Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 3:06 pm ar 6 Mawrth 2019.
Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Mae Cymru wedi bod yn gymharol lwyddiannus dros y blynyddoedd diwethaf wrth wneud cais am lu o ddigwyddiadau, o golff i'r rasys môr yma ym Mae Caerdydd, i ddigwyddiadau pêl-droed mawr. Un o'r camgymeriadau, fodd bynnag, oedd penderfyniad y Gweinidog blaenorol i beidio â pharhau â chais am Gemau'r Gymanwlad. Tybed a ydych wedi cael cyfle i asesu a fydd Cymru mewn sefyllfa i wneud cais am Gemau'r Gymanwlad yn y dyfodol, neu i ystyried sefydlu partneriaeth i wneud cais am Gemau'r Gymanwlad, o gofio bod dinasoedd yn Lloegr yn barod i gyflwyno ceisiadau, ond ar hyn o bryd, nid ydym ni fel gwlad yn gallu paratoi cais a fyddai, yn y pen draw, yn llawn bri i Gymru ac yn fuddiol wrth hyrwyddo'r gwerth sydd gennym yma yng Nghymru.