– Senedd Cymru am 4:16 pm ar 5 Mawrth 2019.
Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar ail gyllideb atodol 2018-19. Dwi'n galw ar y Gweinidog cyllid i wneud y cynnig—Rebecca Evans.
Diolch. Mae'r ail gyllideb atodol yn rhan safonol o'r broses rheolaeth ariannol flynyddol ac mae'n gyfle olaf i ddiwygio cynlluniau cyllidebol ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol fel y mae'r Cynulliad hwn wedi ei gymeradwyo eisoes. Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid am eu gwaith yn craffu ar yr ail gyllideb atodol. Byddaf yn ymateb i argymhellion y Pwyllgor maes o law. Yn bennaf, mae'r gyllideb hon yn gyfrwng i godeiddio'r newidiadau angenrheidiol o ganlyniad i reolaeth ariannol yn ystod y flwyddyn. Mae'n alinio'r adnoddau sydd ar gael â blaenoriaethau'r Llywodraeth, ac mae'r rhan fwyaf o'r newidiadau i gynlluniau yn bennaf o natur weinyddol. Mae'n rhoi manylion am addasiadau o ganlyniad i drosglwyddiadau o fewn y prif grwpiau gwariant; trosglwyddiadau rhwng y prif grwpiau gwariant; dyraniadau o'r cronfeydd wrth gefn; newidiadau yn y terfyn gwariant adrannol cyffredinol, gan gynnwys symiau canlyniadol ac addasiadau eraill sy'n deillio o benderfyniadau Trysorlys ei Mawrhydi; diwygiadau i'r rhagolygon o drethi datganoledig; a'r rhagolygon diweddaraf ar gyfer gwariant a reolir yn flynyddol y cytunwyd arnynt â Thrysorlys EM. Mae mwyafrif y dyraniadau a ffurfiolwyd gan y gyllideb atodol hon eisoes wedi'u cyhoeddi gan Weinidogion portffolio, ac mae'r Aelodau wedi cael cyfle i graffu arnynt.
Mae'r GIG yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol i'r Llywodraeth hon. Mae'r gyllideb hon yn cynnwys dyraniadau refeniw o dros £138 miliwn o gronfeydd wrth gefn Llywodraeth Cymru i gefnogi'r GIG Cymru. Mae hyn yn cynnwys cyllid ar gyfer dyfarniad cyflog yr 'Agenda ar Gyfer Newid' y GIG ac ar gyfer talu meddygon a deintyddion. Dyrannwyd £4 miliwn ychwanegol o refeniw fel rhan o'r pecyn ariannu a gyhoeddwyd fis Tachwedd diwethaf i helpu i leddfu pwysau'r gaeaf ar wasanaethau cymdeithasol llywodraeth leol. Mae hyn yn ychwanegol at y £10 miliwn a ddarparwyd yn y gyllideb ddrafft y flwyddyn flaenorol. Dyrennir adnoddau ychwanegol hefyd i leddfu rhywfaint ar y pwysau cyllidebol a wynebir gan awdurdodau lleol i weithredu'r dyfarniad cyflog athrawon, a dyrennir £16.2 miliwn eleni o gronfeydd wrth gefn ar gyfer hyn.
Dyrannwyd £4 miliwn o refeniw ar gyfer y prosiect Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus i wella cysylltedd digidol, gan gysylltu mwy o bobl â mwy o swyddi, nwyddau a gwasanaethau, a chefnogi cynaliadwyedd cymunedau gwledig.
Cyhoeddwyd cyllid cyfalaf ychwanegol o £100 miliwn dros dair blynedd ar gyfer awdurdodau lleol yn y gyllideb ddrafft ddiweddar. Dyrennir £50 miliwn o'r arian hwnnw yn y gyllideb atodol. Mae'r cyllid hwn yn rhoi hyblygrwydd i'r awdurdodau lleol wario yn ôl eu gweledigaeth nhw o'r hyn sy'n briodol i gyflawni blaenoriaethau lleol a Llywodraeth Cymru. Hefyd, bydd awdurdodau lleol yn cael cyllid cyfalaf ychwanegol o £20 miliwn yn y gyllideb atodol hon i gefnogi gwaith adnewyddu ffyrdd fel rhan o becyn £60 miliwn a gyhoeddwyd yn y gyllideb ddrafft. Bydd hyn yn helpu i atgyweirio difrod a achoswyd gan gyfres o aeafau caled a haf poeth iawn 2018. Mae £87 miliwn o arian cyfalaf cyffredinol wedi'i ddyrannu i'r portffolio economi a thrafnidiaeth. Mae hyn yn cynnwys ymrwymiad y flwyddyn hon i'r gronfa drafnidiaeth leol a gwariant ar yr M4.
Dyrannwyd dros £115 miliwn i gefnogi gwariant sy'n gymwys ar gyfer cyllid trafodion ariannol. Mae hyn yn cynnwys £30 miliwn i gefnogi cyfanswm buddsoddiad o £40 miliwn i sefydlu cynllun hunan-adeiladu Cymru. Bydd hyn yn cynnig llwybr i mewn i berchentyaeth i bobl sydd eisiau aros yn eu hardal leol, ac yn darparu cyfleoedd i gwmnïau adeiladu BBaCh a masnach leol.
Gan fod twristiaeth yn sbardun economaidd allweddol mewn cymunedau ledled Cymru, rwyf wedi dyrannu cyfanswm o £50 miliwn, £40 miliwn ohono yn drafodion ariannol i sefydlu cronfa buddsoddi twristiaeth Cymru. Bydd hyn yn helpu twf parhaus y diwydiant yng Nghymru ac yn cefnogi newid i'r model buddsoddi o roi grantiau i gymysgedd o ariannu cyllid busnes ad-daladwy a rhai nad ydynt yn ad-daladwy.
Y gyllideb hon hefyd yw'r gyntaf i wneud newidiadau yn ystod y flwyddyn i'n rhagamcanion treth ddatganoledig. Fel yr adroddwyd, ochr yn ochr â'r gyllideb derfynol, mae'r refeniw disgwyliedig o dreth trafodion tir a'r dreth gwarediadau tirlenwi ar gyfer eleni yn £286 miliwn—sef cynnydd o £10 miliwn ers y gyllideb atodol gyntaf.
Llywydd, mae cyllidebau atodol yn weinyddol eu natur yn bennaf. Mae'r gyllideb hon yn rhoi manylion am yr addasiadau amrywiol eraill sydd i'w gwneud i'n cyllideb yn y flwyddyn ariannol hon, gan gynnwys newidiadau i floc Cymru, diwygiadau i'r rhagamcanion gwariant a reolir yn flynyddol a throsglwyddiadau eraill rhwng, ac o fewn, portffolios gweinidogol. Hoffwn ddiolch eto i'r Pwyllgor Cyllid am eu gwaith craffu ar y gyllideb atodol, a gofynnaf i'r Aelodau ei chefnogi. Diolch.
Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae’n bleser gen i siarad yn y ddadl yma heddiw ar ran y Pwyllgor Cyllid. Mi gafodd y pwyllgor gyfarfod ar 14 Chwefror i drafod yr ail gyllideb atodol gan y Llywodraeth ar gyfer 2018-19. Wrth ystyried y gyllideb atodol hon, mi oedd y pwyllgor yn gymharol fodlon. Serch hynny, rŷn ni wedi gwneud nifer o argymhellion yr hoffem ni eu gweld nhw’n cael eu gweithredu a’u datblygu. Yn gyntaf, mae’r pwyllgor yn cydnabod mae proses barhaus a hirdymor i Lywodraeth Cymru yw cyflawni uchelgeisiau Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol. Fodd bynnag, mae'r pwyllgor yn siomedig o weld mai prin yw’r dystiolaeth o ran sut mae’r Ddeddf yn cael ei hystyried wrth wraidd holl benderfyniadau Llywodraeth Cymru. Felly, rŷn ni’n argymell bod Llywodraeth Cymru’n darparu cynllun cynhwysfawr ar gyfer pennu amcanion, yn amlinellu sut y mae’n bwriadu cyflawni gofynion y Ddeddf, yn enwedig o ran cyllidebu, ac i wneud hynny erbyn diwedd y Cynulliad hwn.
Gan droi at ffordd liniaru bosib yr M4, mae’r gyllideb atodol hon yn ymrwymo £27.8 miliwn i’r project, ac rŷn ni’n cydnabod, wrth gwrs, nad oes penderfyniad wedi bod eto o ran bwrw ymlaen ai peidio â’r ffordd liniaru. Ond, mi oedd y pwyllgor yn synnu o glywed, o ystyried yr arian sydd eisoes wedi ymrwymo i’r prosiect, nad oes unrhyw drafodaeth wedi bod rhwng y Gweinidog cyllid a’r Prif Weinidog o ran cynllunio ar gyfer ffordd liniaru bosib yr M4. Os caiff penderfyniad ei wneud i fwrw ymlaen â’r ffordd liniaru, yna rŷn ni’n argymell y dylai’r Gweinidog a’r Prif Weinidog gychwyn trafodaethau ar gynllunio cyllido hirdymor yn fuan.
Mae dyraniadau’r gyllideb atodol yn cynnwys £9.5 miliwn gyda’r amcan o ad-drefnu’r gweithlu yn Llywodraeth Cymru. Fe wnaethon ni glywed tystiolaeth fod y Llywodraeth yn ceisio dod â sgiliau newydd i mewn, ac efallai hefyd greu swyddi i gefnogi Brexit. Ond doedd dim ffigurau ar gael am arbedion na chostau gwirioneddol. Bydden ni yn disgwyl i gynllun o’r fath werth arwain at arbedion i’r sefydliad. Felly, rŷn ni yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r pwyllgor am ganlyniad y cynllun ymadael gwirfoddol, yn dangos sut y defnyddiwyd yr arian hwnnw a pha arbedion fydd yn cael eu cyflawni yn y tymor hwy.
Gan symud ymlaen at iechyd a gofal cymdeithasol, fe wnaethon ni glywed tystiolaeth bod £20 miliwn wedi cael ei neilltuo dros y gaeaf blaenorol i liniaru’r pwysau disgwyliedig ar y byrddau iechyd. Nawr, rŷn ni’n cydnabod bod pwysau’r gaeaf yn gallu amrywio o flwyddyn i flwyddyn, ond, yn y Deyrnas Unedig, rŷn ni’n credu bod modd rhagweld y mathau hyn o bwysau, i raddau helaeth. Mae’r pwyllgor yn argymell, felly, fod cynllunio ariannol yn y dyfodol ar gyfer y byrddau iechyd yn cyfri am wariant y mae modd ei ragweld ar gyfer pwysau’r gaeaf, a hynny cyn gynted â phosib yn y broses gyllidebu. Byddai hyn yn osgoi, wedyn, yr angen am gyllid sylweddol yn ystod y flwyddyn, a gallai hefyd leddfu pryderon y pwyllgor y gallai prif grŵp gwariant—y MEG—iechyd fod yn rhyw fath o gronfa wrth gefn yn ei hun ar gyfer darparu cyllid iechyd ychwanegol.
Gan droi at Brexit, mae'r pwyllgor yn cefnogi Llywodraeth Cymru i ddefnyddio'r swm canlyniadol llawn yn ymwneud â Brexit ar gyfer paratoadau i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Fodd bynnag, mae pryder bod yr ansicrwydd am y ffordd y mae’r Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, ar lefel y Deyrnas Unedig, yn achosi risg sylweddol i waith cynllunio Llywodraeth Cymru. Rŷn ni’n cefnogi sylwadau Llywodraeth Cymru y byddai'n troi at Lywodraeth y Deyrnas Unedig os bydd senario ‘dim cytundeb’ i sicrhau unrhyw gyllid perthnasol ac y byddai'n disgwyl cael ei hysbysu am ddatblygiadau os bydd y senario hon yn codi.
Yn olaf, mae'r pwyllgor yn croesawu'r cyfle i drafod y memorandwm esboniadol y mae Comisiwn y Cynulliad wedi'i ddarparu cyn iddo gael ei osod. Mae'r Comisiwn, am y tro cyntaf, yn dychwelyd tanwariant o benderfyniad y bwrdd taliadau i gronfa gyfunol Cymru, ac rŷn ni'n croesawu hyn.
Mae'r pwyllgor hefyd yn fodlon gyda'r memorandwm esboniadol y mae'r ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus wedi'i ddarparu. Serch hynny, mae'n gobeithio, wrth baratoi amcangyfrifon a chyllidebau atodol yn y dyfodol, y bydd yr ombwdsmon yn ystyried argymhellion y Pwyllgor Cyllid ynghylch sut y dylid cyflwyno'i gyllideb a pha wybodaeth sy'n cael ei darparu i gefnogi ei alwadau i sicrhau tryloywder. Felly, gyda hynny o sylwadau, mae hwn wedi bod yn gyfle i mi gyfleu safbwynt y Pwyllgor Cyllid, ac rwy’n edrych ymlaen i’r Llywodraeth, wrth gwrs, ymateb yn bositif i’n hargymhellion ni.
Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl heddiw ar y gyllideb atodol ger ein bron. A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei pharodrwydd i gyfarfod ac i ymgysylltu yn ystod y broses o bennu'r gyllideb hon? Cefais lawer o drafodaethau defnyddiol gyda'ch rhagflaenydd, ac rwyf yn falch bod yr ysbryd hwnnw o gydweithredu wedi parhau. Rwyf yn falch hefyd o gael cymryd rhan yng ngwaith y Pwyllgor Cyllid ar y gyllideb atodol a byddaf yn cyfeirio at rai o'r casgliadau ac argymhellion y Pwyllgor yn ystod fy sylwadau heddiw, er bod y Cadeirydd wedi cyfeirio at nifer o'r rheini'n barod.
Mae prif argymhelliad y pwyllgor, Argymhelliad 1, yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cynllun nodi amcanion cynhwysfawr i alinio'r gyllideb â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Rydym yn dod yn ôl at hyn dro ar ôl tro. Un peth yw cael darn o ddeddfwriaeth arloesol fel y ddeddfwriaeth Cenedlaethau'r Dyfodol, rhywbeth a gafodd ei groesawu gan rannau eraill o'r DU a phleidiau eraill, ond peth arall yw sicrhau bod y ddeddfwriaeth honno yn ystyried pob agwedd ar bolisi a phennu cyllideb, a'i bod yn cael ei hystyried gan bob adran yn Llywodraeth Cymru. Byddai Steffan Lewis yn cwestiynu drwy'r amser yn y Pwyllgor, a oedd hyn yn digwydd yn ymarferol, a'r hyn a olygai i'r Ddeddf, ac, yn wir, yr holl broses ddeddfu. Nawr, rwy'n sylweddoli nad ar chwarae bach y mae ceisio cyflawni hyn, ond rhaid inni gael mwy o eglurder ar sut y gall ddigwydd fel bydd y ddeddfwriaeth o werth yn y dyfodol. Ni all cyhoeddiadau yn ystod y flwyddyn am weithgareddau
'ddisodli naratif cynhwysfawr cylch y gyllideb'.
Dywedir hyn yn yr adroddiad.
Gan droi at rai o'r newidiadau unigol, a rhai o'r trosglwyddiadau o un MEG i'r llall, fel yr eglurwyd mor huawdl gan y Gweinidog— nid rhywbeth a drafodir mewn clybiau a thafarndai ledled y wlad, rwyf yn siŵr, ond gwyddom ni oll am bwysigrwydd y MEG a'r DEL—. Gan droi at rai o'r newidiadau unigol, ac yn gyntaf, yr un pwysicaf-y gyllideb ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol—mae unrhyw arian ychwanegol ar gyfer y gyllideb iechyd, wrth gwrs, i'w groesawu. Mae fy mhlaid i wedi bod yn galw am yr arian ychwanegol hwnnw ar gyfer y gyllideb iechyd am gyfnod hir, ac mae'r £5 miliwn sy'n cael ei gyhoeddi—rhan, yn ôl yr hyn a ddeallaf, o'r £15 miliwn a addawyd yr haf diwethaf—i'w groesawu.
Ond, mae'n rhaid ichi ofyn, fel y gwnaeth y Pwyllgor: ai hon yw'r ffordd fwyaf effeithlon o wneud pethau? Credaf, fel y dywedodd Mike Hedges yn y Pwyllgor Cyllid, fod y gaeaf yn dueddol o ddigwydd yn rheolaidd-bob blwyddyn—ac mae'r Llywodraeth yn gwybod y bydd yna bwysau bob blwyddyn, ac mae byrddau iechyd lleol yn gwybod y bydd yna bwysau bob blwyddyn. Efallai nad ydynt yn gwybod yn union beth fydd y pwysau hynny, ond gwyddom y byddant yn dod bob blwyddyn, ac eto, bob amser, ceir y math hwn o syndod yn y Pwyllgor gan y Llywodraeth fod y gaeaf ar ein gwarthaf a bod pob mathau o broblemau yn digwydd, pethau y gellid ac y dylid, wrth gwrs, eu rhagweld, o leiaf mewn ffordd gyffredinol. Felly, a allwn ni edrych ar y ffordd y gwneir hyn yn y dyfodol fel y gallwn arfarnu'r sefyllfa'n gynharach yn y flwyddyn a bod cynaliadwyedd ariannu yn cael ei sicrhau? Mae hyn yn gysylltiedig ag argymhellion blaenorol gan y Pwyllgor Cyllid ynghylch yr angen am dreigl cyllidebau hirach o fewn y cylch gwleidyddol.
Mae cyllido byrddau iechyd yn parhau i fod yn fan gwan. Mae'n ymddangos eu bod yn gallu amsugno symiau cynyddol o arian sy'n cael ei arllwys iddyn nhw. Wrth gwrs, mae yna ofyn cyfreithiol arnynt i fantoli'r gyllideb dros gyfnod o dair blynedd, ond nid yw hyn byth braidd yn digwydd, yn sicr nid pob un ohonynt. Mae angen inni gael asesiad llawer cynharach ar effaith pwysau'r gaeaf, yn hytrach na darparu'r arian hwn yn ystod y flwyddyn. Neu o leiaf ni ddylid dibynnu bob amser ar yr ariannu hwn o fewn y flwyddyn, fel bod byrddau iechyd lleol yn cael pob cyfle i gynllunio o flaen llaw ac, yn wir, fel bod Llywodraeth Cymru yn gallu cysylltu'n well gyda nhw ar y cynllunio hwnnw.
Gan droi at drafnidiaeth a, do Llyr, fe gawsom ni drafodaethau diddorol ar y paratoadau ariannol wrth geisio datrys y tagfeydd ar yr M4 o amgylch Casnewydd—mae'n rhyfeddol beth y gall pâr ffres o lygaid ar y Pwyllgor ei wneud, onid yw? Cawsom ein synnu mai trafodaethau cyfyngedig a gynhaliwyd rhwng y Gweinidog Cyllid a'r Prif Weinidog. Mae'n amlwg y bydd goblygiadau ar gyfer gwariant o brosiect mor fawr os aiff rhagddo, a hefyd, gallu benthyca Llywodraeth Cymru. Mae yna gwestiynau ynghylch y swm o arian a allai fod wedi'i wario gan fod y penderfyniad i fod i gael ei wneud yn wreiddiol ym mis Rhagfyr, a chredaf fod angen inni gael eglurhad am hynny. Rydym yn gwybod bod swm mawr o arian eisoes wedi'i wario ar baratoadau ar gyfer yr M4 os bydd yn mynd yn ei flaen. Beth yn union sydd wedi'i wario ers mis Rhagfyr pan oeddem yn disgwyl, neu pan oedd y rhan fwyaf ohonom yn disgwyl i'r penderfyniad gwreiddiol gael ei wneud? Mae angen i hyn fod yn hysbys.
Heb fynd yn rhy ddwfn i'r mater, mae angen eglurder mor fuan â phosib a yw'r ffordd yn mynd ymlaen. Os nad yw'n mynd i ddigwydd, yna gwyddom pa baratoadau sydd ar waith ar gyfer ateb amgen, boed hynny'n ffordd arall neu ariannu trafnidiaeth gyhoeddus, neu'n gymysgedd o'r ddau; rhaid i Lywodraeth Cymru edrych ar hynny a phenderfynu beth sydd orau, ac mae'r cyhoedd yn disgwyl hynny.
Wrth gwrs, nid yw'n bosib trafod cyllidebu ar hyn o bryd heb gyfeirio at Brexit, ac rwyf yn deall yn llwyr sefyllfa Llywodraeth Cymru fod angen mwy o eglurder ynghylch lle byddwn ni mewn amser cymharol fyr bellach. Ond mae Argymhelliad 8, Llywydd, yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi adroddiad llawn ar weithgareddau sy'n ymwneud â'r DU yn gadael yr UE. Ie, rydym yn edrych tuag at Lywodraeth y DU i gyflwyno cynlluniau, ond mae hefyd angen i Lywodraeth Cymru fod yn barod i symud ymlaen yn gyflym iawn pan fydd gennym eglurder i wneud yn siŵr y gallwn wneud y mwyaf o'r sefyllfa wleidyddol newydd yn y DU ac yng Nghymru ar ôl mis Mawrth, neu bryd bynnag y bydd Brexit yn digwydd.
Mater cymharol dechnegol, wrth gwrs, ydy'r gyllideb atodol yma, felly wnaf i ddim siarad yn hir, ond mae e'n werth nodi mai dyma fydd y gyllideb atodol olaf, dwi'n credu, fel rhan o'r cytundeb dwy flynedd roedd fy mhlaid i wedi'i gytuno gyda Llywodraeth Lafur. Ac rŷn ni wedi medru cyflawni llawer fel rhan o'r cytundeb hwnnw, ac rŷn ni'n dathlu hynny, yn arbennig yn ystod y cyfnod diwethaf yma. Hoffwn i gyfeirio at ddau beth, a dweud y gwir, a all greu sylfeini ar gyfer y dyfodol a gobeithio, wrth gwrs, maes o law, sylfeini y gallwn ni adeiladu arnyn nhw pan dŷn ni yn llywodraethu.
Rwy'n cyfeirio'n bennaf at gynllun yr Arfor sydd wedi cael ei gyhoeddi yn ystod yr wythnosau diwethaf, sydd yn gosod mas fframwaith gychwynnol ar gyfer mynd i'r afael â'r problemau hirdymor rŷm ni'n mynd i wynebu yn y gorllewin, yn y de-orllewin, yn y gogledd-orllewin, yn y gorllewin Cymraeg felly, yn ein heconomi'n fanna sydd, wrth gwrs, nid yn unig yn bwysig o ran polisi datblygu economaidd, ond sydd â sgileffaith eithaf sylfaenol o ran hyfywedd y cymunedau hynny, a hynny wedyn, wrth gwrs, yn effeithio ar ein huchelgais ni o ran sicrhau dyfodol hyfyw o ran y Gymraeg yn yr ardaloedd sydd mor greiddiol i'w ffyniant.
Mae'r rhaglen honno yn un arbrofol, yn un arloesol, oherwydd mae'n rhaid inni wneud pethau o'r newydd; allwn ni ddim cario ymlaen i wneud yr un hen beth gyda'n polisi economaidd ni, polisi economaidd sydd wedi methu'r cymunedau hynny. Mae hynny i'w weld, wrth gwrs, yn y diffyg cyrhaeddiant o ran perfformiad economaidd yn yr ardaloedd hynny. Felly, mae'n dda i weld cydnabyddiaeth o hynny ar ran y Llywodraeth, a dweud y gwir. Man cychwyn ydy cydnabod eich bod chi'n mynd yn rong, yntefe—y cam cyntaf ydy gwneud rhywbeth gwahanol. Ac er ar raddfa fach o ran buddsoddiad—dim ond £2 filiwn dŷn ni'n sôn amdano i ddechrau—o leiaf dŷn ni wedi medru creu sylfaen ar gyfer meddwl o'r newydd, edrych o'r newydd, a gobeithio y bydd modd maes o law, yn ein tyb ni, wrth gwrs—dim ond trwy ffurfio Llywodraeth Plaid Cymru y byddwn ni'n gallu troi'r rhaglen gychwynnol yma yn rhaglen drawsnewidiol ar gyfer yr ardaloedd hyn.
I’r un cyfeiriad, wrth gwrs, ar lefel genedlaethol, hefyd mae’r rhaglen sydd yn ymwneud â’r economi gwaelodol—foundational economy—yn cydnabod hefyd fod yna ddiffyg sylfaenol wedi bod yng nghyfeiriad polisi economaidd y Llywodraeth. Hynny yw, diffyg pwyslais ar gwmnïau bychain a chanolig eu maint wedi gwreiddio yn yr economi lleol yng Nghymru—grounded firms yn ieithwedd yr ymagwedd neu’r dynesiad yma. Ond hefyd, wrth gwrs, ceisio defnyddio’r levers sydd ar gael inni yn yr economïau yr oedd Hefin David wedi sôn amdanyn nhw—rhai o’r ardaloedd ym Mlaenau’r Cymoedd er enghraifft, sydd ddim wedi cael ffocws digonol ynglŷn â chreu swyddi cynaliadwy, hirdymor, sefydlog, gwerth uchel, cyflog uchel yn yr ardaloedd hynny. Mae’r un patrwm i’w weld ar draws Cymru, ac o leiaf mae yna gydnabyddiaeth, ac fe welon ni hynny yn sylwadau’r Gweinidog sydd â chyfrifoldeb, Lee Waters, dros y penwythnos, fod yna wagle wedi bod yng nghanol polisi economaidd y Llywodraeth Lafur yma ers blynyddoedd. Wel, haleliwia, pan mae yna bechadur yn edifarhau, y cam cyntaf ydy cydnabod bod yna fai, bod yna ddiffyg, bod angen gwneud rhywbeth gwahanol.
Felly, rŷm ni’n croesawu’r ffaith bod yna o leiaf hedyn wedi’i hau yma, wrth gwrs, yn y pen draw, er mwyn sicrhau bod yna brifiant, mae eisiau sicrhau ein bod ni’n troi’r cynlluniau peilot yma a’r buddsoddiad bychan yma, o gymharu, wrth gwrs, gyda’r gyllideb gyfan, yn ganolbwynt, yn graidd i bolisi economaidd, yn hytrach na rhywbeth ar y cyrion, ac yn y blaen. Ond, mae’n siŵr gen i y bydd angen gweld newid gwleidyddol, maes o law, er mwyn sicrhau hynny, ond o leiaf dŷn ni wedi medru gwneud rhyw gyfraniad at greu sylfaen fydd yn ddefnyddiol i ni mewn dwy flynedd a hanner pan wnawn ni gymryd yr awenau.
Mae gennyf nifer o sylwadau i'w gwneud ar yr ail gyllideb atodol. Mae bob amser yn anfantais dilyn Llyr Gruffydd a Nick Ramsay, sydd yn gwasanaethu ar yr un Pwyllgor â mi, gan fod llawer o'r pethau yr oeddwn i am eu dweud eisoes wedi eu dweud, a dwi ddim yn credu bod pobl eisiau eu clywed am yr eilwaith.
Hoffwn ymateb i rywbeth ddywedodd Adam Price am fentrau bach a chanolig—rhywbeth yr wyf i wedi creu ffwdan amdano ers amser hir iawn. Un o'r gwendidau sydd gennym mewn busnesau bach a chanolig yng Nghymru yw, pan maen nhw'n mynd yn ganolig eu maint, mae llawer gormod ohonynt yn gwerthu i gwmnïau llawer mwy o faint. Ac rydym wedi gweld yn ystod y 12 mis diwethaf fod Alun Griffiths (Contractors) Ltd wedi cael eu cymryd drosodd gan gwmni llawer mwy, ac yn Sir Gaerfyrddin, gwelsom Princes Gate yn cael eu cymryd drosodd gan gwmni llawer mwy. Felly, rydym yn tyfu i fod yn ganolig, yna mae rhywun arall yn cymryd drosodd, ac mae hyn yn broblem gyda'n heconomi y mae angen inni fynd i'r afael â hi.
Y peth arall yw—rydym yn sôn am y cannoedd o filiynau o bunnoedd hyn fel petaen nhw'n symiau dibwys. Dydyn nhw ddim yn symiau dibwys; maent o bwys mawr i economi Cymru. Os edrychwn ar y cynnydd yn y cyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU—swm canlyniadol o £155.3 miliwn a'r £138.6 miliwn ychwanegol ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, ac rwyf yn mynd i fynd yn fanwl drwy hyn gan fy mod am godi rhywbeth ar y diwedd: £47.3 miliwn yng nghyflogau'r GIG; £24 miliwn yng nghyflogau meddygon a deintyddion; Cronfa Risg Cymru—£30 miliwn; arian ychwanegol i ddatblygu a gweithredu cynlluniau cynaliadwy ar gyfer orthopedeg ac offthalmoleg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr—£24 miliwn; arian ar gyfer pwysau'r gaeaf i'r gwasanaethau cymdeithasol—£4 miliwn; a chostau trosiannol sy'n gysylltiedig â newid ffin Ogwr—£3 miliwn. Felly, a oes modd i bobl, efallai, roi rhywfaint o ystyriaeth i'r ffaith nad yw uno pethau yn niwtral o ran cost a bod yna dreuliau ynghlwm â'r peth? Mae pobl fel petaent yn dweud bod uno yn mynd i arbed llawer o arian. Pe bai hynny'n wir, byddai hyn yn niwtral o ran cost, oherwydd dim ond symud o un Bwrdd Iechyd i'r llall sy'n digwydd yma. Nid yw wedi bod yn niwtral o ran cost; mae yna gostau pellach wrth newid.
Y pwynt yr wyf am ei wneud, fodd bynnag, yw mai dim ond £4 miliwn o'r gyllideb gwasanaethau iechyd a chymdeithasol sydd wedi mynd at y gwasanaethau cymdeithasol neu ychydig dros £1 ar gyfer pawb sy'n byw yng Nghymru. I'w ychwanegu at hwnnw, £15.6 miliwn i gefnogi datblygiad athrawon, gan gynnwys £8.1 miliwn i ariannu costau ychwanegol dyfarniad cyflog athrawon o'r meithrin i flwyddyn 11; £7.5 miliwn i helpu awdurdodau lleol i gyfarfod â phwysau costau addysg; £50 miliwn ar gyfer y rhandaliad cyntaf o becyn cyfalaf £100 miliwn dros dair blynedd; £20 miliwn ar gyfer y rhandaliad cyntaf o'r pecyn adnewyddu priffyrdd cyhoeddus £60 miliwn dros dair blynedd; a £26 miliwn ar gyfer y gronfa drafnidiaeth leol. Felly, adiwch y rheini at ei gilydd; mae llywodraeth leol wedi dod allan o'r ail gyllideb atodol yn wael unwaith eto. Daw llywodraeth leol allan o'r rhan fwyaf o gyllidebau yn wael. Rydym yn sôn am yr economi sylfaen; mae pawb yn sôn am y sylfaen a pha mor bwysig ydyw. Nid oes dim yn bwysicach mewn cymdeithas sylfaen na gwasanaethau llywodraeth leol a gefnogir gan wariant llywodraeth leol. Credaf fod gwir angen inni ddychwelyd at gredu, os ydym eisiau gwella ein heconomi, y bydd cael pobl wedi eu haddysgu'n well yn ein helpu, bydd gwella nifer y bobl sydd â sgiliau yn ein helpu, a bydd cynnal y nifer fawr iawn o bethau y mae'r awdurdodau lleol yn eu gwneud, gan gynnwys gwella'r cysylltiadau trafnidiaeth, yn ein helpu.
Ynglŷn â'r M4, rwy'n rhannu pryder y Pwyllgor ynghylch lefel y cyllid sy'n cael ei ymrwymo i brosiect lle mae cymaint o ansicrwydd yn bodoli, a chefnogaf yr argymhelliad bod Llywodraeth Cymru yn darparu manylion ychwanegol ar gynllunio ar gyfer yr M4. A fyddai angen cyllid ychwanegol pe bai'r penderfyniad wedi'i wneud pryd y bwriadwyd ef yn wreiddiol ym mis Rhagfyr? A faint o arian ychwanegol o bosib fydd angen ei ymrwymo cyn gwneud penderfyniad? Mae'n ymddangos i mi fod peidio cymryd penderfyniad amserol yn ddewis drud, ac mae costau'n dod i'r amlwg os mai peidio â bwrw ymlaen yw'r penderfyniad terfynol. Nid yw fy safbwynt i wedi newid. Rwyf yn sgeptig o argyhoeddiad— er, rhaid dweud, nad oes unrhyw ymgais wedi bod i fy argyhoeddi i fod yr M4 yn syniad da.
Ynglŷn â'r gronfa benthyciadau i fyfyrwyr, mae rhywun yn mynd i ddweud wrthyf nad arian parod Llywodraeth Cymru yw hwn, yn hytrach cronfeydd anghyllidol wrth gefn ydyw; nid yw hynny o bwys, gan nad yw'n effeithio ar allu Llywodraeth Cymru i wario. Yr hyn a ddywedaf yw hyn: mae'n dod o gyfanswm gwariant San Steffan, felly bob tro y daw arian allan o hwn, yn y pen draw mae gennym lai o arian ar gyfer ein cyfran fformiwla Barnett o'r swm a ddaw. Yn wir gwelwn bob blwyddyn fod hyn yn cynyddu. Rwy'n tynnu sylw at y peth bob blwyddyn; bydd y Prif Weinidog yn cofio am hyn pan oedd yn Weinidog Cyllid. Er nad yw'n arian parod, fe gaiff yr effaith honno. Ac rwyf yn dweud bod hyn yn digwydd bob blwyddyn; nid yw'r rhaglen benthyciad i fyfyriwr yn gweithio. Mae angen i bobl sylweddoli hynny. Rywbryd, bydd raid ei dileu, neu ei diddymu, neu beth bynnag y mae'r cyfrifwyr eisiau ei wneud, ond mae rhaid i rywun wneud rhywbeth yn ei gylch. Mae'n gynyddol gostus i Drysorlys San Steffan, ac mae bron fel cael Trident arall.
Yn olaf, credaf fod angen inni gael trafodaeth ar ryw bwynt ar gyfalaf trafodiadau, sy'n cael ei grybwyll ym mhob cyllideb—yn frysiog fel arfer— a chredaf fod angen inni drafod i ble mae'n mynd, sut y caiff ei wario, a sut y bydd yn cael ei dalu'n ôl.
Y Gweinidog Cyllid i ymateb i'r ddadl. Rebecca Evans.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl y prynhawn yma. Byddaf yn gwneud fy ngorau i ymateb yn uniongyrchol i rai o'r pwyntiau a godwyd yn y Siambr heddiw, a byddaf yn ymateb yn ffurfiol i argymhellion y pwyllgor maes o law.
Roedd llawer iawn o ddiddordeb yn y pwyllgor craffu ynghylch y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, y mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau ei bod wrth wraidd ein penderfyniadau ynghylch y gyllideb, ac mae nifer o ddyraniadau allweddol o fewn y gyllideb sy'n gwella ein hymrwymiadau yn 'Symud Cymru Ymlaen' a 'Ffyniant i Bawb', sydd, wrth gwrs, â chysylltiad agos iawn â nodau Cenedlaethau'r Dyfodol. Bydd y rhai hynny'n cynnwys: cyllid ychwanegol ar gyfer y gronfa drafnidiaeth leol, er enghraifft, a dysgwyr o leiafrifoedd ethnig a Sipsiwn/Roma/Teithwyr, ynghyd â chyllid prydau ysgol am ddim.
Cyfarfûm â Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol yr wythnos diwethaf i drafod ein dull o bennu cyllidebau, a byddaf yn cyfarfod â hi eto, gydag uwch dîm o swyddogion, i gael trafodaeth ar y gwersi a ddysgwyd o'r sesiwn gynllunio ddiwethaf ar gyfer y gyllideb, i archwilio sut y gellir mynd ati i wneud yn siwr ein bod yn parhau i sicrhau bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn dod yn weithredol drwy ein proses gyllidebol. Yn sicr, byddaf yn cael trafodaethau gyda phob un o'm cyd-aelodau yn y Cabinet wrth inni fynd ati i bennu'r gyllideb yn ystod y flwyddyn nesaf, o ran sut bydd y dyraniadau ariannol i'r adrannau hynny'n esgor ar weithredu'r Ddeddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol.
Cydnabyddais, wrth ymateb i'r Pwyllgor Cyllid, fod ymgorffori Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn broses esblygol, a bod angen newid diwylliannol na fydd yn digwydd dros nos. Ond rydym yn gwbl ymrwymedig i sicrhau mai'r pum ffordd hynny o weithio yw'r sylfaen sy'n llywio ein holl weithgareddau. Yn sicr, ers 2016-17, rydym wedi gwella'r modd yr ydym yn adlewyrchu'r ffordd y mae'r Ddeddf yn ymwneud â'n penderfyniadau gwariant yn naratif pob cyllideb ddrafft, a byddaf yn sicr yn ceisio sicrhau bod y broses hon yn parhau, a bod y gwelliant yn parhau wrth inni symud ymlaen.
Gwnaed nifer o gyfeiriadau at y gwariant ar yr M4, y cyfeirir ato yn yr ail gyllideb atodol—clustnodwyd £27.8 miliwn ar gyfer cwblhau'r broses statudol a chefnogi gweithgareddau hanfodol ac ymchwiliadau wrth ystyried y prosiect, megis arolygon amgylcheddol, er enghraifft. Bydd hefyd yn cwmpasu gweithgareddau posib a fydd yn darparu gwerth am arian paratoadau wrth gefn os bydd y cynllun yn mynd rhagddo. Felly, rhai enghreifftiau o'r math hwnnw o wariant, a roddais i'r Pwyllgor wrth graffu oedd data arolwg ecolegol, sy'n gorfod bod yn barhaus dros nifer o flynyddoedd cyn adeiladu, er enghraifft, a dargyfeiriadau cyfleustodau sy'n cynnwys deunyddiau lle mae angen cyfnod hir ac yn golygu lefelau uchel o risg i'r rhaglen adeiladu. Byddai atal y paratoadau dibynnol hynny gyda chyfleustodau yn arwain at gostau sylweddol gyda goblygiadau i'r rhaglen petai'r cynllun yn parhau, gan y byddai'r amser dilynol fyddai ei angen yn gohirio'r gwaith a gwaith prosiect dilynol eraill sy'n dibynnu arno. Mae gwariant hefyd yn cwmpasu materion fel yr Arolygiaeth Gynllunio a chostau cyfreithiol i gwblhau'r broses statudol ofynnol ar gytundebau rhyngwyneb Network Rail, ad-dalu costau Cyfoeth Naturiol Cymru a chymorth i fusnesau yr effeithiwyd arnynt i ddatblygu mesurau i leddfu effeithiau pe byddai'r cynllun yn mynd yn ei flaen.
Gallaf gadarnhau fy mod wedi cael y trafodaethau y byddech yn disgwyl i mi eu cael gyda swyddogion i ddeall y prosiect, i archwilio materion yn ymwneud â fforddiadwyedd a gwerth am arian, er enghraifft, a materion yn ymwneud â phroffil er mwyn i mi fod yn gwbl gyfarwydd gyda'r opsiynau pe bai'r penderfyniad i barhau gyda'r prosiect yn cael ei wneud.
O ran y cynllun ymadael gwirfoddol a drafodwyd yn ystod y Pwyllgor, manylion cyfyngedig yn unig a lwyddais i'w rhoi yn y Pwyllgor, gan fod hon yn broses sy'n digwydd ar hyn o bryd. Ond byddaf yn gwneud yn siŵr fy mod yn diweddaru'r Pwyllgor maes o law.
Ynglŷn â phwysau'r gaeaf, mae hon yn drafodaeth y byddaf yn sicr yn ei chael gyda fy nghyd-aelod, y Gweinidog Iechyd yn ein cyfarfod dwyochrog arfaethedig. Ond byddwn yn dweud, o ystyried natur, amseriad a hyd pwysau'r gaeaf, y gallant amrywio o flwyddyn i flwyddyn a fesul ardal Bwrdd Iechyd. Felly mae angen yr elfen honno o hyblygrwydd, rwy'n credu, o ran dyrannu cyllid ychwanegol i ymateb i'r pwysau hynny. Ond, unwaith eto, mae hwn yn argymhelliad gan y Pwyllgor y byddaf yn ymateb iddo maes o law.
Rwy'n wirioneddol groesawu cefnogaeth y Pwyllgor i sefyllfa'r Llywodraeth o ran potensial Brexit heb gytundeb a'r disgwyliad y byddai gennym fod Llywodraeth y DU yn rhoi cyllid ychwanegol i Gymru. Rwy'n siomedig â'r diffyg eglurder gan Lywodraeth y DU o ran ei sefyllfa. Wrth gwrs, mae gennym ddatganiad y gwanwyn yr wythnos nesaf ac mae'r Canghellor wedi dweud yn flaenorol y gallai hyn fod yn ddigwyddiad ariannol llawn. Ond eto i gyd cefais drafodaethau yn y cyfarfod cyllid pedair ochrog yn ddiweddar gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys a ddywedodd y byddai datganiad y gwanwyn yn ddigwyddiad gweinyddol yn unig. Felly, mae yna negeseuon gwahanol yn dod o gyfeiriad Llywodraeth y DU, ond rwy'n croesawu cefnogaeth y Pwyllgor i'n safbwynt.
Yn olaf, dywedodd Adam Price mai dyma'r digwyddiad cyllidebol terfynol yn ein cytundeb dwy flynedd gyda Phlaid Cymru. Hoffwn gofnodi fy niolch am y modd adeiladol y mae Plaid Cymru wedi ymgysylltu â ni o ran y cyd-flaenoriaethau yr ydym wedi eu nodi drwy'n proses pennu cyllideb, ac unwaith eto, diolchaf i'r Aelodau am eu cyfraniadau.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriaf y bleidlais ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.