Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 6 Mawrth 2019.
Ie, rwy'n cytuno y bydd y dechnoleg ar-lein yn hollbwysig hefyd. Nawr, un ffactor rydym wedi'i wynebu dros y blynyddoedd diwethaf, gyda chyllid llywodraeth leol o dan bwysau, yw'r canlyniad anffodus fod nifer o lyfrgelloedd lleol, ymysg cyfleusterau lleol eraill, wedi cau. Mae Cymru wedi colli llawer o lyfrgelloedd—credaf fod un o bob chwech o lyfrgelloedd Cymru wedi cau ers 2010. Felly, gan gofio eich ateb blaenorol ynghylch digidoleiddio—yn amlwg, bydd hynny'n helpu i liniaru'r broblem i ryw raddau, os caiff y rhaglen honno ei chyflwyno'n effeithiol—a oes ffyrdd eraill y gall y llyfrgell genedlaethol helpu i liniaru'r broblem fod cymunedau'n colli eu llyfrgelloedd lleol?