Part of the debate – Senedd Cymru am 4:16 pm ar 6 Mawrth 2019.
Rwy'n cytuno, a dyna'n union pam y disgrifiais y cytundebau adran 106 hyn fel jôc lwyr. Dyna'n union pam y maent yn jôc.
Ein pwynt, hefyd, yw bod cyni wedi golygu ein bod wedi gweld mwy fyth o'r enghreifftiau a roddais yn yr ail enghraifft dros y degawd olaf nag a welsom o'r enghraifft gyntaf, gyda chanlyniadau rhagweladwy a diffyg ymddiriedaeth cynyddol rhwng cymunedau a chynllunwyr lleol. Dengys yr ystadegau ar adeiladu tai nad yw wedi darparu mwy o dai cymdeithasol. Nawr, nid yw'r system gynllunio bresennol a'r cyllid cyfyngedig sydd ar gael i awdurdodau lleol yn cyflawni'r hyn sydd ei angen arnom. Bydd fy nghyd-Aelodau yn ymhelaethu ar hyn ymhellach, ond mae'n eithaf amlwg nad yw dibynnu ar ymrwymiadau tai fforddiadwy, neu'r cytundebau adran 106 chwerthinllyd gyda datblygwyr tai, yn mynd i gyflawni'r hyn rydym ei angen. Felly, rhaid inni dynnu'r hualau oddi ar gymdeithasau tai ac awdurdodau lleol, a rhaid inni adael iddynt fenthyg yn fwy sylweddol er mwyn creu tai newydd.
Benthyca ar gyfer cyllid tai newydd yw un o'r mathau o ddyled sector cyhoeddus sy'n creu'r lleiaf o risg, ac mae'n well na bod ein cronfeydd pensiwn yn buddsoddi mewn, dyweder, tanwyddau ffosil, er enghraifft. Ond rhaid inni hefyd osgoi camgymeriadau'r gorffennol, a chreu getos o dai cymdeithasol sydd ar wahân i fathau eraill o dai. Felly, rydym yn argymell y dylid cynnal archwiliad o ddatblygiad y broses gynllunio. Ar hyn o bryd mae gennym broses o neilltuo safleoedd ar gyfer datblygu, ac agwedd laissez-faire wedyn tuag at bwy sy'n eu hadeiladu, heb unrhyw ystyriaeth i'r mathau o wasanaethau cyhoeddus a seilwaith sydd eu hangen i wneud cymunedau'n gynaliadwy ac i weithio'n iawn. Rwy'n parhau i ddweud mai jôc yw cytundebau adran 106, ac mae'r rhan fwyaf o ystadau'n parhau i fod yn llanastr am nifer o flynyddoedd, gyda ffyrdd heb eu mabwysiadu a gwaith anorffenedig—hunllef i'r bobl sy'n byw o'u cwmpas. Dyma ddull o weithredu sy'n aml yn dieithrio cymunedau o'r broses ac yn datblygu problemau ar gyfer y dyfodol, yn enwedig o ystyried y cyfnod maith o gyni rydym wedi'i gael.
Felly, rydym yn argymell dull gwahanol o weithredu. Rydym yn argymell dull cydweithredol o ymdrin â chynllunio lle dylai datblygwyr, cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol weithio'n gydweithredol ar ddatblygiadau newydd a phroses y cynlluniau datblygu lleol yn ei chyfanrwydd, gan nodi lleoliadau addas a'r gwasanaethau cyhoeddus y bydd eu hangen i wneud i gymunedau weithio. Bydd targed i sicrhau bod 40 y cant o unrhyw ddatblygiadau tai newydd yn dai cymdeithasol. Nawr, wrth hynny, nid ydym yn golygu 'Gosod y tai cymdeithasol ar un ochr i'r ffordd a'r tai sector preifat ar yr ochr arall'. Rydym yn golygu cymuned wirioneddol gymysg, wedi'i chynnal gan wasanaethau cyhoeddus da. Mae arnaf ofn ei fod yn ddull o weithredu sy'n anghydnaws â chyni, ond mae'n un sy'n gydnaws â diwallu anghenion tai go iawn Cymru, nid anghenion y datblygwyr yn unig.