Part of the debate – Senedd Cymru am 3:56 pm ar 6 Mawrth 2019.
Felly, mae Llywodraeth Cymru wedi bod ar flaen y gad yn galw am ddiwygio, ac ategwyd ein galwadau gan adroddiadau pwyllgor, yma ac yn Senedd y DU.
Nawr, fe wnaethom osod ein safbwynt ar y materion hyn yn 'Brexit a Datganoli', a gyhoeddwyd gennym yn ystod haf 2017. Roedd 'Brexit a Datganoli' yn dadlau o blaid mecanwaith rhynglywodraethol sefydlog a allai negodi a gwneud penderfyniadau rhwymol ar faterion o ddiddordeb cyffredin ledled y DU. Fe wnaethom argymell sefydlu cyngor o Weinidogion y DU, er mwyn datrys anghydfodau drwy gymrodeddu annibynnol, yn ogystal ag argymell y dylai'r mecanwaith gael ei gynnal gan ysgrifenyddiaeth annibynnol newydd.
Mae'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion presennol, yn ei amrywiol weddau, yn gorff ymgynghorol heb gyfrifoldebau gwneud penderfyniadau. Mae ei weithrediadau wedi bod yn ddarostyngedig i reolaeth Llywodraeth y DU, a hynny'n amhriodol, yn hytrach na'n seiliedig ar gyfranogiad cydradd, sef yr egwyddor y buom yn chwilio amdani.
Nawr, pan gyhoeddwyd 'Brexit a Datganoli' gennym, roeddem yn cydnabod y byddai rhai o'n cynigion yn heriol, yn enwedig i Lywodraeth y DU, ac nid ydym erioed wedi honni ein bod yn gwybod yr atebion i gyd. Rydym wedi bod yn glir fod angen i bob un o'r pedair gweinyddiaeth yn y Deyrnas Unedig weithio gyda'i gilydd i ddatblygu consensws ynglŷn â sut y dylid cynnal y cysylltiadau rhwng Llywodraethau'r Deyrnas Unedig yn y dyfodol. Felly, rydym yn croesawu'r cytundeb a gafwyd yng nghyfarfod llawn Cyd-bwyllgor y Gweinidogion ym mis Mawrth 2018, sef y dylai'r Llywodraethau gynnal adolygiad ar y cyd o gysylltiadau rhynglywodraethol.
Nawr, yng nghyfarfod diweddaraf Cyd-bwyllgor y Gweinidogion ar 19 Rhagfyr, pwysleisiodd Prif Weinidog Cymru wrth y Prif Weinidog fod Llywodraeth Cymru wedi gobeithio am fwy o gynnydd ar yr adolygiad erbyn hyn. Wedi dweud hynny, rydym yn cydnabod, er bod y gwaith hwn yn hanfodol bwysig, ei fod yn anodd iawn hefyd. Mae angen i ni gyrraedd consensws ystyrlon ar gyfer newid sylweddol rhwng pob un o bedair gwlad y DU. Nawr, mae gan bob un o'r Llywodraethau hynny eu safbwyntiau gwleidyddol eu hunain a'u safbwyntiau unigryw eu hunain, ynglŷn â sut y dylai Llywodraethau weithio gyda'i gilydd ac ar statws cyfansoddiadol ehangach y DU. Ac fe fyddwch yn deall, wrth gwrs, fod Gweinidogion a swyddogion ar draws yr holl weinyddiaethau angen lle i gynnal trafodaethau cyfrinachol mewn perthynas â'r adolygiad. Ond byddwn ni, fel Llywodraeth, yn sicrhau bod y Cynulliad a'i bwyllgorau yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am yr adolygiad cyn belled ag y bo modd, gan barchu'r angen hwnnw am gyfrinachedd. Rydym yn bwriadu darparu'r wybodaeth ddiweddaraf yn fwy ffurfiol i'r Aelodau cyn gynted ag y gallwn.
Roedd y cyfarwyddyd gwreiddiol o gyfarfod llawn Cyd-bwyllgor y Gweinidogion yn galw am adroddiad ar gynnydd ar gyfer cyfarfod Cyd-bwyllgor y Gweinidogion ym mis Mawrth eleni. Nawr, rwy'n siŵr na fyddwch yn synnu clywed nad oes dyddiad wedi'i bennu ar gyfer cyfarfod o'r fath. Ond buaswn yn gobeithio y byddwn mewn sefyllfa i ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf pan gynhelir y cyfarfod hwnnw.
Nawr, er bod cynnydd ar yr adolygiad ffurfiol wedi bod yn arafach nag y byddem wedi'i ddymuno, mae yna ddatblygiadau calonogol yn fwy cyffredinol. Rydym yn sicrhau newid graddol o ran parodrwydd adrannau Whitehall i ymgysylltu'n ffurfiol gyda'r gweinyddiaethau datganoledig mewn ffordd ystyrlon lle ceir cyd-ddibyniaeth gref rhwng cymhwysedd datganoledig a chymhwysedd nad yw'n ddatganoledig—lle ceir grym amgylchiadol, mewn gwirionedd, o ganlyniad i Brexit. Mae yna gydnabyddiaeth gynyddol, er enghraifft, pan fo trafodaethau rhyngwladol yn debygol o arwain at newid polisi mewn meysydd sydd o fewn cymhwysedd datganoledig, fod rhaid ymgysylltu'n llawn ac yn briodol gyda'r sefydliadau datganoledig cyn, yn ystod ac ar ddiwedd negodiadau o'r fath er mwyn atal gwrthdaro cyfansoddiadol dilynol.
Credaf fod angen i ni fod yn realistig yma. Os ceisiwn fynnu bod yn rhaid i ni gael feto dros gytundebau rhyngwladol—rhywbeth nad yw'n digwydd mewn systemau hollol ffederal fel Awstralia a Chanada hyd yn oed—ni fyddwn yn llwyddo i wneud unrhyw gynnydd. Yn hytrach, fel Llywodraeth, byddwn yn parhau i ddadlau'n rymus am rôl ystyrlon mewn negodiadau ac am ymrwymiadau na fydd Llywodraeth y DU fel arfer yn ceisio gweithredu newdiadau yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol i ddeddfwriaeth o fewn cymhwysedd datganoledig nad ydym yn cytuno â hwy, ac am fecanweithiau i sicrhau, lle nad ydym yn cytuno, fod y Senedd yn cael gwahoddiad i ystyried ein gwrthwynebiadau yn llawn cyn awdurdodi cam gweithredu o'r fath.
Un peth sy'n arbennig o berthnasol i'n trafodaeth heddiw yw cytundeb yr Adran Masnach Ryngwladol i sefydlu fforwm gweinidogol ar fasnach, ac rwy'n cynrychioli Llywodraeth Cymru yn fforwm hwnnw. Fe fyddwch yn gwybod bod hwn yn fater a drafodwyd gyda'r pwyllgor materion allanol ddydd Llun yr wythnos hon. Ond mae'r ddadl hon yn canolbwyntio ar y cytundeb a gyflwynwyd gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, a fydd yn nodi'r wybodaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei darparu i'r Cynulliad ynglŷn â'r modd y mae'n cynnal ei chysylltiadau â gwledydd eraill y Deyrnas Unedig.
Yn y bôn, mae'r cytundeb yn cynnwys dwy brif elfen. Yn gyntaf, mae'n nodi sut y byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad ar weithgaredd rhynglywodraethol ffurfiol fel y mae'n digwydd, fel petai, sy'n golygu y byddwn yn darparu gwybodaeth i'r Cynulliad am gyfranogiad Gweinidogion Cymru mewn strwythurau rhynglywodraethol anffurfiol. Mae hyn yn cynnwys trafodaethau a chytundebau ar fformatau amrywiol yng Nghyd-bwyllgor y Gweinidogion—er enghraifft, ei gyfarfod llawn, fformat penaethiaid Llywodraethau, negodiadau'r UE Cyd-bwyllgor y Gweinidogion, Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Ewrop) a'r fforwm gweinidogol ar y berthynas rhwng y DU â'r UE yn y dyfodol—ond mae hefyd yn cynnwys y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, a bydd yn cynnwys fforymau rhyngweinidogol amlochrog a dwyochrog sefydlog neu ad hoc eraill o statws cyffelyb sy’n bodoli eisoes neu a allai gael eu sefydlu yn y dyfodol. Byddai hynny'n ymgrynhoi'r cyfarfodydd pedairochrog gweinidogol ffurfiol sy'n bodoli ar gyfer cyllid ac amaethyddiaeth, yn ogystal â fforymau newydd sy'n dod i'r amlwg ar draws nifer o feysydd portffolio.
Nawr, ar gyfer y fforymau hyn, mae'r cytundeb yn mynnu ein bod yn darparu hysbysiad ysgrifenedig i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol fis ymlaen llaw, a thestunau perthnasol, lle bo hynny'n bosibl. Byddwn yn sicr yn bodloni'r gofyniad hwnnw lle y gallwn, ond fel y mae Aelodau eraill wedi nodi heddiw, anaml y byddwn ni fel Llywodraeth yn cael cymaint â hynny o rybudd ynghylch dyddiad y cytunwyd arno ar gyfer fforymau o'r fath ein hunain. Felly, yn dilyn y cyfarfod, byddwn yn darparu crynodeb ysgrifenedig o'r materion a drafodwyd yn y cyfarfod o fewn pythefnos i'r cyfarfod hwnnw.
Mae ail elfen y cytundeb yn ymwneud â chynhyrchu adroddiad blynyddol. Bydd hwn yn crynhoi allbynnau allweddol o weithgarwch yn amodol ar ddarpariaethau'r cytundeb, ac yn rhoi sylwadau ar waith ehangach ar gysylltiadau rhynglywodraethol a gyflawnir yn ystod y flwyddyn honno.