Hedfan Baneri ar Ystâd y Cynulliad

Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:16 pm ar 6 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:16, 6 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Nid wyf yn siŵr a oes cwestiwn i mi ymateb iddo, ond mae Brexit yn ymwneud â llawer mwy na lliw pasbortau a chwifio baneri yn fy marn i. Mae'n bosibl y bydd yna bolyn heb faner, naill ai ymhen ychydig wythnosau, ymhen ychydig o flynyddoedd, neu efallai ddim o gwbl. Os bydd hynny'n digwydd, efallai eich bod wedi gweld, yn ystod yr wythnos neu ddwy ddiwethaf, fod y Ddraig Goch, mewn arolwg barn byd-eang, wedi dod i'r brig fel y faner ryngwladol orau, a chredaf ei bod yn hen bryd i ni gael o leiaf dwy o'r baneri hynny'n hedfan y tu allan i'n hadeilad, os nad pedair.