Digwyddiadau Chwaraeon Mawr

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 6 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 3:07, 6 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. Wel, mae hwn yn gwestiwn roeddwn yn ei drafod gyda fy swyddogion yn gynharach yn yr wythnos. Credaf mai rhan o'r broblem yma yw y byddai'r gost o gynnal Gemau'r Gymanwlad yn enfawr, yn rhannol oherwydd nad oes gennym y seilwaith yma yng Nghymru, yng Nghaerdydd—gadewch i ni fod yn onest, dyna'r unig le y gallem eu cynnal. Nid oes gennym y seilwaith yng Nghaerdydd hyd yn oed i gynnal yr holl ddigwyddiadau y byddai angen i chi eu cynnal mewn perthynas â Gemau'r Gymanwlad. Mae'n rhaid i chi gael pyllau nofio o faint penodol ac mae'n rhaid i chi gael llwybrau beicio a hyn, llall ac arall. Felly, rwy'n credu bod y seilwaith—rwy'n credu y byddai'r gost o ddatblygu'r seilwaith yn ein rhwystro fel Llywodraeth ar hyn o bryd. Efallai ei fod yn rhywbeth y byddwn yn gallu ei ystyried pan ddaw cyni i ben.