy'n noddi Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw Gweinyddiaeth Gyfiawnder Llywodraeth y DU. Mae'n amlwg, er hynny, mae'r drefn statudol, sy'n darparu drwy adran 15 fecanwaith i geisio iawnderau, fel y disgrifia, ac mae'n nodi rhai o'r rhwystrau i hynny yn ei gwestiwn—. Ond mae yn darparu system ar gyfer ceisio mwy o wybodaeth a gallu dwyn hynny gerbron yr Uchel Lys, yn y pen draw, os na cheir yr iawnderau a geisir. Ond, yn amlwg, mae darparu'r system honno mewn modd sy'n rhoi ystyr ac effaith i'r rhwymedigaethau statudol, fel gydag unrhyw rwymedigaeth statudol, yn gofyn am lefel ddigonol o adnoddau.