Denu Buddsoddiad

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 6 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 3:03, 6 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Weinidog, ym mis Gorffennaf 2017, lansiodd Llywodraeth UDA a Llywodraeth y Deyrnas Unedig grŵp masnach a buddsoddi UDA-DU i ddarparu dilyniant masnachol i fusnesau, gweithwyr a chwsmeriaid yn y ddwy wlad wrth i'r DU adael yr UE, ac i archwilio ffyrdd o gryfhau cysylltiadau masnach a buddsoddi rhwng y ddwy wlad. Pa astudiaeth y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r manteision buddsoddi posibl i Islwyn, de-ddwyrain Cymru a rhannau eraill o Gymru yn sgil y camau cadarnhaol hyn gan Lywodraeth y DU a'r Unol Daleithiau, yn enwedig o gofio na allai Mr Morgan werthu Cymru i America beth amser yn ôl, ond rwy'n eithaf siŵr y bydd eich talentau chi'n llwyddo i wneud hynny ac y bydd ein heconomi yn cael hwb yn ne-ddwyrain Cymru?