Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:17 pm ar 6 Mawrth 2019.
Fel y Llywydd, rwy'n falch iawn o faner Cymru, ac yn falch iawn o weld ei bod wedi cyrraedd yn uchel iawn mewn arolwg barn rhyngwladol. Baner arall sy'n hynod o boblogaidd yng Nghymru wrth gwrs, yn enwedig ar ddydd Gŵyl Dewi, yw baner Dewi Sant, baner ein nawddsant. Nid yw'n gyfarwydd iawn o amgylch y byd, mae arnaf ofn, yn wahanol i groes Andreas a baner San Siôr. A gaf fi annog y Comisiwn i ystyried chwifio baner Dewi Sant ar sail barhaol ar ystâd y Cynulliad er mwyn hyrwyddo'r rhan bwysig hon o Gymru a'n hunaniaeth?