7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol: Cytundeb cysylltiadau rhyng-sefydliadol rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru

– Senedd Cymru am 3:34 pm ar 6 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:34, 6 Mawrth 2019

Y ddadl nesaf yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar y cytundeb cysylltiadau rhyng-sefydliadol rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Mick Antoniw.

Cynnig NDM6983 Mick Antoniw

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, sef Cytundeb cysylltiadau rhyng-sefydliadol rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 31 Ionawr 2019.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 3:34, 6 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Lywydd. Rwy'n falch o agor y drafodaeth hon. Roedd yn bwysig i'r pwyllgor fod y cytundeb hwn a gyrhaeddwyd, sy'n gyfansoddiadol o ran ei natur, ac yn ymwneud â chraffu ar y Cynulliad, wedi'i gyflwyno ar lawr y Siambr fel bod yr Aelodau'n dod yn ymwybodol ohono, fel bod aelodau o'r cyhoedd yn dod yn ymwybodol ohono, oherwydd, yn y cyfnod anodd rydym yn gweithredu ynddo ar hyn o bryd, mae tryloywder a chraffu yn eithriadol o bwysig, ac mae hwn yn gytundeb unigryw a gynlluniwyd i geisio mynd i'r afael â hynny.

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 3:35, 6 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Yn Chwefror 2018, cyhoeddasom ein hadroddiad 'Llywodraethiant yn y DU ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd', a diben hwnnw oedd archwilio'r cysylltiadau rhynglywodraethol presennol i weld a ydynt yn addas i'r diben ac asesu a oes angen eu newid. Cynhaliwyd ein hymchwiliad nid yn unig yng nghyd-destun 20 mlynedd ers datganoli, ond hefyd, o gofio bod y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, a'n hawydd i sicrhau nad yw buddiannau Cymru yn cael eu gwthio i'r cyrion yn y trefniadau cyfansoddiadol a fydd yn ymddangos yn y DU o ganlyniad. Argymhelliad olaf ein hadroddiad oedd bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i gytundeb cysylltiadau rhynglywodraethol gyda'r pwyllgor i gefnogi ei waith craffu ar weithgarwch Llywodraeth Cymru yn y maes hwn.

Rwy'n falch felly o fod mewn sefyllfa heddiw i groesawu'n ffurfiol ein hymrwymiad i gytundeb o'r fath, sydd wedi'i gynnwys yn yr adroddiad byr sydd gerbron y Cynulliad heddiw. Mae'r cytundeb yn ddogfen bwysig iawn. Bydd y berthynas sy'n bodoli rhwng Llywodraethau yn y DU yn newid os byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Bydd yn hanfodol, felly, i bwyllgorau'r Cynulliad a'r Cynulliad Cenedlaethol allu craffu ar sut y mae Llywodraethau'n gweithio gyda'i gilydd er budd ein dinasyddion ar draws y sbectrwm polisi ac mewn perthynas â sefydlu fframweithiau polisi cyffredin. Credwn y bydd y cytundeb rhyngsefydliadol sydd ger ein bron heddiw yn helpu i hwyluso'r broses honno.

Mae'r cytundeb yn mabwysiadu'r un dull o weithredu sy'n bodoli mewn cytundeb rhwng Llywodraeth yr Alban a Senedd yr Alban. Mewn adroddiad a gyhoeddwyd gan Bwyllgor Datganoli (Pwerau Pellach) Senedd yr Alban yn 2015:

Bydd effeithiolrwydd y Senedd wrth graffu ar gysylltiadau rhynglywodraethol yn dibynnu'n rhannol ar ei gallu i gael gwybodaeth am y deunydd pwnc ac amserlen y trafodaethau rhwng llywodraethau.

Roedd y safbwynt hwnnw'n canu cloch gyda ni, ac yn benodol, ein cred fod angen tryloywder mewn perthynas â chysylltiadau rhynglywodraethol a'r mecanweithiau i'w hwyluso. Rydym yn credu bod y cytundeb yn cyflawni'r pwyntiau hyn, ac rwyf am roi amlinelliad byr iawn o'i ofynion, sy'n amlwg wedi'u nodi'n fwy manwl yn y ddogfen hon, sydd gerbron yr Aelodau.

Mae'r cytundeb yn sefydlu tair egwyddor a fydd yn rheoli'r berthynas rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chysylltiadau rhynglywodraethol. Y tair egwyddor yw tryloywder, atebolrwydd, a pharch tuag at, a chydnabyddiaeth i’r rhan y mae trafodaethau cyfrinachol yn ei chwarae rhwng Llywodraethau, yn enwedig wrth ddatblygu polisi. Mae’r cytundeb yn berthnasol i'r rhan y bydd Gweinidogion Cymru yn ei chwarae mewn strwythurau rhynglywodraethol ffurfiol, gan gynnwys Cyd-bwyllgor y Gweinidogion ym mhob un o'i fformatau gweithredu, y fforwm gweinidogol ar y berthynas yn y dyfodol rhwng y DU a’r UE, y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig a fforymau rhyngweinidogol ad hoc amrywiol o statws cyffelyb sy'n bodoli'n barod neu a allai gael eu sefydlu.

Mae'n darparu dwy fantais bwysig ar gyfer gwaith y pwyllgorau. Yn gyntaf, bydd fy mhwyllgor ac eraill, yn derbyn, cyn belled ag y bo'n ymarferol, o leiaf un mis o rybudd mewn perthynas â materion agenda a materion allweddol i'w trafod cyn cyfarfodydd perthnasol a drefnwyd, oni bai bod cyfranogiad Llywodraeth Cymru yn digwydd ar fyr rybudd. Bydd hyn yn galluogi pwyllgor i fynegi barn ar y pwnc ac os yn briodol, i wahodd y Gweinidog cyfrifol i fynychu cyfarfod o'r pwyllgor cyn y cyfarfod rhynglywodraethol.

Yn ail, ar ôl pob cyfarfod gweinidogol rhynglywodraethol o fewn cwmpas y cytundeb, bydd Llywodraeth Cymru yn darparu crynodeb ysgrifenedig o'r materion a drafodwyd yn y cyfarfod i'r pwyllgorau perthnasol cyn gynted ag y bo'n ymarferol, ac o fewn pythefnos os yn bosibl. Bydd crynodeb o'r fath yn cynnwys unrhyw ddatganiad ar y cyd a ryddhawyd ar ôl y cyfarfod ac unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â'r cyfarfod, gan gynnwys amlinelliad o'r safbwyntiau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru.

Er mwyn monitro cynnydd, bydd Llywodraeth Cymru yn paratoi adroddiad blynyddol ar gysylltiadau rhynglywodraethol. Bydd yn cael ei osod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol a'i gyflwyno i fy mhwyllgor. Bydd yr adroddiad blynyddol yn crynhoi'r allbynnau allweddol o weithgaredd sy'n ddarostyngedig i ddarpariaethau'r cytundeb hwn, gan gynnwys unrhyw adroddiadau a gyhoeddir gan fforymau rhynglywodraethol perthnasol. Bydd hefyd yn gwneud sylwadau ar yr ystod ehangach o waith cysylltiadau rhynglywodraethol a wnaed yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys datrys anghydfodau, sy'n mynd i fod yn bwysig iawn.

Fel y dywedais pan gawsom ddadl ar ein hadroddiad 'Llywodraethiant yn y DU ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd' ychydig dros flwyddyn yn ôl erbyn hyn, mae'r DU yng nghanol un o'r diwygiadau cyfansoddiadol mwyaf pwysig a heriol y mae wedi'u hwynebu erioed, gyda goblygiadau hirdymor i weithrediad a llywodraethiant y DU a gwledydd a rhanbarthau unigol y DU. Bydd yn rhaid i'r DU addasu ei threfniadau mewnol er mwyn sicrhau na fydd gadael yr UE yn arwain at fwy o ganoli grym yn Llundain. Mae'r cytundeb hwn yn gam pwysig yn y ffordd y byddwn ni yn y Cynulliad yn craffu ar y broses honno wrth iddi ddatblygu.

Cyn cloi, hoffwn fynegi fy niolch i'r Prif Weinidog, y Cwnsler Cyffredinol a'u swyddogion am y ffordd gadarnhaol y maent wedi cymryd rhan yn natblygiad y cytundeb hwn. Os byddwn yn parhau yn yr un modd, rwy'n siŵr y bydd y cytundeb hwn yn esgor ar fanteision, nid yn unig i'r Cynulliad a'r Llywodraeth, ond hefyd i ddinasyddion Cymru, y genedl rydym yn ei gwasanaethu. Diolch.

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 3:41, 6 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Y cwestiwn i mi yw: sut y mae'r Cynulliad hwn yn dylanwadu ar sut y mae ein dwy Lywodraeth yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod uniondeb y setliad datganoledig yn cael ei amddiffyn? Ac er nad oeddwn yn aelod o'r pwyllgor hwn pan oedd y gwaith yn cael ei wneud ar y cytundeb penodol hwn, mae'r gwaith rwyf wedi'i wneud ar y pwyllgor ers hynny wedi lliwio sut rwyf eisiau gosod fy nghyflwyniad i chi, felly rwy'n gobeithio y byddwch yn amyneddgar gyda mi wrth i mi ddilyn llwybr troellog braidd tuag at fy nghasgliad.

Deddf gwladwriaeth y DU sy'n ein galluogi i gadw cyfraith yr UE o fewn ffiniau ein gwladwriaeth, a'r un Ddeddf sy'n caniatáu creu is-ddeddfwriaeth, sy'n gwneud yr acquis hwnnw'n weithredol. Bydd rhywfaint o'r is-ddeddfwriaeth, a wnaed gan Senedd y DU, yn aml yn effeithio ar gymwyseddau datganoledig. Mae'r is-ddeddfwriaeth honno'n gallu ymwneud â rhywbeth mor annadleuol â gosod enw corff DU neu Gymreig yn lle enw sefydliad UE, neu gall fod mor bwysig â rhoi pwerau a chyfrifoldebau newydd i Lywodraeth Cymru nad ydynt wedi'u cael o'r blaen. Ac ochr yn ochr â hynny, mae gennym sefyllfa lle mae'r ddwy Lywodraeth yn gweithio gyda'i gilydd tuag at amrywiaeth o gytundebau a choncordatau, megis y fframweithiau DU gyfan, a dylid gallu cyflawni llawer drwy'r strwythurau rhynglywodraethol ffurfiol hynny, megis Cyd-bwyllgor y Gweinidogion a'r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig ac ati.

Ond canlyniad anochel y gwaith hwn yw y gallai Gweinidogion Cymru gaffael pŵer a chyfrifoldeb eu hunain, neu'n wir, i'r gwrthwyneb, gallant ildio pŵer a chyfrifoldeb i Weinidogion y DU, a gofyn iddynt ar rai achlysuron i ddeddfu ar ran Cymru mewn meysydd datganoledig lle mae'n fanteisiol i wneud hynny. A dylai hynny'n unig wneud i ni dalu sylw, oherwydd, er ein bod eisoes yn gyfarwydd â'r syniad o gynigion cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer deddfwriaeth sylfaenol, nid ydym mor gyfarwydd â Senedd arall yn cyflwyno is-ddeddfwriaeth ar ein rhan, ac mewn perthynas ag is-ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â Brexit, mae llawer iawn ohoni, ac mae Llywodraeth Cymru wedi cydsynio i lawer iawn ohoni yn uniongyrchol ar ein rhan.

Nawr, nid yw'r ddadl hon yn ymwneud ag is-ddeddfwriaeth yn unig, ond mae'n gymhariaeth ddefnyddiol â'r sefyllfa rydym yn ei thrafod, sef rôl y Cynulliad hwn yn craffu ar ran ein hetholwyr ar weithgareddau Llywodraeth Cymru yn yr holl ryngweithio y mae'n ei wneud â Llywodraethau eraill, ond yn enwedig pan fo'r camau gweithredu hynny'n arwain at ennill neu golli pwerau mewn ffyrdd heblaw drwy ganiatâd datganedig y Cynulliad hwn, neu pan fônt yn arwain at wneud penderfyniadau mewn meysydd datganoledig gan Lywodraeth arall, heb sôn am Senedd arall, heb inni eu craffu'n uniongyrchol.

Felly, yn amodol ar y mesurau diogelu disgwyliedig i ddiogelu cyfrinachedd neu ymgysylltu ar fyr rybudd, mae'n gwbl briodol fod y Cynulliad hwn wedi argymell—neu wedi mynnu, hyd yn oed, gan mai dyna sut y teimlai i mi—cael protocol rhyngom ni a Llywodraeth Cymru lle mae Llywodraeth Cymru yn rhoi gwybod i ni am gyfarfodydd rhynglywodraethol mewn da bryd. Mae hynny'n galluogi pwyllgorau'r Cynulliad hwn i alw Gweinidogion i mewn cyn y cyfarfodydd hynny er mwyn rhoi gwybod iddynt beth yw'r safbwynt a ffafrir gan y Cynulliad hwn ar y pwnc dan sylw cyn eu bod yn mynychu cyfarfod rhynglywodraethol o'r fath. Yna, rhaid i Lywodraeth Cymru adrodd yn ôl i'r pwyllgorau, fel y clywsom, gydag adroddiadau cynnydd neu fanylion unrhyw gytundebau a wnaed neu unrhyw newidiadau i'r trefniadau presennol, ac mae hynny yn ei hun yn caniatáu i'r Aelodau yma graffu ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud—ychydig bach yn rhy hwyr efallai o ran newid yr hyn a allai fod wedi'i wneud, ond o leiaf gellir dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif am ei dewisiadau ar ein rhan.

A dyna pam y dechreuais y cyfraniad hwn drwy siarad am yr hyn sy'n ymddangos fel mater digyswllt, sef is-ddeddfwriaeth, oherwydd credaf y gellir rhagweld y bydd rhai cytundebau rhynglywodraethol—nid pob un ohonynt—yn arwain at Senedd y DU yn cyflwyno deddfwriaeth sylfaenol ac yn craffu arni yno. Mae angen i ni fod yn sicr yma fod Gweinidogion Cymru wedi cymryd camau priodol cyn hyn i ddiogelu budd gorau Cymru cyn drafftio unrhyw beth, yn enwedig os bydd yr hyn a fydd yn cael ei ddrafftio yn ymdrin â materion datganoledig.

Mae proses y cynnig cydsyniad deddfwriaethol sy'n dilyn yn darparu lefel o graffu a dylanwad ar gyfraith o'r fath yn y DU i'r Aelodau yma, a chafwyd synau calonogol o natur Sewel o du Llywodraeth y DU mewn perthynas â hynny. Ond mewn perthynas â'r is-ddeddfwriaeth a fydd yn deillio o'r gyfraith honno, a fydd ei hun wedi'i llunio ar sail Cymru a Lloegr, bydd ein gallu i graffu arni fel y dylem fod eisiau craffu arni yn cael ei herio'n fawr, ac mae'n cael ei herio'n fawr yn barod, gydag is-ddeddfwriaeth o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.

Ychydig wythnosau'n ôl yn unig, buom yn siarad ynglŷn â pha mor anodd oedd hi i Lywodraeth Cymru baratoi memoranda esboniadol digon manwl, a gwelsom yr un broblem gyda datganiadau Rheol Sefydlog 30. Er ein bod yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru dan bwysau mawr i drefnu a chrynhoi hyn, mae camgymeriadau neu wybodaeth anghyflawn yn amharu ar ein gallu i ymddiried yn eu gwaith craffu rhagarweiniol ar yr hyn y maent yn ei dderbyn gan y DU.

Felly, nid yw'n ymddangos bod y protocolau ar gyfer hynny'n gweithio'n gwbl foddhaol, a dyna pam fod y protocol rhwng y Cynulliad hwn a Llywodraeth Cymru, sy'n darparu ar gyfer hysbysu ac adrodd, ac sy'n rhoi cyfle i fynd yn groes i'r llif a dylanwadu ar drafodaethau Llywodraeth Cymru gyda'r DU, mor bwysig, oherwydd, ar ôl mynd drwy broses ddeddfwriaethol, ni chawn lawer o gyfle i graffu neu ddylanwadu'n gyson, a dylai hynny beri pryder i ni. Diolch.

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 3:46, 6 Mawrth 2019

Dwi'n falch iawn o gyfrannu at y ddadl yma, fel aelod o'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Allaf i longyfarch y Cadeirydd am grynodeb gwych o'r sefyllfa, achos mae'r cytundeb yma yn hanfodol bwysig? Cytundeb sydd gyda ni fan hyn rhyngom ni, fel y ddeddfwrfa, a'n Llywodraeth ni yn y fan hyn i wneud yn siŵr ein bod ni'n gwybod beth sy'n mynd ymlaen er mwyn hyrwyddo'r broses o graffu.

Wrth gwrs, yn enwedig gyda'r cefndir Brexit dŷn ni wedi clywed amdano fo, achos beth wnaeth hybu datblygiad yr adroddiad yma oedd y ffaith bod y broses Brexit ar fynd heibio, mae yna dyndra naturiol. Dŷn ni wedi bod yn siarad amdano fo nifer o droeon—y tyndra rhwng posibilrwydd o golli pwerau o fan hyn i San Steffan, ond hefyd mae yna dyndra arall, fel oedd Suzy Davies yn sôn amdano, o bwerau'n cael eu sugno o'r ddeddfwrfa yma i'r Llywodraeth yma. Mae yna dyndra mewn dwy ffordd, o golli pwerau o'r ddeddfwrfa i'n Llywodraeth ein hunain a hefyd i'r Llywodraeth arall i fyny ar ben arall yr M4.

Felly, dyna pam mae'r cytundeb yma yn hanfodol bwysig, achos dŷn ni wedi gweld colli pwerau. Dwi ddim yn mynd i ailadrodd hanesion ynglŷn â Deddf Cymru 2017, ond, wrth gwrs, yn y pwyllgor bob dydd Llun rŵan, fel y mae Suzy wedi cyfeirio, dŷn ni'n gweld toreth o ddeddfwriaeth gynradd ac eilradd yn dod ein ffordd ni achos ymadael ag Ewrop.

Wrth gwrs, mae yna bwysau amser ac mae yna bwysau gwaith affwysol ar swyddogion yn y lle yma, a hefyd, i fod yn deg, yn San Steffan, i gael popeth yn ei le mewn amser. Ond, wrth gwrs, dŷn ni hefyd yn gweld bod yna botensial, o leiaf, fel y mae Suzy wedi'i ddweud, ein bod ni yn gallu colli pwerau. Dŷn ni wedi gweld pethau fel—cawsom ni drafodaeth yr wythnos yma ar y defnydd o'r gair 'national' i olygu 'Prydeinig', yn lle national yn golygu 'Cymru'. Wel, roeddwn i'n credu ein bod ni wedi bod drwy hynna. Hynny yw, yn nhermau deddfwriaeth, dŷn ni nôl i fod yn region. Wel, nid dyna beth mae'n anthem genedlaethol ni, y byddwn ni yn ei chanu ddydd Sadwrn, yn ei dweud. Dŷn ni'n dweud, 'Gwlad. Gwlad.'—dŷn ni ddim yn canu, 'Rhanbarth. Rhanbarth', sori. Mae pethau fel yna yn bwysig. Mae pobl yn dweud, 'Dim ond geiriau—', ond eto mae pob cyfreithiwr yn dweud, 'Wel, y geiriau sydd yn bwysig ar ddiwedd y dydd.'

Hefyd, wrth gwrs, pan fo San Steffan yn deddfu drosom ni, dŷn ni'n hoff iawn o'u haelioni nhw, wrth gwrs, yn naturiol, yn deddfu drosom ni, yn enwedig mewn meysydd sydd eisoes wedi'u datganoli i ni ers dros 20 mlynedd, ond mi fuasem ni hefyd yn licio gweld y ddeddfwriaeth honno yn ddwyieithog, achos mae gennym ni iaith swyddogol yn y fan hyn a enwir y Gymraeg, ac mae yna ambell esiampl dŷn ni wedi'i nodi yn y pwyllgor dros yr wythnosau diwethaf pan dŷn ni'n cael deddfau uniaith Saesneg sydd yn mynd i chwarae allan yma yng Nghymru.

Mae pethau fel yna—. Mae pobl yn dweud, 'O, pwysau amser—nid oes eisiau mynd ar ôl y manylion, Dai, a chreu trwbl', ac ati, ac ati. Ond, dyna sut mae pethau—anghysondebau—yn gallu digwydd. Hefyd, drwy ddefnyddio'r esgus, 'Mae'n rhwyddach, wrth gwrs, efo'r holl staff ac egni sydd yn San Steffan, iddyn nhw wneud popeth drosom ni nawr, hyd yn oed mewn meysydd sydd eisoes wedi’u datganoli i ni'—. Wel, mae yna beryg yn hynna achos dylen ni fod yn deddfu mewn meysydd sydd wedi’u datganoli drosom ni ein hunain; dylai fod yna Fil amaeth Cymru, nid dibynnu ar Fil Amaeth Prydain Fawr. Dylai fod yna Fil pysgodfeydd Cymru, dim Bil Pysgodfeydd Prydain Fawr.

Gwelsom ni LCM ddoe ynglŷn â llesiant anifeiliaid—yr animal welfare LCM—buom ni'n ei drafod ddoe. Buasai’n ddigon hawdd fod wedi gwneud y Ddeddf yna yma yng Nghymru achos dau gymal oedd hi. Dau gymal oedd hi, ond chawsom ni ddim cyfle i graffu arni yn fan hyn nes bod y peth wedi digwydd. Roedd e’n fait accompli, i ddefnyddio iaith arall. Hynny yw, mae’r gallu yma a dylai fod yna reidrwydd inni fod yn datblygu ein deddfwriaeth ein hunain yn fan hyn gan fod y pwerau gyda ni rŵan, a dim defnyddio’r ffaith ein bod ni’n gadael Ewrop, mae popeth ar frys, does yna byth digon o amser, mae’n rhaid inni wneud pethau’n gyflym, a San Steffan sy’n gwneud popeth er ein mwyn ni, ond mae yna bethau yn gallu cael eu colli yn hynna.

Gwelsom ni efo’r LCM ar international healthcare arrangements fod yna bosibilrwydd real yn fan yna, nes i San Steffan newid eu meddwl, eu bod nhw’n mynd i ehangu eu pwerau yn y maes iechyd mewn maes sydd wedi’i ddatganoli fan hyn ers 20 mlynedd. Dydy hynna ddim yn iawn. Beth oedd eisiau oedd jest trosglwyddiad o functions syml. Gwnaeth San Steffan drio ychwanegu at eu pwerau nes i ni yn fan hyn ddarganfod hynna, er tegwch i bawb. Felly, mae’n rhaid bod yn wyliadwrus, ac mae’r protocol hyn yn hanfodol i hynna. Diolch yn fawr iawn ichi.

Photo of David Rees David Rees Labour 3:51, 6 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Nid oeddwn yn bwriadu siarad yn y ddadl hon oherwydd yn amlwg, rwy'n deall ei bod yn ddadl sy'n ymwneud ag egwyddorion, ond credaf ei bod yn bwysig deall nad mater cyfansoddiadol yw hwn, ond mater ar gyfer y Cynulliad cyfan a phwyllgorau amrywiol, a chredaf ei bod yn bwysig cydnabod hynny. Rwy'n siomedig o bosibl nad oes gennym gymaint â hynny o gyd-Aelodau yn y Siambr i ddeall hynny mewn gwirionedd.

Fel y dywedodd Suzy Davies, mae nifer yr offerynnau statudol sy'n mynd—. Nawr, ddydd Llun diwethaf, roedd y polisi pysgodfeydd cyffredin yn offeryn statudol o dan Reol Sefydlog 30C, lle mae Llywodraeth Cymru wedi ildio'r penderfyniad i Lywodraeth y DU gyflawni'r gwaith hwnnw mewn gwirionedd. Pan fyddwch yn darllen yr offerynnau statudol hyn, byddwch yn gweld eu bod yn dechnegol, mae'n wir, yn rhoi'r Deyrnas Unedig yn lle'r undeb, ond wedyn maent yn rhoi'r Ysgrifennydd Gwladol yn lle'r comisiwn. Felly, mewn gwirionedd, yr Ysgrifennydd Gwladol sy'n gwneud penderfyniadau, ac yn aml iawn, mae hefyd yn rhoi pwerau cydredol i Weinidogion, sy'n golygu y gall Gweinidogion y DU wneud penderfyniadau ar feysydd datganoledig yn ogystal. Felly, mae angen i ni ddeall beth y mae'r rhain yn ei olygu i Gymru mewn gwirionedd.

Rwy'n croesawu'r cytundeb hwn rhwng y Cynulliad a Llywodraeth Cymru oherwydd mae'n hollbwysig ein bod yn cael cyfle cyn iddynt fynd. Ac rwyf am gynnwys cafeat yma, pan fyddant yn cael yr agendâu, oherwydd yn aml iawn, pan fyddwn yn codi'r mater, nid yw'r Gweinidogion yn cael yr agendâu tan y diwrnod cyn iddynt fynd, ac weithiau, ni fyddant yn eu cael cyn iddynt gyrraedd. Mae rhaid bod hynny'n annerbyniol, ac efallai fod honno'n ffordd y gallwn ni, fel Cynulliad, roi pwysau ar ein cymheiriaid seneddol yn San Steffan drwy ddweud, 'Rhowch drefn ar bethau a sicrhewch fod eich Gweinidogion yn rhoi'r agendâu hyn yn eu lle,' oherwydd sut y gallwn eu dwyn i gyfrif pan na fydd y papurau ganddynt, oherwydd bod rhyw Senedd arall, Llywodraeth arall, yn eu cadw'n ôl? Ond pan fyddwn yn eich dwyn i gyfrif, a wnewch chi ddod yn ôl a dweud wrthym amdano? Ond rydym eisiau dylanwadu arno mewn gwirionedd; rydym eisiau eich dwyn i gyfrif a dweud, 'Pam y gwnewch hyn? Beth ydych chi'n ceisio ei gyflawni? A phan ddowch yn ôl, a wnaethoch ei gyflawni? Pam nad ydych wedi'i gyflawni? Beth oedd y problemau?' Felly, mae'n hollbwysig fod y Cynulliad yn cael y cyfle hwnnw, a bod y cytundeb hwn yn rhoi proses ffurfiol ar waith i alluogi hynny i ddigwydd, a byddem yn gwerthfawrogi hynny'n fawr iawn.

Ond yr hyn sy'n rhaid i ni geisio ei wneud yn awr yw mynd ar drywydd hyn ymhellach oherwydd rydym wedi bod yn gwneud hyn, yn aml iawn, dan bwysau Brexit. Pan fyddwn yn gadael—ac rwy'n credu y byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd—bydd y strwythur cyfan o fewn y DU yn newid. Rydym angen cydnabod y bydd y trafodaethau y bydd ein Llywodraeth yn eu cael gyda Llywodraeth San Steffan yn hollbwysig ar gyfer y polisïau yma yng Nghymru. Mae gennym fframweithiau y gwyddom y byddant ar waith mewn perthynas ag amaethyddiaeth. Mae'n bur bosibl y bydd fframweithiau eraill ar waith, ac rydym eisiau lleisio barn a dylanwadu fel Cynulliad ar yr hyn sy'n cael ei ddweud yn y trafodaethau hynny. Felly, rwy'n croesawu'r cytundeb hwn yn fawr iawn, Lywydd, ac rwy'n gobeithio y byddwn yn sicrhau y bydd yn gweithio i ni mewn gwirionedd, ac y gallwn bwyso ar Lywodraeth y DU i roi digon o amser i ni allu craffu.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:54, 6 Mawrth 2019

Y Gweinidog i gyfrannu i'r ddadl—Eluned Morgan.

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour

Diolch yn fawr, Llywydd, a dwi’n falch o gadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r cynnig ac yn falch o adrodd ein bod ni wedi gweithio’n agos iawn gyda’r pwyllgor i ddatblygu’r cytundeb sydd o’n blaenau ni. Nawr, cyn gwneud unrhyw sylwadau am y cytundeb ei hun, dwi am osod hyn yng nghyd-destun ehangach yr heriau sy'n ein hwynebu ni o ganlyniad i Brexit a dweud, unwaith eto, beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru ar y ffordd y dylai'r berthynas rhwng Llywodraethau newid. Mewn rhai misoedd, byddwn ni'n dathlu 20 mlwyddiant Cyfarfod Llawn cyntaf y Cynulliad Cenedlaethol. Mae'r Llywodraethau a'r deddfwriaethau datganoledig bellach yn rhan sefydlog a pharhaol o gyfansoddiad y Deyrnas Unedig, ond mae'r ffaith bod y Deyrnas Unedig yn ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yn arwain at heriau cwbl newydd i'r berthynas rhwng y gwledydd ac i drefniadau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig. A rhaid cofio ac ystyried bod y systemau sydd yn eu lle eisoes yn gwegian, ymhell cyn y bleidlais i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Does, yn bendant, dim modd iddyn nhw gynnal y pwysau ychwanegol y mae proses Brexit wedi'i rhoi arnyn nhw. 

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 3:56, 6 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Felly, mae Llywodraeth Cymru wedi bod ar flaen y gad yn galw am ddiwygio, ac ategwyd ein galwadau gan adroddiadau pwyllgor, yma ac yn Senedd y DU.

Nawr, fe wnaethom osod ein safbwynt ar y materion hyn yn 'Brexit a Datganoli', a gyhoeddwyd gennym yn ystod haf 2017. Roedd 'Brexit a Datganoli' yn dadlau o blaid mecanwaith rhynglywodraethol sefydlog a allai negodi a gwneud penderfyniadau rhwymol ar faterion o ddiddordeb cyffredin ledled y DU. Fe wnaethom argymell sefydlu cyngor o Weinidogion y DU, er mwyn datrys anghydfodau drwy gymrodeddu annibynnol, yn ogystal ag argymell y dylai'r mecanwaith gael ei gynnal gan ysgrifenyddiaeth annibynnol newydd.

Mae'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion presennol, yn ei amrywiol weddau, yn gorff ymgynghorol heb gyfrifoldebau gwneud penderfyniadau. Mae ei weithrediadau wedi bod yn ddarostyngedig i reolaeth Llywodraeth y DU, a hynny'n amhriodol, yn hytrach na'n seiliedig ar gyfranogiad cydradd, sef yr egwyddor y buom yn chwilio amdani.

Nawr, pan gyhoeddwyd 'Brexit a Datganoli' gennym, roeddem yn cydnabod y byddai rhai o'n cynigion yn heriol, yn enwedig i Lywodraeth y DU, ac nid ydym erioed wedi honni ein bod yn gwybod yr atebion i gyd. Rydym wedi bod yn glir fod angen i bob un o'r pedair gweinyddiaeth yn y Deyrnas Unedig weithio gyda'i gilydd i ddatblygu consensws ynglŷn â sut y dylid cynnal y cysylltiadau rhwng Llywodraethau'r Deyrnas Unedig yn y dyfodol. Felly, rydym yn croesawu'r cytundeb a gafwyd yng nghyfarfod llawn Cyd-bwyllgor y Gweinidogion ym mis Mawrth 2018, sef y dylai'r Llywodraethau gynnal adolygiad ar y cyd o gysylltiadau rhynglywodraethol.

Nawr, yng nghyfarfod diweddaraf Cyd-bwyllgor y Gweinidogion ar 19 Rhagfyr, pwysleisiodd Prif Weinidog Cymru wrth y Prif Weinidog fod Llywodraeth Cymru wedi gobeithio am fwy o gynnydd ar yr adolygiad erbyn hyn. Wedi dweud hynny, rydym yn cydnabod, er bod y gwaith hwn yn hanfodol bwysig, ei fod yn anodd iawn hefyd. Mae angen i ni gyrraedd consensws ystyrlon ar gyfer newid sylweddol rhwng pob un o bedair gwlad y DU. Nawr, mae gan bob un o'r Llywodraethau hynny eu safbwyntiau gwleidyddol eu hunain a'u safbwyntiau unigryw eu hunain, ynglŷn â sut y dylai Llywodraethau weithio gyda'i gilydd ac ar statws cyfansoddiadol ehangach y DU. Ac fe fyddwch yn deall, wrth gwrs, fod Gweinidogion a swyddogion ar draws yr holl weinyddiaethau angen lle i gynnal trafodaethau cyfrinachol mewn perthynas â'r adolygiad. Ond byddwn ni, fel Llywodraeth, yn sicrhau bod y Cynulliad a'i bwyllgorau yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am yr adolygiad cyn belled ag y bo modd, gan barchu'r angen hwnnw am gyfrinachedd. Rydym yn bwriadu darparu'r wybodaeth ddiweddaraf yn fwy ffurfiol i'r Aelodau cyn gynted ag y gallwn.

Roedd y cyfarwyddyd gwreiddiol o gyfarfod llawn Cyd-bwyllgor y Gweinidogion yn galw am adroddiad ar gynnydd ar gyfer cyfarfod Cyd-bwyllgor y Gweinidogion ym mis Mawrth eleni. Nawr, rwy'n siŵr na fyddwch yn synnu clywed nad oes dyddiad wedi'i bennu ar gyfer cyfarfod o'r fath. Ond buaswn yn gobeithio y byddwn mewn sefyllfa i ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf pan gynhelir y cyfarfod hwnnw.

Nawr, er bod cynnydd ar yr adolygiad ffurfiol wedi bod yn arafach nag y byddem wedi'i ddymuno, mae yna ddatblygiadau calonogol yn fwy cyffredinol. Rydym yn sicrhau newid graddol o ran parodrwydd adrannau Whitehall i ymgysylltu'n ffurfiol gyda'r gweinyddiaethau datganoledig mewn ffordd ystyrlon lle ceir cyd-ddibyniaeth gref rhwng cymhwysedd datganoledig a chymhwysedd nad yw'n ddatganoledig—lle ceir grym amgylchiadol, mewn gwirionedd, o ganlyniad i Brexit. Mae yna gydnabyddiaeth gynyddol, er enghraifft, pan fo trafodaethau rhyngwladol yn debygol o arwain at newid polisi mewn meysydd sydd o fewn cymhwysedd datganoledig, fod rhaid ymgysylltu'n llawn ac yn briodol gyda'r sefydliadau datganoledig cyn, yn ystod ac ar ddiwedd negodiadau o'r fath er mwyn atal gwrthdaro cyfansoddiadol dilynol.

Credaf fod angen i ni fod yn realistig yma. Os ceisiwn fynnu bod yn rhaid i ni gael feto dros gytundebau rhyngwladol—rhywbeth nad yw'n digwydd mewn systemau hollol ffederal fel Awstralia a Chanada hyd yn oed—ni fyddwn yn llwyddo i wneud unrhyw gynnydd. Yn hytrach, fel Llywodraeth, byddwn yn parhau i ddadlau'n rymus am rôl ystyrlon mewn negodiadau ac am ymrwymiadau na fydd Llywodraeth y DU fel arfer yn ceisio gweithredu newdiadau yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol i ddeddfwriaeth o fewn cymhwysedd datganoledig nad ydym yn cytuno â hwy, ac am fecanweithiau i sicrhau, lle nad ydym yn cytuno, fod y Senedd yn cael gwahoddiad i ystyried ein gwrthwynebiadau yn llawn cyn awdurdodi cam gweithredu o'r fath.

Un peth sy'n arbennig o berthnasol i'n trafodaeth heddiw yw cytundeb yr Adran Masnach Ryngwladol i sefydlu fforwm gweinidogol ar fasnach, ac rwy'n cynrychioli Llywodraeth Cymru yn fforwm hwnnw. Fe fyddwch yn gwybod bod hwn yn fater a drafodwyd gyda'r pwyllgor materion allanol ddydd Llun yr wythnos hon. Ond mae'r ddadl hon yn canolbwyntio ar y cytundeb a gyflwynwyd gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, a fydd yn nodi'r wybodaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei darparu i'r Cynulliad ynglŷn â'r modd y mae'n cynnal ei chysylltiadau â gwledydd eraill y Deyrnas Unedig.

Yn y bôn, mae'r cytundeb yn cynnwys dwy brif elfen. Yn gyntaf, mae'n nodi sut y byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad ar weithgaredd rhynglywodraethol ffurfiol fel y mae'n digwydd, fel petai, sy'n golygu y byddwn yn darparu gwybodaeth i'r Cynulliad am gyfranogiad Gweinidogion Cymru mewn strwythurau rhynglywodraethol anffurfiol. Mae hyn yn cynnwys trafodaethau a chytundebau ar fformatau amrywiol yng Nghyd-bwyllgor y Gweinidogion—er enghraifft, ei gyfarfod llawn, fformat penaethiaid Llywodraethau, negodiadau'r UE Cyd-bwyllgor y Gweinidogion, Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Ewrop) a'r fforwm gweinidogol ar y berthynas rhwng y DU â'r UE yn y dyfodol—ond mae hefyd yn cynnwys y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, a bydd yn cynnwys fforymau rhyngweinidogol amlochrog a dwyochrog sefydlog neu ad hoc eraill o statws cyffelyb sy’n bodoli eisoes neu a allai gael eu sefydlu yn y dyfodol. Byddai hynny'n ymgrynhoi'r cyfarfodydd pedairochrog gweinidogol ffurfiol sy'n bodoli ar gyfer cyllid ac amaethyddiaeth, yn ogystal â fforymau newydd sy'n dod i'r amlwg ar draws nifer o feysydd portffolio.

Nawr, ar gyfer y fforymau hyn, mae'r cytundeb yn mynnu ein bod yn darparu hysbysiad ysgrifenedig i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol fis ymlaen llaw, a thestunau perthnasol, lle bo hynny'n bosibl. Byddwn yn sicr yn bodloni'r gofyniad hwnnw lle y gallwn, ond fel y mae Aelodau eraill wedi nodi heddiw, anaml y byddwn ni fel Llywodraeth yn cael cymaint â hynny o rybudd ynghylch dyddiad y cytunwyd arno ar gyfer fforymau o'r fath ein hunain. Felly, yn dilyn y cyfarfod, byddwn yn darparu crynodeb ysgrifenedig o'r materion a drafodwyd yn y cyfarfod o fewn pythefnos i'r cyfarfod hwnnw.

Mae ail elfen y cytundeb yn ymwneud â chynhyrchu adroddiad blynyddol. Bydd hwn yn crynhoi allbynnau allweddol o weithgarwch yn amodol ar ddarpariaethau'r cytundeb, ac yn rhoi sylwadau ar waith ehangach ar gysylltiadau rhynglywodraethol a gyflawnir yn ystod y flwyddyn honno.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 4:04, 6 Mawrth 2019

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau tryloywder yn ei pherthynas gyda Llywodraethau eraill yn y Deyrnas Unedig. Rŷm ni'n cytuno y bydd darparu'r wybodaeth sydd wedi ei nodi yn y cytundeb hwn yn helpu'r Cynulliad yn ei rôl hollbwysig yn craffu ar waith Gweinidogion Cymru gyda'u swyddogion cyfatebol ar draws y Deyrnas Unedig. Rŷm ni'n croesawu'r ffaith bod y cytundeb hwn yn cydnabod ac yn parchu'r angen am drafodaethau cyfrinachol rhwng Llywodraethau. Rŷm ni wedi ymrwymo i rannu cymaint o wybodaeth ag sy'n briodol gyda'r Cynulliad, ond mae angen caniatáu lle ar gyfer trafodaethau preifat a chyfrinachol, ac rwy’n gwybod bod yr Aelodau yn deall hynny. Rŷm ni’n credu bod y cytundeb hwn wedi llwyddo i sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng yr angen am dryloywder, i helpu’r Cynulliad i gyflawni ei rôl craffu, a chyfrifoldebau’r Llywodraeth dros ei pherthynas gyda gweinyddiaethau eraill y Deyrnas Unedig, ac rydym ni’n croesawu’r ffaith ein bod ni’n cydnabod y materion ymarferol sy’n dylanwadu ar sut a phryd y gellir rhannu’r wybodaeth. Felly, rŷm ni’n falch o gadarnhau unwaith eto bod y Llywodraeth yn cefnogi’r cynnig heddiw. Diolch.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:05, 6 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Galwaf ar Mick Antoniw i ymateb i'r ddadl.

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfraniadau manwl a wnaed gan aelodau'r pwyllgor a chan Dai Rees, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, a hefyd am yr ymateb manwl iawn gan y Llywodraeth.

Nid wyf yn twyllo fy hun, ac nid wyf yn credu bod yr un ohonom yn twyllo ein hunain, fod y trefniadau cyfansoddiadol a strwythurol hyn yn ennyn diddordeb enfawr ymhlith y cyhoedd, ac yn aml iawn, pan fyddaf yn edrych o amgylch y Siambr, nid yw'n ennyn diddordeb Aelodau'r Siambr chwaith. Felly, gallaf ddweud wrthych fod yr wyth munud a 30 eiliad sydd gennyf yn weddill i gau'r ddadl hon—ni fyddaf yn defnyddio'r cyfan ohono. Nid wyf am wneud i chi oddef hynny. Nid wyf yn meddwl fy mod erioed wedi curo drws lle mae aelod o'r cyhoedd wedi dod i'r drws ac wedi dweud wrthyf, 'A allwch ddweud wrthyf beth yw'r sefyllfa ddiweddaraf gyda'r trefniadau sefydliadol rhynglywodraethol a'r cydgyngor Gweinidogion, os gwelwch yn dda?' Ond natur y pethau hyn yw eu bod yn bwysig oherwydd eu bod yn creu'r fframwaith lle mae'r pŵer a arferwn yn y Siambr hon ar ran pobl Cymru yn cael ei ddwyn i gyfrif mewn gwirionedd—y ffordd yr ydym ni yn y Cynulliad hwn yn dwyn y Llywodraeth i gyfrif mewn amgylchedd lle rydym wedi gweld cryn dipyn o drosglwyddo pwerau.

Dyma yw'r union faterion sydd wedi arwain at ddatblygiad pwysig y trefniadau rhyngseneddol, lle'r ydym yn cyfarfod yn rheolaidd gyda'n pwyllgorau cyffredin ar gyfiawnder, materion cyfansoddiadol—gyda San Steffan, Tŷ'r Arglwyddi a'r Alban. Wynebwn yr un problemau yn union oherwydd, fel y gwyddom, cafwyd trosglwyddo pwerau sylweddol—pwerau Harri'r VIII—pwerau a oedd yn aml yn cael eu harfer heb fawr iawn o graffu. A chredaf y byddai pawb yn cytuno nad yw honno'n sefyllfa iach mewn Senedd ddemocrataidd, mewn cymdeithas ddemocrataidd, ond mae'n ganlyniad i'r hyn sy'n digwydd mewn perthynas â Brexit, a chrëwyd y fframweithiau hyn er mwyn manteisio i'r eithaf ar y cyfle sydd gan Aelodau etholedig i ddwyn y pwerau hynny i gyfrif. A'r hyn sydd wedi bod yn bwysig iawn o fewn y broses hon—ac rwy'n canmol y Llywodraeth am hyn—yw bod cydnabyddiaeth ar bob llaw ein bod mewn amgylchedd lle mae'n rhaid cael atebolrwydd, rhaid cael cymaint o dryloywder â phosibl, a dyna mae'r cytundeb hwn yn ceisio'i gyflawni.

Yn ddi-os ceir llawer o heriau ar hyd y ffordd, ac nid wyf yn bychanu'r heriau sy'n wynebu'r Llywodraeth o fewn hynny. Ein gwaith ni fel pwyllgor a'n gwaith ni fel Cynulliad yw dwyn y Llywodraeth i gyfrif—y ffordd mae'r Llywodraeth yn arfer ei phwerau—a cheir rhai rhesymau pwysig iawn pam y mae'n rhaid i hynny ddigwydd. Er enghraifft, ym maes cytundebau rhyngwladol yn awr, maes y gwn fod cyrff seneddol eraill yn edrych arno, yn ddiweddar wrth gwrs cawsom ddyfarniad yr Alban ym mater y ddeddfwriaeth barhad a aeth i'r Goruchaf Lys, lle mae'n amlwg yn gydnabyddedig fod cytuniadau rhyngwladol yn faterion a gedwir yn ôl i Lywodraeth y DU, ond mae gweithredu'r cytuniadau hynny mewn meysydd datganoledig yn faterion ar gyfer y Llywodraethau datganoledig ac i'r cyrff a etholir i ymgymryd â hynny. Felly, lle mae Llywodraeth bellach yn gorfod ymgysylltu â—a gwelwn hyn yn gyson bellach mewn Biliau sy'n cael eu cyflwyno o ganlyniad i Brexit—. Felly, lle mae Llywodraethau'n gorfod cymryd rhan mewn trafodaethau ac ymgynghoriadau dros y cyfnodau a fydd yn arwain at gytundebau sy'n rhwymo, ac i bob pwrpas yn rhwymo'r Cynulliad hwn i ddeddfwriaeth, yr unig gyfle a gawn mewn gwirionedd yw drwy gytundebau fel hyn a fydd yn ein galluogi i gael mynediad er mwyn gweld beth sy'n cael ei gynnig, pa gynigion sy'n cael eu datblygu, i'n galluogi i graffu ar hynny mewn gwirionedd, i roi mewnbwn, ac i roi llais i bobl Cymru drwy'r Cynulliad hwn yn y prosesau hynny.

Felly, mae a wnelo ag atebolrwydd o ran arfer pŵer, ac mae'r cytundeb hwn gerbron y Cynulliad heddiw i sicrhau ei fod wedi'i gofnodi, ei fod wedi'i gydnabod yn ffurfiol am yr hyn ydyw ac mai dyna'r fframwaith y bydd y Llywodraeth hon a'r Cynulliad hwn yn gweithredu o'i fewn dros y misoedd anodd, a'r blynyddoedd anodd yn ddi-os, sydd i ddod. Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:10, 6 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.