Senedd Ieuenctid Cymru

Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:11 pm ar 6 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 3:11, 6 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Lywydd. Mae'n ddrwg gennyf am golli'r cyfarfod cyntaf. Roeddwn yn bwriadu bod yma ond cefais fy rhwystro gan argyfwng teuluol. Rwyf wedi bod yn edrych ar rai o'r areithiau ar-lein, fel llawer o Aelodau eraill rwy'n siŵr, ac mae ansawdd, dyfnder a gonestrwydd y cyfraniadau a wnaed gan y bobl ifanc wedi gwneud argraff fawr arnaf. Rwy'n falch iawn o weld bod y ffrydiau gwaith a ddewiswyd ganddynt yn cael eu datblygu mor gyflym. Pa ystyriaeth a roddir i ffurfio rhyw fath o gysylltiad mwy ffurfiol rhwng y Senedd Ieuenctid a phwyllgorau'r Cynulliad? Gwn fod llawer o'r Aelodau'n cyfarfod â chynrychiolwyr unigol ein Senedd Ieuenctid, ond ymddengys i mi y gallai fod cyfle i'r bobl ifanc ein helpu i osod rhai o'n hagendâu yn ein gwaith pwyllgor ac yn ein gwaith o graffu ar Lywodraeth Cymru.