Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 6 Mawrth 2019.
Wel, rydym wedi ymrwymo i adeiladu ar lwyddiant diweddar Cymru wrth gynnal digwyddiadau chwaraeon mawr, ac rydym yn gweithio'n rhagweithiol gyda phartneriaid yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol—gan gynnwys nifer o berchnogion hawliau a ffederasiynau chwaraeon rhyngwladol—er mwyn nodi a mynd ar drywydd cyfleoedd newydd ar gyfer denu digwyddiadau chwaraeon mawr i bob rhan o Gymru.