Part of the debate – Senedd Cymru am 3:25 pm ar 5 Mawrth 2019.
Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i chi, Dirprwy Weinidog, am y datganiad pwysig hwn, a manteisio ar y cyfle i roi sylw arbennig i rai digwyddiadau ym Merthyr Tudful a Rhymni ddydd Gwener, Diwrnod Rhyngwladol y Menywod? Mae'n anrhydedd mawr inni gael cynnal yr ail blac porffor yn unig yng Nghymru, i nodi cyfraniad menywod rhyfeddol i fywyd cyhoeddus Cymru. Edrychaf ymlaen at eich gweld chi a'r Dirprwy Weinidog iechyd, Julie Morgan, yno hefyd. Bydd y plac yn cael ei gyflwyno i anrhydeddu Ursula Masson—a anwyd, a fagwyd ac a addysgwyd ym Merthyr Tudful—ac a aeth ymlaen i fod yn allweddol wrth sefydlu Archif Menywod Cymru, ac a oedd yn aelod o grŵp de-orllewin y Rhwydwaith Hanes Menywod ac yn gyd-olygydd Llafur, cyfnodolyn Cymdeithas Hanes Pobl Cymru. Ursula, fel y gwyddoch chi, a gyflwynodd y syniad o gynnal cyfres o sioeau teithiol ar hanes menywod Cymru, pryd byddai pobl yn cael gwahoddiad i ddod â deunydd yn ymwneud â hanes cymdeithasol bywydau menywod. Daeth rhai o'r eitemau hynny yn ddiweddarach yn rhan o Gasgliad y Werin Cymru.
Fel pe nad oedd hynny'n ddigon, sefydlodd Ursula yr adran Canolfan Astudiaethau Rhywedd yng Nghymru ym Mhrifysgol De Cymru, ac fe wnaeth waith ymchwil arloesol ar gyfer ei doethuriaeth ar fenywod mewn gwleidyddiaeth Ryddfrydol yn gynnar yn y ganrif ddiwethaf yng Nghymru. Gallwn fynd ymlaen yn sôn am Ursula, ond digon yw dweud ei bod hi'n ysbrydoliaeth i lawer, yn enwedig i fenywod dosbarth gweithiol, a ddaeth o hyd i gyfeiriad newydd a mynediad i addysg na fu ar gael iddyn nhw o'r blaen.
Mae gan dref enedigol Ursula, Merthyr Tudful, nifer o gerfluniau o focswyr, placiau a chofebion i ddynion. Oherwydd cyfoeth y meistri haearn, fe wyddom ni ychydig am waddol menywod Crawshay a Guest, ond mae straeon ein menywod dosbarth gweithiol, megis Ursula Masson, efallai yn llai hysbys ac yn llai enwog, ac yn sicr nid yn 'Balanced for the Better', sef thema Diwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni.
Felly, a wnewch chi ymuno â mi, yn olaf, Dirprwy Weinidog, i ddiolch i Ceinwen Statter, ymgyrchydd ac aelod o Archif Menywod Merthyr Cymru, sydd wedi bod yn allweddol o ran trefnu bod gwaith Ursula Masson yn cael ei goffáu a'i gydnabod ym Merthyr Tudful, gyda'r uchafbwynt ddydd Gwener, pan fyddwn ni'n dadorchuddio'r plac porffor i ddathlu bywyd y fenyw ryfeddol honno?