Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 6 Mawrth 2019.
Credaf fod yr haerllugrwydd ar feinciau'r Ceidwadwyr yn eithaf anhygoel y prynhawn yma. Pe bai gwariant cyhoeddus wedi cadw i fyny â thwf yn yr economi, byddai gennym £4 biliwn yn ychwanegol i'w wario y flwyddyn nesaf, a dychmygwch pa mor hael y gallem fod tuag at awdurdodau lleol pe ba hynny wedi digwydd. Ond mae'n rhaid imi ddweud wrth y Ceidwadwyr, os yw'r Ceidwadwyr yn dymuno cael mwy o arian ar gyfer unrhyw ran o'r bywyd Cymreig, boed yn awdurdodau lleol neu'r GIG neu unrhyw le arall, byddai'n rhaid iddynt ddweud wrthym lle dylid gwneud y toriadau.