Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 6 Mawrth 2019.
Ydw, ond credaf mai'r hyn sy'n fwy arwyddocaol ac yn bwysicach yw i'r llyfrgell genedlaethol sicrhau eu bod yn digidoleiddio eu hadnoddau ac yn eu gwneud yn hygyrch i bobl Cymru. A gwn fod Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi bod yn ymgymryd â'r dasg honno dros y blynyddoedd diwethaf. Gwnaed cryn dipyn o waith ar gyflawni'r dasg honno, a bellach, rwy'n credu mai dyna sut y bydd y rhan fwyaf o bobl yn cael mynediad at yr adnodd gwerthfawr hwnnw, sy'n un o drysorau pwysicaf Cymru.