Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 6 Mawrth 2019.
Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol fod cyllid wedi'i fuddsoddi i geisio adfywio Stryd Fawr Abertawe. Fodd bynnag, er y cafwyd rhai gwelliannau, rydym yn dal i wynebu rhes o hen adeiladau adfeiliedig ac anghyfannedd yn yr ardal honno, fel y gwyddoch. Yn eu plith, mae gennym safle hanesyddol Theatr y Palas, sydd bellach wedi tyfu'n wyllt, ac yn dal i ddominyddu'r ardal, sy'n adlewyrchiad trist ar y ddinas. A wnewch chi, felly, ymrwymo Llywodraeth Cymru i gael trafodaethau pellach gyda Chyngor Abertawe a darparu'r cyllid angenrheidiol er mwyn mynd i'r afael â'r adeiladau diolwg eraill ar hyd y porth allweddol hwn i'n dinas?