Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 6 Mawrth 2019.
Diolch. Yn ôl Llywodraeth Cymru, addysg drochi cyfrwng Cymraeg yw'r prif ddull o sicrhau y gall plant ddatblygu eu sgiliau iaith Gymraeg a chreu siaradwyr Cymraeg newydd. Nawr, rwy'n cytuno â'r pwysigrwydd a roddir i addysg cyfrwng Cymraeg, fodd bynnag, gwelwn nifer yr ysgolion cyfrwng Cymraeg yn disgyn o 434 yn 2013 i 389 yn 2018. Yn ychwanegol at hynny, er bod nifer y plant sy'n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg wedi cynyddu, mae llawer bellach yn poeni nad yw effaith cau ysgolion cyfrwng Cymraeg wedi'i hystyried yn llawn. Felly, pa asesiad a wnaethoch o effaith yr achosion parhaus hyn o gau ysgolion a'r effaith ar y defnydd o'r Gymraeg—sut y mae hyn yn effeithio ar y defnydd o'r Gymraeg a sut, yn y pen draw, y bydd yn effeithio ar y nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050?