– Senedd Cymru am 4:05 pm ar 5 Mawrth 2019.
Felly, rydym ni'n troi nawr at gynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid Gwasanaeth), a galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i wneud y cynnig—Lesley Griffiths.
Cynnig NDM6979 Lesley Griffiths
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai’r darpariaethau yn y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid Gwasanaeth), sy’n gysylltiedig ag Iechyd a Lles Anifeiliaid, i’r graddau y maent o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gael eu hystyried gan Senedd y DU.
Diolch, Cadeirydd. Cynigiaf y cynnig.
Diolch i chi am y cyfle i esbonio'r cefndir i'r ddadl heddiw sydd ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Lles Anifeiliaid (anifeiliaid sy'n gweithio). Cyflwynwyd Bil Aelod preifat, y Bil Lles Anifeiliaid (anifeiliaid sy'n gweithio) yn Nhŷ'r Cyffredin gan Oliver Heald AS ar 18 Mehefin 2018, ac fe'i cefnogir gan Lywodraeth y DU. Diben y Bil yw cyflwyno amddiffyniad ychwanegol i anifeiliaid sy'n gweithio drwy ddiwygio adran 4 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006. Mae'n mynd i'r afael â phryderon y cyhoedd ynghylch cymhwyso adran 4(3)(c)(ii) o Ddeddf 2006 o ran ymosodiadau ar anifeiliaid sy'n gweithio, lle y gallai diffynnydd a gyhuddir o achosi dioddefaint diangen i anifail honni ei fod yn diogelu ei hun. Gellid dadlau y byddai modd defnyddio hyn i gyfiawnhau defnyddio grym corfforol yn erbyn anifail sy'n gweithio, gan o bosibl achosi dioddefaint diangen iddo.
Daw'r Bil yn sgil ymgyrch proffil uchel a oedd wedi'i ganolbwyntio'n bennaf ar Lywodraeth y DU, a adnabyddir fel cyfraith Finn. Dioddefodd Finn, ci heddlu, ymosodiad ffyrnig arno wrth gynorthwyo swyddog yr heddlu i restio rhywun a oedd o dan amheuaeth. Er i ymosodwr Finn gael ei erlyn a'i euogfarnu oherwydd yr ymosodiad, roedd yr achos yn amlygu pryder y cyhoedd am sut y cymhwysir adran 4(3)(c)(ii) o Ddeddf 2006.
Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i Aelodau'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig, a ystyriodd y Bil yn barod ar gyfer dadl heddiw. Gofynnodd ei aelodau am gadarnhad nad yw'r Bil yn effeithio ar hawliau dinasyddion nad ydynt yn ymwneud â gweithgarwch troseddol, nac o dan amheuaeth o hynny. Nid yw'r Bil arfaethedig yn amharu ar yr hawl sydd yng nghyfraith gwlad i amddiffyn eich hun, ac nid yw'n berthnasol mewn achosion lle yr ymosodir ar bobl ddiniwed sydd gerllaw gan anifail sy'n gweithio. Mae'n rhaid i'r defnydd o'r anifail fod yn rhesymol, ac mae'n rhaid i'r anifail fod o dan reolaeth swyddog perthnasol, fel y disgrifir yn y Bil. Rwyf yn fodlon nad oes unrhyw faterion hawliau dynol yn gysylltiedig â'r Bil hwn, ac rwy'n gobeithio y bydd hyn yn tawelu unrhyw bryderon a allai fod gan Aelodau.
Hoffwn hefyd ddiolch i aelodau'r Pwyllgor Materion Deddfwriaethol a Chyfansoddiadol am ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol. Rwyf wedi nodi siom aelodau nad yw'r amddiffyniad arfaethedig ar gyfer anifeiliaid gwaith wedi ei weithredu yng Nghymru drwy gyfrwng Bil i Gymru. Rwyf yn llwyr gefnogol o ddeddfwriaeth i Gymru yn cael ei chreu yng Nghymru. Fodd bynnag, mae'n rhaid i mi hefyd ystyried y pwysau digynsail y mae Llywodraeth Cymru yn ei hwynebu o ran Brexit, a pha un a fyddai cyflwyno Bil ar amserlen wahanol i Loegr er lles gorau yr anifeiliaid y mae hyn yn ceisio'u hamddiffyn. Nid oes Bil Llywodraeth Cymru gerbron y Cynulliad ar hyn o bryd ac ni fwriedir cyflwyno hynny ym mlwyddyn bresennol y Cynulliad a fyddai'n gyfrwng addas i gynnwys darpariaethau Bil Lles Anifeiliaid (anifeiliaid sy'n gweithio). Yn wir, fel y mae'r Pwyllgor wedi ei amlygu yn ei adroddiad, mae lles anifeiliaid yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, ac oherwydd hyn, rwyf yn sicr bod y llwybr mwyaf priodol ac amserol er mwyn amddiffyn anifeiliaid sy'n gweithio wedi cael ei gymryd am resymau amseru a chydlyniad. Mae darpariaethau'r Bil yn cyd-fynd ag amcanion polisi Llywodraeth Cymru ynghylch hybu lles anifeiliaid. Bydd bwrw ymlaen â'r rhain yn y Bil DU hwn yn golygu y rhoddir yr un lefel o amddiffyniad i'r anifeiliaid sy'n gweithio yng Nghymru ar yr un pryd â'r rhai yn Lloegr. Gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol hwn.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig—Mike Hedges.
Diolch, Lywydd. Rwyf yn siarad ar ran y Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd, Yr Amgylchedd a Materion Gwledig. Ystyriodd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Lles Anifeiliaid (anifeiliaid sy'n gweithio) yn ein cyfarfod ar 13 Chwefror. Canolbwynt ein hystyriaethau oedd amcanion polisi y Bil fel y'u nodir yn y Memorandwm. Ni chawsom unrhyw reswm dros wrthwynebu i'r Cynulliad gytuno ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol sydd ger ein bron heddiw.
Gobeithiaf, ar ôl gwrando yn ofalus ar yr hyn a ddywedodd y Gweinidog, ei bod yn rhoi sicrwydd gan Lywodraeth Cymru na fydd y newidiadau arfaethedig yn arwain at leihau hawliau dinasyddion i ddiogelu eu hunain rhag niwed mewn achos o ymosodiadau di-alw-amdanynt gan anifeiliaid sy'n gweithio. Gobeithio y bydd hi'n cadarnhau hynny yn ei hymateb.
Llywydd, hoffwn godi mater cyffredinol am broses y cynnig cydsyniad deddfwriaethol yng nghyd-destun y ddadl heddiw. Wrth i'r pwyllgor graffu ar nifer o'r cynigion cydsyniad deddfwriaethol yn ddiweddar, rydym wedi ei chael hi'n anodd gweld rhesymeg gyson ar gyfer safbwynt Llywodraeth Cymru y dylai Senedd y DU, yn hytrach na'r Cynulliad, ddeddfu mewn maes cymhwysedd datganoledig. Mae'r Bil Lles Anifeiliaid (anifeiliaid sy'n gweithio) yn cynnwys darpariaeth gul ynghylch pwnc annadleuol. Fodd bynnag, bydd Biliau eraill yr ydym wedi'u hystyried yn gwneud newidiadau sylfaenol ac eang mewn meysydd allweddol lle mae cyfrifoldeb wedi'i ddatganoli. Nid yw'n ymddangos bod unrhyw egwyddor ac eithrio cyfleustra wrth wraidd ymagwedd Llywodraeth Cymru. Gwyddom y bydd gofyn i'r Cynulliad ystyried cynigion cydsyniad deddfwriaethol eraill maes o law, ac oherwydd y rheswm hwnnw, rwyf wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog i gael eglurhad ar ymagwedd Llywodraeth Cymru at ddeddfu drwy'r broses cynnig cydsyniad deddfwriaethol, a byddaf yn gwneud yn siŵr bod yr ymateb hwnnw ar gael i bob Aelod. Diolch, Lywydd.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol—Mick Antoniw.
Diolch Llywydd. Buom yn ystyried cynnig cydsyniad deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ynglŷn â'r Bil yn ein cyfarfod ar 4 Chwefror, ac fel Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, wrth gwrs, rydym yn edrych ar agweddau technegol a chyfansoddiadol y Bil ei hun, yn hytrach na'r amcanion polisi penodol.
Rydym wedi nodi rhesymau Llywodraeth Cymru dros pam, yn ei barn hi, mae darparu ar gyfer Cymru mewn Bil y DU yn briodol. Fodd bynnag, rydym hefyd yn mynegi ein siom nad oedd Llywodraeth Cymru wedi gweld yr angen na'r cyfle i gyflwyno ei deddfwriaeth ei hun, yn enwedig gan fod y Gweinidog wedi dweud bod lles anifeiliaid yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. O ran y pwynt a godwyd gan y Gweinidog mai dim ond drwy gymryd darpariaethau yn y Bil y bydd anifeiliaid sy'n gweithio yng Nghymru yn cael yr un lefel o amddiffyniad ar yr un pryd â'r rhai yn Lloegr, nid ydym o'r farn bod y rheswm hwn ynddo'i hun yn ddigon i beidio â mynd ar drywydd llwybr deddfwriaethol Cymru. Yn ein barn ni, gallai prosesau deddfwriaethol o fewn y Cynulliad a Senedd y DU fod wedi galluogi craffu ar Filiau unigol o fewn terfynau amser tebyg. Ar y llaw arall, mae gwledydd o fewn y DU eisoes wedi deddfu ar wahanol amserau ar faterion eraill, gan gynnwys isafswm pris yr uned ar gyfer alcohol, taliadau am fagiau siopa untro, ac ati. Rydym ni o'r farn, ac rydym yn ailddatgan ein safbwynt, y byddai deddfu ar sail Cymru yn unig hefyd wedi cefnogi nod Llywodraeth Cymru o ddatblygu a chefnogi corff dwyieithog o gyfraith hygyrch i Gymru.
Mi fydd Plaid Cymru yn cefnogi'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol yma, ond rydw innau hefyd yn cael trafferth yn deall sut mae Llywodraeth Cymru'n penderfynu a yw hi'n briodol i adael i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddeddfu mewn meysydd sydd wedi eu datganoli, oherwydd does dim rheswm yn fy marn i pam na allen ni fod wedi deddfu ein hunain ar y mater yma. Ac fel aelod o wrthblaid sy'n llefarydd ar y pwnc yma, mae'n rhwystredig iawn i fi i weld Gweinidogion Cymru a Gweinidogion San Steffan yn dod â rhyw fait accompli inni fan hyn yn y Senedd i'w dderbyn neu ei wrthod e. Hynny yw, mi fyddwn i wedi dymuno trio dylanwadu ar gynnwys yr hyn sy'n cael ei drafod yn fan hyn, ond wrth gwrs, mae'r peth yn fix sy'n cael ei gytuno rhwng Gweinidogion yn hytrach na'n bod ni fel Aelodau Cynulliad fan hyn yn cael hawl, fel y dylen ni, i graffu ar y cynigion yma yn y manylder y maen nhw'n ei haeddu.
Nawr, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod y pwysau deddfwriaethol sy'n dod yn sgil Brexit yn golygu efallai fod yn rhaid i hynny gael blaenoriaeth o flaen peth deddfwriaeth domestig—dwi'n deall yr issue yna, ond does dim tystiolaeth o ddeddfwriaeth o'r math yna'n dod ger ein bron ni fan hyn ar lawr y Senedd eto, mewn gwirionedd. Ac rŷn ni'n clywed Gweinidogion, a'r Cwnsler Cyffredinol hefyd yn dweud ei fod yn awyddus a bod y Llywodraeth yn awyddus i adeiladu corff cydlynol o ddeddfwriaeth Gymreig, a'r Gweinidog ei hunan yn dweud ei bod hi am weld Deddfau Cymreig yn cael eu creu fan hyn yng Nghymru, ond wedyn dŷn ni ddim yn gwneud hynna pan fod y cyfle yn dod inni wneud hynna. Os na allwn ni ddeddfu ein hunain ar y mater yma—mae e'n Fil byr, mae e'n Fil dau gymal, mae e'n cynnwys darpariaethau cul, anghynhennus—yna o dan ba amgylchiadau allwn ni fyth bod yn deddfu ar fater fel hwn?
Y Gweinidog i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Llywydd, a diolch i Mike Hedges, Mick Antoniw a Llŷr Huws Gruffydd am eu cyfraniadau. Rwy'n deall pryderon a siom yr Aelodau, ac roeddwn i wedi gobeithio fy mod wedi esbonio pam yr oeddem yn ei wneud yn y modd hwn. Mae'n rhaid i ni ystyried cymesuredd a doethineb wrth i ni wneud penderfyniadau wrth gyflwyno deddfwriaeth. Fel yr wyf yn ei ddweud, nid oes unrhyw Fil Llywodraeth Cymru gerbron y Cynulliad hwn nac y bwriedir ei gyflwyno ym mlwyddyn bresennol y Cynulliad y gallwn ni ei ddefnyddio. Nid oeddwn eisiau amserlen a oedd yn wahanol i Loegr ychwaith. Felly, roeddwn i'n credu mai hon oedd y ffordd fwyaf priodol. Ond rwyf eisiau i Aelodau ddeall fy mod i'n deall eu pryderon ynghylch hyn. Credaf ei fod yn wirioneddol bwysig ein bod yn gallu cynnig amddiffyniad gwell i anifeiliaid sy'n gweithio yng Nghymru gan hefyd amddiffyn pobl ddiniwed sydd gerllaw, a gobeithiaf, y bydd yr hyn a ddywedais yn fy sylwadau agoriadol, yw rhoi sicrwydd i Mike Hedges nad yw'r Bil yn tresmasu ar hawliau dynol, oherwydd bod hunanamddiffyniad yn parhau i fod yn amddiffyniad cyfraith gwlad, a hefyd mae'n rhaid i anifail fod yn gweithredu'n rhesymol ac o dan reolaeth y swyddog perthnasol fel y disgrifiwyd yn bendant yn y Bil.
Felly, yr hyn y mae'r Bil hwn yn ei wneud yw—. Drwy symud y darpariaethau ymlaen ym Mil y DU, mae'n golygu y bydd anifeiliaid sy'n gweithio yng Nghymru yn cael eu hamddiffyn i'r un lefel, ar yr un pryd, â'r rhai yn Lloegr, a chredaf fod y ddeddfwriaeth hon yn cynrychioli cam mawr ymlaen i Gymru—dangosydd clir nas goddefir creulondeb i anifeiliaid, a gofynnaf i'r Aelodau am eu cefnogaeth.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.