Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 6 Mawrth 2019.
Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am eich ateb, Weinidog. A allwch roi unrhyw syniad o'r amserlen y disgwylir i'r grŵp hwnnw gyflwyno'i adroddiadau? Oherwydd yn sicr, dywedir wrthyf ein bod, mewn rhai rhannau o Gymru, yn wynebu argyfwng gofal cymdeithasol, ac un o'r materion mawr yw recriwtio staff. Wrth gwrs, ceir elfen Brexit i hynny o beth, ond yng nghyd-destun y cwestiwn hwn heddiw, un o'r prif faterion eraill yw diffyg cydraddoldeb cyflog yn ogystal â pharch cydradd rhwng y rheini sy'n gwneud swyddi yr un fath yn y gwasanaeth iechyd a'r rhai sy'n gwneud yr un swyddi yn union yn y sector gofal, lle mae'r gwaith yn llai sicr, lle mae'r telerau ac amodau yn llai ffafriol. A dywed darparwyr gofal wrthyf yn gyson eu bod yn hyfforddi staff ac yna'n eu colli i'r GIG gan fod yr amodau gymaint yn well yno.
A yw'r gweithgor rydych newydd ei grybwyll yn mynd i'r afael â'r materion sy'n ymwneud â chydraddoldeb cyflog? Os nad yw'n gwneud hynny ar hyn o bryd, a gaf fi ofyn ichi ymrwymo i wneud hynny? Oherwydd, yn y pen draw, mae ansawdd ein gwasanaethau gofal, fel ein gwasanaethau iechyd, yn gwbl ddibynnol ar y bobl sy'n eu darparu. Gallwch wneud popeth arall, ond oni bai fod gennych y bobl gywir, mewn gwirionedd, ni allwch ddarparu'r gwasanaeth sydd ei angen ar bobl, yn enwedig mewn perthynas â gofalu am yr henoed. Os oes gennych drosiant staff cyson, mae effaith hynny ar ansawdd gofal ac ar les unigolion, eu lles emosiynol, yn ddinistriol.
Felly, a gaf fi ofyn am amserlen a gofyn i'r gweithgor fynd i'r afael â'r materion hynny? Rydym yn clywed llawer am barch cydradd rhwng iechyd a gofal, ond diwedd y gân yw'r geiniog, ac ni chredaf fod pobl sy'n gweithio mewn gofal yn poeni gymaint am barch ag y maent am yr hyn sydd yn eu pecynnau cyflog.