1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru ar 6 Mawrth 2019.
6. Pa drafodaethau diweddar y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch ariannu gofal cymdeithasol? OAQ53488
Mae ariannu gofal cymdeithasol yn ffocws allweddol i'r grŵp rhyngweinidogol ar dalu am ofal cymdeithasol, grŵp y mae'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a minnau yn aelodau ohono, gyda'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. Cyfarfu'r grŵp ddiwethaf ar 7 Chwefror, a byddant yn ymgynnull unwaith eto yr wythnos nesaf.
Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am eich ateb, Weinidog. A allwch roi unrhyw syniad o'r amserlen y disgwylir i'r grŵp hwnnw gyflwyno'i adroddiadau? Oherwydd yn sicr, dywedir wrthyf ein bod, mewn rhai rhannau o Gymru, yn wynebu argyfwng gofal cymdeithasol, ac un o'r materion mawr yw recriwtio staff. Wrth gwrs, ceir elfen Brexit i hynny o beth, ond yng nghyd-destun y cwestiwn hwn heddiw, un o'r prif faterion eraill yw diffyg cydraddoldeb cyflog yn ogystal â pharch cydradd rhwng y rheini sy'n gwneud swyddi yr un fath yn y gwasanaeth iechyd a'r rhai sy'n gwneud yr un swyddi yn union yn y sector gofal, lle mae'r gwaith yn llai sicr, lle mae'r telerau ac amodau yn llai ffafriol. A dywed darparwyr gofal wrthyf yn gyson eu bod yn hyfforddi staff ac yna'n eu colli i'r GIG gan fod yr amodau gymaint yn well yno.
A yw'r gweithgor rydych newydd ei grybwyll yn mynd i'r afael â'r materion sy'n ymwneud â chydraddoldeb cyflog? Os nad yw'n gwneud hynny ar hyn o bryd, a gaf fi ofyn ichi ymrwymo i wneud hynny? Oherwydd, yn y pen draw, mae ansawdd ein gwasanaethau gofal, fel ein gwasanaethau iechyd, yn gwbl ddibynnol ar y bobl sy'n eu darparu. Gallwch wneud popeth arall, ond oni bai fod gennych y bobl gywir, mewn gwirionedd, ni allwch ddarparu'r gwasanaeth sydd ei angen ar bobl, yn enwedig mewn perthynas â gofalu am yr henoed. Os oes gennych drosiant staff cyson, mae effaith hynny ar ansawdd gofal ac ar les unigolion, eu lles emosiynol, yn ddinistriol.
Felly, a gaf fi ofyn am amserlen a gofyn i'r gweithgor fynd i'r afael â'r materion hynny? Rydym yn clywed llawer am barch cydradd rhwng iechyd a gofal, ond diwedd y gân yw'r geiniog, ac ni chredaf fod pobl sy'n gweithio mewn gofal yn poeni gymaint am barch ag y maent am yr hyn sydd yn eu pecynnau cyflog.
Diolch yn fawr iawn am godi hynny. Prif ffocws y grŵp rhyngweinidogol yw'r her o dalu am ofal, a byddai hynny'n cynnwys edrych ar sut y telir am ofal yn y dyfodol, i raddau helaeth iawn yng nghyd-destun adroddiad Holtham ar dalu am ofal ac adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar gost gofalu am boblogaeth sy'n heneiddio. Wedi dweud hynny, fodd bynnag, mae hyn yn ymwneud â sawl ffrwd waith, gydag un ohonynt yn gwbl ariannol; mae'r llall yn ymwneud â beth yw'r cynnig.
Felly, os gofynnwn i bobl dalu yn y dyfodol, o bosibl drwy ardoll gofal cymdeithasol—dyna un o'r syniadau a gynigiwyd gan Gerry Holtham, ond nid dyna'r unig syniad, ond serch hynny, bydd angen i bobl wybod beth yw'r cynnig, beth fydd yno iddynt hwy. Credaf fod rhan o'r sgwrs honno yn sicr yn ymwneud ag ansawdd a chymwysterau'r staff a fyddai'n gofalu amdanynt yn y dyfodol. Felly, rydym ar ddechrau'r daith mewn perthynas â'r gwaith hwn. Mae'n waith pellgyrhaeddol iawn. Buaswn yn disgwyl iddo lywio syniadau pob un ohonom wrth inni agosáu at yr etholiad nesaf o ran beth y gallem ei gynnig i bobl. Rwy'n fwy na pharod i gael cyfarfod pellach gyda chi i drafod yr hyn rydym wedi'i ddysgu hyd yn hyn drwy ein trafodaethau a'r math o gwestiynau mawr rydym yn eu harchwilio.
Nid yw Neil McEvoy yma i ofyn cwestiwn 7 [OAQ53494]. Cwestiwn 8, felly, Jenny Rathbone.