Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:10 pm ar 6 Mawrth 2019.
Cefais y fraint anhygoel o gadeirio cyfarfod cyntaf ysbrydoledig Senedd Ieuenctid Cymru yn y Siambr yma ychydig dros wythnos yn ôl. Efallai bydd yr Aelodau yn ymwybodol fod y Senedd Ieuenctid honno wedi cytuno'n ffurfiol ar dri mater blaenoriaethol i fynd ar eu trywydd: cymorth ar gyfer iechyd emosiynol ac iechyd meddwl oedd un o'r rheini; sbwriel a gwastraff plastig yn un arall; a sgiliau bywyd yn y cwricwlwm yn un arall. Bydd staff y Comisiwn a'r 60 Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru yn cyfarfod yn y rhanbarthau nesaf ym mis Ebrill i lunio cynllun i ymgysylltu â phobl ifanc ledled Cymru ar y materion blaenoriaethol a ddewiswyd ganddyn nhw.