Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 6 Mawrth 2019.
Gyda phob parch, credaf mai ein dyletswydd ni fel Llywodraeth Cymru yw sicrhau'r dyfodol gorau posibl i bobl Cymru. Yn sicr, nid Brexit 'dim bargen' yw hynny. Gweithiodd Llywodraeth Cymru, ochr yn ochr â Phlaid Cymru, yn gyflym iawn wedi'r refferendwm i nodi beth fyddai'r Brexit gorau posibl i bobl Cymru yn 'Diolgelu Dyfodol Cymru'. Ychydig iawn o'r hyn a nodwyd gennym fel y ffordd orau ymlaen sydd wedi'i sicrhau gan Lywodraeth y DU, ac mewn gwirionedd, mae ein cynllun wedi parhau i fod yn eithriadol o gadarn o ran y mathau o heriau sy'n ein hwynebu a'r trafodaethau y credaf y byddai'r Undeb Ewropeaidd wedi bod yn agored i'w cael, pe bai Llywodraeth y DU wedi bod â'r synnwyr i ddilyn ein cynllun.