Cyllid Llywodraeth Leol

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 6 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 2:02, 6 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Weinidog, mae talwyr y dreth gyngor yn ne-ddwyrain Cymru yn wynebu cynnydd aruthrol yn eu biliau diolch i setliad llywodraeth leol annigonol Llywodraeth Cymru. Mae pobl sy'n byw yng Nghasnewydd, Torfaen a Merthyr Tudful yn wynebu cynnydd o bron i 6 y cant yn eu biliau, ac mae cyngor Caerffili ar fin cael cynnydd o bron i 7 y cant. O gofio mai ymarfer cysylltiadau cyhoeddus yn unig oedd cap 5 y cant Llywodraeth Cymru yn fy marn i, pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'i chyd-Aelodau ynghylch yr effaith ddinistriol y bydd y codiadau anferth hyn yn ei chael ar deuluoedd sydd dan bwysau, yn aml yn y rhannau tlotaf o Gymru?