Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 6 Mawrth 2019.
Wel, Weinidog, mae'n rhaid imi ddweud eich bod braidd yn rhagrithiol yn rhybuddio am y trychinebau a fyddai'n deillio o Brexit 'dim bargen'. Cytunaf y byddai pethau'n datgymalu ac ni wyddom i ba raddau, ac ni fuaswn i byth yn cymryd y risg honno, ond yr unig ffordd o atal hynny yw cael cytundeb. Un cytundeb yn unig a negodwyd gan Lywodraeth Prydain a—cofiwch—gan yr Undeb Ewropeaidd, ac os nad yw'r cytundeb hwnnw'n cael ei dderbyn, bydd y math o drychineb rydych yn ei ragweld yn dod yn fwy ac yn fwy tebygol. Eich dyletswydd chi yw cefnogi Llywodraeth y DU ar hyn o bryd, a sicrhau bod y cytundeb hwn yn cael ei dderbyn.