1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru ar 6 Mawrth 2019.
2. Pa arian y mae'r Gweinidog wedi'i ddyrannu i'r portffolio tai a llywodraeth leol mewn perthynas ag adfywio'r stryd fawr yng Nghymru? OAQ53526
Rydym yn buddsoddi yn ein stryd fawr drwy ystod o fesurau, gan gynnwys hyd at £100 miliwn dros dair blynedd drwy'r rhaglen i dargedu buddsoddiad mewn adfywio, £26 miliwn y flwyddyn nesaf i ddarparu rhagor o ryddhad ardrethi busnes i fusnesau ledled Cymru, a £31.5 miliwn ar gyfer cynllun benthyciadau canol trefi.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae Syr John Timpson, cadeirydd cadwyn Timpson, wedi dweud y bydd sicrhau bod canol trefi yn fwy cyfeillgar i fodurwyr yn atal y stryd fawr rhag dirywio. Nid yw'n arddel y rhagdybiaeth or-syml fod y stryd fawr yn marw o ganlyniad i fanwerthu ar-lein—'Ni allwch dorri allweddi ar-lein', meddai—ond y rheswm pennaf yw bod modurwyr yn dewis mynd i rywle sy’n hwylus iddynt fynd yno yn y car. Dyna pam y dywed Timpson fod 40 y cant o'u masnach yn digwydd y tu allan i'r dref, a disgwylir i’r ffigur hwnnw godi i 70 y cant dros y 10 mlynedd nesaf. Flwyddyn neu ddwy yn ôl, agorodd Timpson 95 o siopau newydd, siopau sy'n darparu gwasanaethau na ellir eu prynu ar-lein, ond serch hynny, pedair yn unig o'r siopau newydd a oedd ar y stryd fawr—mae'r gweddill mewn archfarchnadoedd y tu allan i'r dref, neu gerllaw. Y rheswm dros hyn, meddai, yw bod awdurdodau lleol yn lladd y stryd fawr drwy wneud siopa'n anghyfleus i'r modurwr. Mae mwy o fasnachu ar y stryd fawr yn arwain at well lefelau cyflogaeth ac ardrethi busnes uwch i awdurdodau lleol. Felly, a wnewch chi addo y byddwch yn helpu i ariannu gwaith dad-bedestreiddio mewn canol trefi sy'n marw ledled Cymru?
Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn. Ac mae'n bwysig iawn ein bod yn gweithio'n galed iawn i gynyddu nifer yr ymwelwyr yng nghanol ein trefi ledled Cymru, ac mae sawl ffordd y gallwn wneud hynny, gan gynnwys drwy'r buddsoddiad a wnawn mewn teithio llesol, ond hefyd drwy sicrhau bod gennym well rhyng-gysylltedd rhwng ein gwahanol drefi a chymunedau. Felly, credaf nad yw'r ateb yma yn un syml. Mae'n ymwneud â defnyddio’r buddsoddiad sydd gennym drwy raglen Adeiladu ar gyfer y Dyfodol, i sicrhau bod gennym swyddi yng nghanol y ddinas, a'r buddsoddiad a wnawn drwy ein rhaglen dai i sicrhau ein bod yn troi rhai o'n heiddo gwag yn gartrefi yn ein trefi a chanol ein dinasoedd.
Felly, mae’r ateb i sicrhau bod y stryd fawr yn ffynnu yn y dyfodol yn un amlweddog, a bydd angen gwaith ar draws y Llywodraeth, ac rydym yn ymgymryd â’r gwaith hwnnw. Mae'r cynllun i dargedu buddsoddiad mewn adfywio, er enghraifft, yn enghraifft wych o'r ffordd rydym yn adfywio’r stryd fawr ledled Cymru, ond hefyd yn rhoi'r grym a'r gallu i wneud penderfyniadau yn nwylo awdurdodau lleol fel y gallant ddod at ei gilydd a nodi beth yw eu blaenoriaethau lleol penodol eu hunain, ac yna byddwn yn eu cynorthwyo i'w cyflawni.
Drefnydd, credaf fod ardaloedd gwella busnes yn ffordd dda o sicrhau bod busnesau a chynghorau cymuned lleol yn gweithio gyda'i gilydd, ac mae'n fodel da, yn fy marn i, ac mae'r Drenewydd yn mynd drwy'r broses honno ar hyn o bryd. Ai’r bwriad yw y bydd unrhyw elw ariannol o gynnig posibl yn cael ei sianelu drwy gynghorau tref a chymuned fel y gallant weithio ar ran eu cymunedau i ddylanwadu ar ganlyniadau cynigion eraill? A hefyd, a wnewch chi ystyried, ynghyd â'ch cyd-Aelodau, wrth gwrs, darparu rhagor o gyllid i ymestyn y model hwn i drefi eraill ledled Powys drwy ddyrannu’r arian i gynlluniau gwella ardaloedd penodol, gan y credaf eu bod yn fuddiol iawn, er enghraifft, o ran gwella twristiaeth yng nghanol y dref?
Diolch yn fawr iawn. Rhannaf eich brwdfrydedd ynglŷn ag ardaloedd gwella busnes fel mecanwaith sy'n dod â busnesau lleol a rhanddeiliaid eraill ynghyd gyda'r nod o wella eu hamgylchedd masnachu, ac unwaith eto, sicrhau bod siopa yn brofiad llawer mwy dymunol i'r bobl sy'n defnyddio'r ardaloedd busnes hynny ac i ddenu mwy o ymwelwyr i'r ardaloedd hynny. A dyna un o'r rhesymau pam fod gennym gyllideb refeniw o £620,000 yn 2019-20 i gefnogi ymdrechion adfywio cymunedol ehangach, sy'n cynnwys ymestyn rhaglenni ardaloedd gwella busnes i gynnwys ardaloedd eraill. Yn sicr, pe bai ardaloedd eraill ym Mhowys a fyddai’n awyddus i archwilio sut y gallai ardaloedd gwella busnes weithio ar eu cyfer hwy, gwn y byddai swyddogion Llywodraeth Cymru yn fwy na pharod i ddatblygu'r cynigion hynny gyda hwy.
Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol fod cyllid wedi'i fuddsoddi i geisio adfywio Stryd Fawr Abertawe. Fodd bynnag, er y cafwyd rhai gwelliannau, rydym yn dal i wynebu rhes o hen adeiladau adfeiliedig ac anghyfannedd yn yr ardal honno, fel y gwyddoch. Yn eu plith, mae gennym safle hanesyddol Theatr y Palas, sydd bellach wedi tyfu'n wyllt, ac yn dal i ddominyddu'r ardal, sy'n adlewyrchiad trist ar y ddinas. A wnewch chi, felly, ymrwymo Llywodraeth Cymru i gael trafodaethau pellach gyda Chyngor Abertawe a darparu'r cyllid angenrheidiol er mwyn mynd i'r afael â'r adeiladau diolwg eraill ar hyd y porth allweddol hwn i'n dinas?
Diolch am godi mater Stryd Fawr Abertawe. Yn sicr, mae'n ardal rwy'n gyfarwydd â hi, ac rwyf wedi gweld y gwelliannau mawr sydd wedi dechrau digwydd yno dros y blynyddoedd diwethaf yn arbennig, a gwn fod gan Gyngor Abertawe gynlluniau arbennig o uchelgeisiol ar gyfer y ddinas yn ei chyfanrwydd. Rwyf wedi fy nghyffroi gan y gwaith adfywio yn seiliedig ar ddatblygu tai sy'n digwydd ar Stryd Fawr Abertawe. Credaf fod hwnnw'n fodel da i rannau eraill o Gymru ei efelychu, o ran sicrhau bod mwy o bobl yn byw yng nghanol ein trefi fel bod yr ymwelwyr yno wedyn i fanteisio ar holl gaffis a siopau'r dref ac yn y blaen. Buaswn yn sicr yn fwy na pharod i gael sgyrsiau pellach gydag Abertawe i archwilio sut y gallwn gefnogi'r ymdrechion i adfywio’r Stryd Fawr.