Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 6 Mawrth 2019.
Diolch, a chytunaf yn llwyr â phob gair a ddywedwch, a buaswn yn arswydo pe na baent yn ystyried pob posibilrwydd o ran y camau y gallai Llywodraeth y DU eu cymryd i gefnogi'r economi pe ceid Brexit 'dim bargen' trychinebus. Rydym wedi dweud yn glir, dro ar ôl tro—ac rwy'n ddiolchgar am gefnogaeth y Pwyllgor Cyllid, ac i chi ac i Aelodau'r Cynulliad sydd wedi bod yn dadlau'r achos gyda Llywodraeth y DU—fod yn rhaid cael cyllideb frys, fod yn rhaid cael cyllid ychwanegol, pe ceid Brexit 'dim bargen' trychinebus.