Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 6 Mawrth 2019.
Drefnydd, credaf fod ardaloedd gwella busnes yn ffordd dda o sicrhau bod busnesau a chynghorau cymuned lleol yn gweithio gyda'i gilydd, ac mae'n fodel da, yn fy marn i, ac mae'r Drenewydd yn mynd drwy'r broses honno ar hyn o bryd. Ai’r bwriad yw y bydd unrhyw elw ariannol o gynnig posibl yn cael ei sianelu drwy gynghorau tref a chymuned fel y gallant weithio ar ran eu cymunedau i ddylanwadu ar ganlyniadau cynigion eraill? A hefyd, a wnewch chi ystyried, ynghyd â'ch cyd-Aelodau, wrth gwrs, darparu rhagor o gyllid i ymestyn y model hwn i drefi eraill ledled Powys drwy ddyrannu’r arian i gynlluniau gwella ardaloedd penodol, gan y credaf eu bod yn fuddiol iawn, er enghraifft, o ran gwella twristiaeth yng nghanol y dref?