Senedd Ieuenctid Cymru

Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:12 pm ar 6 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:12, 6 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Gwn fod trafodaethau wedi bod yn ystod y penwythnos preswyl a oedd yn cynnwys cyfarfod ffurfiol Senedd Ieuenctid Cymru ar sut roedd y bobl ifanc eisiau cael effaith ar y blaenoriaethau polisi roeddent wedi pleidleisio arnynt. Mater iddynt hwy yw penderfynu sut y maent eisiau sicrhau'r effaith honno, ond yn sicr mae yna ffordd hawdd iawn o sicrhau hynny mewn perthynas â rhywfaint o'r gwaith pwyllgor sy'n cael ei wneud yn y lle hwn, a allai'n hawdd adlewyrchu rhai o'r blaenoriaethau a ddewiswyd gan y bobl ifanc—sef ein bod yn hwyluso, fel rhan o'n gwaith parhaus gyda'r 60 o seneddwyr ifanc, y ffordd y gallant wneud y cysylltiadau pwysig hynny er mwyn cyfrannu at y gwaith go iawn o lunio polisi drwy'r pwyllgorau, ac yn y pen draw, Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol.