– Senedd Cymru am 4:10 pm ar 6 Mawrth 2019.
Symudwn ymlaen at eitem 8, sef dadl Plaid Cymru ar adeiladu tai cymdeithasol yng Nghymru, a galwaf ar Leanne Wood i wneud y cynnig.
Diolch. Rwy'n falch o agor y ddadl ar gynnig na ddylai fod yn un dadleuol. Rwyf am ddechrau drwy ailadrodd rhywbeth a ddywedais yn nadl y Ceidwadwyr ar dai ychydig fisoedd yn ôl. Rhwng 1997 a 2007, 825 yn unig o unedau newydd o dai cymdeithasol a adeiladwyd bob blwyddyn, ac nid yw hynny ond yn cynyddu i 850 bob blwyddyn yn y 10 mlynedd diwethaf. Ond mae Sefydliad Polisi Cyhoeddus Cymru yn amcangyfrif bod angen rhwng 3,300 a 4,200 o unedau ychwanegol o dai cymdeithasol arnom bob blwyddyn—850 o gartrefi yn unig a ninnau angen dros 4,000. Mae'r bwlch yn gwbl syfrdanol. Nid oedd neb yn anghytuno â'r ffigurau hynny ar y pryd ac nid wyf yn disgwyl i unrhyw un anghytuno â'r ffigurau hynny heddiw. Felly, yn hytrach, mae fy nghyd-Aelodau a minnau am ganolbwyntio ar y rhesymau pam nad ydym wedi gallu cyflawni dyhead yr ymddengys bod pawb ei eisiau.
Yn gyntaf oll, credaf fod angen rhywfaint o eglurhad ynglŷn â beth yn union rydym yn siarad amdano. Yn rhy aml, rydym wedi gweld y term 'tai fforddiadwy' yn cael ei ddefnyddio i olygu 'tai cymdeithasol', a honiad Llywodraeth Cymru yn sgil hynny ei bod ar y trywydd iawn i ddarparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy. Ar hyn o bryd, rydym mewn sefyllfa lle caiff 'fforddiadwy' ei ddiffinio yng nghyd-destun nodyn cyngor technegol 2. Mae'r diffiniad hwn hefyd yn cynnwys cartrefi a berchnogir drwy gynlluniau rhannu ecwiti, gan gynnwys Cymorth i Brynu. Ers yr etholiad yn 2016 pan gyflwynwyd y targed o 20,000 o gartrefi fforddiadwy, golyga hyn y bydd y 3,458 o gartrefi a werthwyd drwy gyfrwng Cymorth i Brynu yn cael eu cyfrif tuag at y targed hwnnw. Nawr, mae hon yn broblem go iawn pan ystyriwn fod 1,390 o'r cartrefi hyn—sef 40 y cant o'r cartrefi hynny—wedi gwerthu am dros £200,000. Mae'n amlwg felly fod y term 'fforddiadwy' yn cael ei gamddefnyddio. Faint o brynwyr tro cyntaf a all gynilo a fforddio prynu cartref gwerth £200,000? Felly, dyna pam rydym wedi argymell creu targed ar gyfer 20,000 o gartrefi tai cymdeithasol newydd mewn tymor o Lywodraeth Plaid Cymru, i wahanu tai cymdeithasol oddi wrth y sector preifat. Rydym eisiau gwneud tai sector preifat yn fwy fforddiadwy i bobl sy'n rhentu ac i'r rhai sydd am brynu wrth gwrs, ac mae ein papur ar dai yn cynnwys llawer o syniadau ar gyfer gwneud yn union hynny. Ond heddiw, rwy'n canolbwyntio ar dai cymdeithasol yn ystyr briodol y term i gyfeirio at gartrefi sy'n eiddo i gymdeithasau tai ac awdurdodau lleol. Ac mae gwir angen rhagor arnom.
Mae'r cynnydd mewn digartrefedd dros y degawd diwethaf yn rhywbeth a nodwyd yn y Senedd hon ar sawl achlysur. Rydym wedi trafod yr angen am bolisi tai yn gyntaf wrth gwrs i sicrhau bod pawb yn cael cartref ac y gallwn roi diwedd ar gysgu allan. Ac wrth gwrs, mae Crisis eisoes wedi ysgrifennu cynllun cynhwysfawr ar gyfer gwneud hynny. Mae'r cynllun hwnnw'n dibynnu ar adeiladu rhagor o dai cymdeithasol, a'r realiti er hynny yw bod polisïau cyni wedi llesteirio gallu'r sector i adeiladu mwy o dai cymdeithasol. Mae toriadau i nawdd cymdeithasol, ac effaith gronnol y newidiadau i fudd-daliadau tai yn benodol, wedi newid model busnes cymdeithasau tai. Maent wedi wynebu llai o incwm o rent, sydd o bosibl wedi peryglu buddsoddiad mewn rhagor o gartrefi. Hefyd maent wedi gorfod wynebu cynnydd yn y costau gweinyddol o ymdrin â mwy o ddyledion, ac wrth gwrs, y costau sylweddol yn sgil ailgartrefu pobl yr effeithiwyd arnynt gan y dreth ystafell wely. Yn wir, mae cymdeithasau tai yn dweud bod y gost o ymdrin â dim ond y bobl anabl yr effeithiwyd arnynt gan y dreth ystafell wely yn £40 miliwn. Nid yw'n syndod na chawsom y buddsoddiad roedd ei angen arnom mewn tai cymdeithasol.
Ond mae cyni'n effeithio ymhellach ar argaeledd tai yn ogystal, ac mae hynny wedi ei gwneud yn llawer anos cynllunio'r gwasanaethau cyhoeddus angenrheidiol ar gyfer gwasanaethu datblygiadau tai newydd. Gadewch i ni ddychmygu bod dau gynnig ar gyfer datblygu yn cael eu cyflwyno i gymuned leol. Mae'r cyntaf ar gyfer ystâd o dai wedi'i chynllunio'n briodol gyda chymysgedd o dai cymdeithasol a thai sector preifat. Gyda'r cais, daw buddsoddiad sylweddol mewn trafnidiaeth, mannau gwyrdd, a chaiff ei gefnogi gan ysgol newydd a meddygfa. Mae'r ail gynnig ar gyfer ystâd a adeiladir gan un o'r datblygwyr mawr, gyda chwota bach wedi'i gadw yn ôl ar gyfer 'tai fforddiadwy' ac adran 106 sy'n jôc; ni cheir fawr o fannau gwyrdd, ac mae perfformiad blaenorol y datblygwr—na ellir ei ystyried yn fater perthnasol mewn cyfraith gynllunio, wrth gwrs—yn awgrymu y gallai'r ystâd fod heb ei chwblhau am flynyddoedd, gyda rhannau ohoni'n safle adeiladu mwdlyd a ffyrdd heb eu mabwysiadu, a bydd yn rhaid i'r gwasanaethau cyhoeddus presennol yn y gymuned ymdopi, oherwydd nid oes arian i'w fuddsoddi ar gyfer y gymuned newydd. Yn eich tyb chi, pa un o'r cynigion hyn fydd yn denu cefnogaeth y gymuned—
A ydych chi'n ildio?
—a pha un o'r cynigion fydd yn ennyn gwrthwynebiad? A oeddech am ddweud rhywbeth?
Oeddwn, diolch. Hyd yn oed os yw'r cytundeb 106 yn dda iawn ar y dechrau, yr hyn a welwch yn aml, neu bron bob amser, yw'r datblygwr yn dod yn ôl a dweud, 'Nid wyf yn mynd i wneud digon o arian gyda'r cytundeb 106 hwn—a gawn ei newid? A gawn ni leihau nifer y tai fforddiadwy ac a gawn ni beidio ag adeiladu'r pethau hyn, oherwydd ni allwn ei fforddio, oherwydd mae'n debyg y bydd ein helw i lawr i £75,000 yr eiddo?'
Rwy'n cytuno, a dyna'n union pam y disgrifiais y cytundebau adran 106 hyn fel jôc lwyr. Dyna'n union pam y maent yn jôc.
Ein pwynt, hefyd, yw bod cyni wedi golygu ein bod wedi gweld mwy fyth o'r enghreifftiau a roddais yn yr ail enghraifft dros y degawd olaf nag a welsom o'r enghraifft gyntaf, gyda chanlyniadau rhagweladwy a diffyg ymddiriedaeth cynyddol rhwng cymunedau a chynllunwyr lleol. Dengys yr ystadegau ar adeiladu tai nad yw wedi darparu mwy o dai cymdeithasol. Nawr, nid yw'r system gynllunio bresennol a'r cyllid cyfyngedig sydd ar gael i awdurdodau lleol yn cyflawni'r hyn sydd ei angen arnom. Bydd fy nghyd-Aelodau yn ymhelaethu ar hyn ymhellach, ond mae'n eithaf amlwg nad yw dibynnu ar ymrwymiadau tai fforddiadwy, neu'r cytundebau adran 106 chwerthinllyd gyda datblygwyr tai, yn mynd i gyflawni'r hyn rydym ei angen. Felly, rhaid inni dynnu'r hualau oddi ar gymdeithasau tai ac awdurdodau lleol, a rhaid inni adael iddynt fenthyg yn fwy sylweddol er mwyn creu tai newydd.
Benthyca ar gyfer cyllid tai newydd yw un o'r mathau o ddyled sector cyhoeddus sy'n creu'r lleiaf o risg, ac mae'n well na bod ein cronfeydd pensiwn yn buddsoddi mewn, dyweder, tanwyddau ffosil, er enghraifft. Ond rhaid inni hefyd osgoi camgymeriadau'r gorffennol, a chreu getos o dai cymdeithasol sydd ar wahân i fathau eraill o dai. Felly, rydym yn argymell y dylid cynnal archwiliad o ddatblygiad y broses gynllunio. Ar hyn o bryd mae gennym broses o neilltuo safleoedd ar gyfer datblygu, ac agwedd laissez-faire wedyn tuag at bwy sy'n eu hadeiladu, heb unrhyw ystyriaeth i'r mathau o wasanaethau cyhoeddus a seilwaith sydd eu hangen i wneud cymunedau'n gynaliadwy ac i weithio'n iawn. Rwy'n parhau i ddweud mai jôc yw cytundebau adran 106, ac mae'r rhan fwyaf o ystadau'n parhau i fod yn llanastr am nifer o flynyddoedd, gyda ffyrdd heb eu mabwysiadu a gwaith anorffenedig—hunllef i'r bobl sy'n byw o'u cwmpas. Dyma ddull o weithredu sy'n aml yn dieithrio cymunedau o'r broses ac yn datblygu problemau ar gyfer y dyfodol, yn enwedig o ystyried y cyfnod maith o gyni rydym wedi'i gael.
Felly, rydym yn argymell dull gwahanol o weithredu. Rydym yn argymell dull cydweithredol o ymdrin â chynllunio lle dylai datblygwyr, cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol weithio'n gydweithredol ar ddatblygiadau newydd a phroses y cynlluniau datblygu lleol yn ei chyfanrwydd, gan nodi lleoliadau addas a'r gwasanaethau cyhoeddus y bydd eu hangen i wneud i gymunedau weithio. Bydd targed i sicrhau bod 40 y cant o unrhyw ddatblygiadau tai newydd yn dai cymdeithasol. Nawr, wrth hynny, nid ydym yn golygu 'Gosod y tai cymdeithasol ar un ochr i'r ffordd a'r tai sector preifat ar yr ochr arall'. Rydym yn golygu cymuned wirioneddol gymysg, wedi'i chynnal gan wasanaethau cyhoeddus da. Mae arnaf ofn ei fod yn ddull o weithredu sy'n anghydnaws â chyni, ond mae'n un sy'n gydnaws â diwallu anghenion tai go iawn Cymru, nid anghenion y datblygwyr yn unig.
Yn gyntaf, a gaf fi groesawu'r ddadl hon? Dyma'r ail ddadl i ni ei chael ar dai ers y Nadolig. A gaf fi ddweud pa mor falch wyf fi o ddechrau sôn am dai? Oherwydd credaf ei fod yn un o'r pethau pwysicaf. Ar ôl bwyd a diod, y peth pwysig nesaf i fywydau pobl yw tai. Felly, rwy'n credu ei bod yn wirioneddol bwysig inni ddechrau siarad am hyn. Gobeithio y bydd y ddadl nesaf yn ymwneud â strategaeth adeiladu tai Llywodraeth Cymru, i gynnwys adeiladu nifer fawr o dai cyngor.
Mae tai yn her fawr sy'n wynebu Prydain gyfan, gan gynnwys Cymru. Gellir rhannu'r cyfnod ar ôl y rhyfel yn ddau gyfnod o ran adeiladu tai. Yn gyntaf, y cyfnod o 1945 i 1980—yn ystod y cyfnod hwnnw, gwelsom dwf enfawr yn nifer yr ystadau o dai cyngor ac adeiladu nifer fawr o ystadau newydd mewn ardaloedd trefol. Hefyd, gwelsom dwf perchen-feddiannaeth a dechrau adeiladu ystadau preifat mawr, yn bennaf eto yn yr ardaloedd trefol mwy o faint.
Mae niferoedd tai cyngor wedi crebachu yn sgil gwerthu nifer fawr o dai a'r methiant i adeiladu rhai newydd. Cafwyd cynnydd sylweddol hefyd mewn eiddo cymdeithasau tai, ond nid yw'n ddigon i wneud iawn am y dirywiad mewn adeiladu tai cyngor. I'r bobl sydd â diddordeb dwfn mewn gwleidyddiaeth ac etholiadau, os edrychwch ar 'The British General Election of February 1974', y llyfr gan Butler a Kavanagh, fe welwch ei fod yn edrych ar nifer y tai a oedd yn dai cymdeithasol—neu 'dai cyngor' oedd y term a ddefnyddient bryd hynny, gan mai dyna oedd yr holl dai bron—a cheid nifer fawr o etholaethau lle'r oedd dros hanner y tai yn dai cyngor, ac yn yr Alban, roedd gennych etholaethau lle roedd rhwng 80 y cant a 90 y cant o'r tai yn dai cyngor. Dyna oedd y norm.
Mae niferoedd tai cyngor wedi crebachu—gwerthu niferoedd mawr a'r methiant i adeiladu rhai newydd. Cafwyd cynnydd sylweddol mewn eiddo cymdeithasau tai, ond nid hanner digon i lenwi'r bwlch a ddaeth yn sgil y dirywiad mewn adeiladu tai cyngor. O ganlyniad i newidiadau i fudd-daliadau, mae'r galw wedi cynyddu am gartrefi llai o faint. Ers 1980, rydym wedi gweld diwedd bron yn llwyr ar adeiladu tai cyngor, twf perchen-feddiannaeth, sydd i'w weld fel pe bai wedi arafu bellach, a thwf cymdeithasau tai yn landlordiaid pwysig. I'r bobl sy'n cofio nôl, arferai cymdeithasau tai fod yn sefydliadau bach, lleol a ddarparai dai. Nawr, mae un yn ymestyn o Gasnewydd i lawr i sir Benfro, mae un yn ymestyn o Gaerdydd i lawr at ymyl Cymru, ac mae un yn cwmpasu bron y cyfan o ogledd Cymru a chanolbarth Cymru.
Rydym wedi gweld gostyngiad yn nifer yr oedolion sy'n byw ym mhob eiddo ar gyfartaledd. Bu cynnydd mawr yn nifer yr aelwydydd un person a lleihad mawr ym maint teuluoedd. Cafodd gwerthu tai cyngor effaith ddifrifol ar y farchnad dai. Lleihaodd y cyflenwad o dai cyngor a chynyddodd y galw am eiddo cymdeithasau tai ac am eiddo rhent preifat. Mae hynny wedi creu cylch dieflig. Mae arian i'w wneud drwy ddarparu llety rhent preifat: mae pobl yn ei brynu, mae'n gwthio prisiau tai i fyny, mae'n gwneud pobl yn llai tebygol o allu cael cartref.
Cafwyd dau gyfnod yn yr ugeinfed ganrif pan oedd y cyflenwad tai yn llwyddo'n lled dda i fodloni'r galw a'r angen am dai. Y cyfnod cyntaf oedd rhwng y ddau ryfel byd, pan oedd dinasoedd yn ehangu'n llorweddol i ddatblygu maestrefi o gaeau glas a thrwy gymorth cymhellion y Llywodraeth, gallai adeiladwyr gynnig perchentyaeth fforddiadwy i bobl ar incwm canolig i isel. Pe baem am wneud yr un peth, byddai'n golygu rhoi diwedd ar yr holl reolau cynllunio. Nid wyf yn credu y byddai neb yn yr ystafell hon eisiau gweld diwedd ar yr holl reolau cynllunio.
Yr ail oedd y degawdau ar ôl yr ail ryfel byd, pan oedd bron hanner yr holl gartrefi a adeiladwyd yn dai cyngor a gâi eu hariannu gan gyllid cyhoeddus. Y sefyllfa sydd gennym yn awr yw bod angen inni ddychwelyd at hynny—at adeiladu nifer fawr o dai cyngor. Nid yw cymdeithasau tai yn mynd i lenwi'r bwlch. Pan fydd pobl yn sôn am dai cymdeithasol, yn rhy aml maent yn siarad am gymdeithasau tai. Mae angen inni gael cynghorau i adeiladu tai. Rydym wedi gweld hynny'n dechrau mewn mannau fel Abertawe. Cafwyd peth datblygu tai cyngor ar raddfa fach, ond heb fod yn agos at yr hyn a oedd yn digwydd rhwng 1945 a 1979. Nid wyf yn credu bod yr hyn sy'n cyfateb i flwyddyn o ddatblygu yn Abertawe wedi'i adeiladu yng Nghymru gyfan mewn unrhyw flwyddyn dros y 10 mlynedd diwethaf.
Mae adfywiad y gwaith o adeiladu tai cyngor yn wynebu rhwystrau mawr, gan gynnwys yr un amlwg, sef arian. Dywedodd Claire Bennie, pensaer a datblygwr tai, gynt o gymdeithas dai Peabody, y dylid caniatáu i gynghorau fenthyca mwy yn erbyn gwerth hirdymor eu datblygiadau, a chytunaf yn llwyr â hi. Dyna'r hyn a wnawn. Pan ewch i brynu tŷ, rydych yn benthyca yn erbyn gwerth hirdymor eich tŷ, a dyna beth yw morgais. Pam na ellir caniatáu i gynghorau wneud yr un peth?
Oni chawn adeiladu tai cyngor ar raddfa fawr, ni fyddwn yn datrys yr argyfwng tai. Bydd prisiau tai yn codi. Mae'n fanteisiol i ddatblygwyr beidio ag adeiladu digon o dai, oherwydd ei fod yn cadw prisiau'n uchel. Gall cymdeithasau tai helpu i ddatblygu tai cymdeithasol, a hoffwn weld rôl i gymdeithasau tai yn ailddechrau defnyddio eiddo gwag. Ond mewn gwirionedd, nid oes ond un ateb: adeiladu tai cyngor ar lefel sylweddol.
Ers blynyddoedd bellach, yr hyn a dderbynid yn gyffredinol oedd y byddai tai ar gyfer y farchnad a adeiledid gan ddatblygwyr yn sicrhau'r tai fforddiadwy sydd eu hangen i ateb y galw. Nawr, ar y meinciau hyn rydym am herio hynny, oherwydd, er yr holl addewidion a wnaed a'r targedau a osodwyd, nid yw'r cyflenwad wedi darparu'r niferoedd y mae galw amdanynt. Yn wir mae'r cyflenwad—fel y clywsom gan Leanne, nid yw'r cyflenwad o dai fforddiadwy yn cyfateb i'r niferoedd y rhoddwyd caniatâd ar eu cyfer dros y degawd diwethaf. Mae Stats Cymru yn dweud bod awdurdodau lleol wedi rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer 13,355 o dai fforddiadwy, ond 6,746 yn unig a adeiladwyd mewn gwirionedd—ychydig dros 50 y cant. Mewn rhai awdurdodau, roedd y ffigur hyd yn oed yn waeth. Yn Wrecsam, er enghraifft, 16 y cant yn unig o'r rhai y rhoddwyd caniatâd cynllunio ar eu cyfer a gafodd eu darparu.
Mae cynghorau sydd â llai a llai o adnoddau yn dibynnu ar ddatblygwyr preifat i gyrraedd targedau ar gyfer tai fforddiadwy. Felly, pam fod cyn lleied o'r tai fforddiadwy hyn yn cael eu cyflenwi? Mewn rhai achosion, fel y clywsom, nid oes unrhyw amheuaeth fod datblygwyr yn ceisio camu'n ôl rhag gorfod cyflenwi tai fforddiadwy, sef 25 y cant fel arfer ar ddatblygiadau mwy o faint, drwy honni nad ydynt yn hyfyw yn ariannol. Byddant yn honni, a chânt eu cefnogi gan arolygwyr cynllunio, fod angen elw o 15 i 20 y cant er mwyn gwneud tai yn ariannol hyfyw. Rwy'n siwr y byddai llawer o ddiwydiannau eraill wrth eu bodd yn gallu dangos elw o 15 i 20 y cant.
Mewn achosion eraill, ni adeiladir tai ar gyfer y farchnad, ac felly ni adeiladir tai fforddiadwy mawr eu hangen, gan adael miloedd o bobl yn gaeth i restrau aros am dai mewn llety gorlawn neu wynebu digartrefedd cudd. Mewn rhai achosion, mae cymalau ynghlwm wrth dai fforddiadwy yn gofyn am flaendaliadau mawr er mwyn eu gwneud yn anfforddiadwy i'r union bobl y cawsant eu llunio ar eu cyfer. Mae'n amlwg o'r ystadegau rwyf newydd eu dyfynnu nad yw'r mecanwaith cyflenwi a ffafrir ar hyn o bryd ar gyfer tai fforddiadwy fel y'u gelwir yn gweithio. Nid tai ar y farchnad agored yw'r ffordd o gyflenwi tai fforddiadwy.
Mae hefyd yn amlwg bod dibynnu ar ddatblygwyr i arwain ar dai yn golygu bod cymunedau yn aml yn ôl-ystyriaeth yn ein proses gynllunio. Dylai cynlluniau datblygu lleol ymwneud â datblygiadau dan arweiniad y gymuned, nid cymunedau dan arweiniad datblygwyr. Dylent hefyd sicrhau bod y seilwaith cymunedol angenrheidiol, fel y dywedodd Leanne—boed yn ffyrdd, ysgolion, darpariaeth iechyd a darpariaeth gymdeithasol—yn cael ei ddatblygu ochr yn ochr ag unrhyw ddatblygiad ar raddfa fawr, ac nid fel ôl-ystyriaeth os o gwbl. Nid yw byrddau iechyd yn ymgyngoreion statudol hyd yn oed ar faterion cynllunio, er gwaethaf yr effaith enfawr y byddai poblogaethau newydd yn amlwg yn ei chael ar feddygfeydd meddygon teulu, ar adrannau damweiniau ac achosion brys ac ar wasanaethau ysbyty sydd oll o dan bwysau. Unwaith eto, heb y ddarpariaeth gywir, gall adeiladu cartrefi newydd fod yn drychinebus mewn rhai ardaloedd. Golyga cyfyngiadau ar y grant tai cymdeithasol a phwysau ariannol arall nad yw cymdeithasau tai yn darparu tai fforddiadwy fel yr arferent ei wneud.
Un llygedyn o oleuni yw bod rhai cynghorau yng Nghymru, am y tro cyntaf mewn cenhedlaeth, fel y clywsom, yn dechrau adeiladu tai cyngor unwaith eto. Mae sir Gaerfyrddin, Abertawe, sir y Fflint a Wrecsam, ymhlith eraill, wedi dechrau ailgyflenwi stociau tai sydd wedi crebachu, ond ar ôl degawdau heb unrhyw adeiladu newydd, mae'n broses boenus o araf, ac nid yw'n ateb yr angen dirfawr am dai yn llwyr mewn llawer o'n cymunedau. Hefyd nid yw'n mynd i'r afael â'r ffaith nad oes gan hanner ein hawdurdodau unrhyw dai cyngor bellach, oherwydd y polisi o drosglwyddo stoc a fabwysiadwyd dros ddegawd yn ôl. Tybed sut y mae'r cynghorau a drosglwyddodd eu stoc yn teimlo bellach gyda'r gallu i adeiladu tai newydd ar gael i'r rhai a gadwodd eu stoc dai. Un nodwedd bwysig, er na chaiff ei gwerthfawrogi'n llawn, yw'r ffaith nad rhaglen adeiladu yn unig yw hon: mae hi hefyd yn rhaglen prynu'n ôl, fel bod tai a oedd yn dai cyngor yn flaenorol yn cael eu prynu'n ôl i berchnogaeth cyngor.
Mewn rhai ardaloedd ni cheir cronfeydd digonol i adnewyddu tai. Ceir miloedd o gartrefi gwag ar draws Cymru, gyda llawer ohonynt yn eiddo i bobl heb fodd o adnewyddu fel y gellir eu gosod neu eu gwerthu. Mae cynllun ar raddfa fach yn bodoli lle mae cynghorau'n darparu benthyciadau o hyd at £50,000 i wneud y math hwn o waith. Caiff y benthyciad ei ad-dalu pan werthir y tŷ neu wrth ei osod, felly cedwir y pot, ond mae hyn yn galw am swyddogion i bwyso ar berchnogion tai a chysylltu â hwy i sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud, a chydag adnoddau cyfyngedig, nid yw'r math hwn o waith yn digwydd yn ddigon cyflym os o gwbl.
Felly, mae'n amlwg y ceir mwy nag un ffordd o fynd i'r afael â'r argyfwng tai cymdeithasol, ond mae angen inni gynyddu'r arian sydd ar gael i sicrhau bod mentrau'n cyflawni. Rwy'n ategu'r alwad heddiw am fwy o fuddsoddi mewn tai cymdeithasol, tai cyngor, i ateb y galw yn ein cymunedau ac i unioni'r cydbwysedd yn ein stoc dai. Mae'r degawd diwethaf wedi gweld cynnydd dramatig mewn tai rhent preifat, ac yn yr achosion gwaethaf nid yw'r rhain fawr gwell na landlordiaid slymiau yn gosod ystafelloedd am £90 i £100 yr wythnos. Mae diffyg tai o ansawdd da, fforddiadwy wedi caniatáu i'r mathau hyn o landlordiaid elwa ar drueni pobl. Nid adeilad yn unig yw cartref. Mae'n rhoi to uwch bennau pobl. Mae'n darparu sicrwydd a diogelwch. Mae cartref diogel yn galluogi teuluoedd i gynllunio ar gyfer y dyfodol, mae'n lleihau straen a dibyniaeth ar wasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Mae angen inni weld y tu hwnt i frics a morter a deall effaith ehangach tai fforddiadwy o ansawdd da yn ein gwlad.
Rwy'n falch iawn fod y ddadl hon yn cael ei chynnal prynhawn yma a diolch i Blaid Cymru am ei chyflwyno, ac rwy'n meddwl bod angen inni ddatgan bod tai cymdeithasol yn elfen hanfodol o'r cyflenwad tai sydd ei angen arnom. Mae'n aml wedi arwain arloesi gwych yn ein hanes, wedi rhyddhau pobl a rhoi cartrefi addas iddynt allu byw ynddynt, ac mae'n bryd inni ailddatgan gwerth yr egwyddor o dai cymdeithasol. Croesawaf hefyd y raddfa y mae Plaid Cymru yn sôn amdani o ran beth fydd ei angen arnom yn y dyfodol, oherwydd mae'n agos iawn at ein hamcanestyniadau ni a'r hyn rydym ni wedi galw amdano yn y 2020au.
Rydym yn adeiladu ar y gyfradd isaf, yn wir, ers y 1920au. Rydym ymhell o dan—[Torri ar draws.] Fe ildiaf mewn eiliad. Rydym ymhell o dan y duedd hanesyddol, ac efallai nad ydym fawr dros ei hanner hyd yn oed. Ychydig dros chwarter y nifer o gartrefi a adeiladwyd gennym yn ymgyrchoedd adeiladu tai mawr y 1950au a'r 1960au a adeiladir gennym, felly mae angen inni siarad am raddfa ac adeiladu llawer iawn mwy o gartrefi cymdeithasol a chartrefi yn gyffredinol. Fe ildiaf.
Diolch. Rwy'n croesawu eich sylwadau ynglŷn â graddfa, ac fe ddywedoch fod y ffigurau rydym yn sôn amdanynt yn cyfateb yn fras i'ch ffigurau chi. A allwch egluro a yw eich ffigurau'n cyfeirio at dai fforddiadwy, neu a ydym yn sôn am dai cymdeithasol?
Yn gyntaf oll, mae'r dystiolaeth allan yno, felly nid yw'r rhain yn ffigurau rwyf wedi'u creu o ddim byd, neu eich bod chi wedi gwneud hynny. Gwn eich bod chi hefyd wedi cael eich dylanwadu'n fawr, fel y cefais i dair blynedd yn ôl, gan adroddiad yr Athro Holmans. Fy asesiad bras yw bod angen tua 40 y cant o gartrefi nad ydynt ar gyfer y farchnad a 60 y cant ar gyfer y farchnad, ac mae'n ymddangos mai dyna rydych chi'n galw amdano drwy gyd-ddigwyddiad—fe ddywedoch chi 20,000 o gartrefi cymdeithasol mewn tymor o bum mlynedd pe bai Plaid Cymru yn cael eu hethol yn yr etholiad nesaf, ac yn ôl fy nghyfrifiad i, mae hynny'n gadael 30,000 i gael eu darparu gan y farchnad, a bydd peth o hynny hefyd drwy gymorth y gwahanol gynlluniau. Ond mae'n well gennyf siarad am ddarpariaeth y farchnad a darpariaeth nad yw ar gyfer y farchnad. Tai cymdeithasol yn amlwg yw'r elfen nad yw ar gyfer farchnad o hynny, ond mae rhaniad 40:60 i'w weld i mi yn amcangyfrif rhesymol. Ac fel y nododd Mike yn gynharach, cafwyd adegau yn wir pan ydym wedi adeiladu mwy o dai heb fod ar gyfer farchnad na thai ar gyfer y farchnad. Felly, mae angen atebion; nid oes unrhyw ddiben dilyn ideoleg yn ddall. Mae angen cartrefi y gall pobl eu fforddio, boed yn eu prynu neu'n eu rhentu.
Efallai fy mod yn anghytuno â pheth o'ch pwyslais, er nad wyf yn credu bod hyn yn ein gwahanu o gwbl, yn yr ystyr fy mod yn meddwl bod yr hen fodel o ganiatáu i gynghorau adeiladu ystadau enfawr—er tegwch i chi, fe ddywedoch nad oeddech yn meddwl bod hwnnw'n fodel priodol a'ch bod am gael deiliadaeth gymysg a chynlluniau llai o faint mae'n debyg. Ond rwy'n credu bod angen i chi edrych ar gymdeithasau tai, am mai dyna'r prif adnodd sydd gennym ar hyn o bryd, ond hefyd cofiwch fod yna lawer o bobl bellach na fyddant yn cael y cartref gorau neu'r cartref y maent yn ei haeddu, y cartref sydd ei angen ar eu teuluoedd a'r gofod y bydd ei angen ar eu plant. Ni chânt hynny, er eu bod, o safbwynt hanesyddol, ymhell uwchben y trothwy ar gyfer tai cymdeithasol, am fod y farchnad wedi gwthio prisiau tai i fyny i'r fath raddau fel bod gennym bobl bellach sydd ar yr hyn y byddem mewn gwirionedd wedi eu hystyried yn gyflogau eithaf uchel, ac mae'r bobl hynny, rwy'n credu, yn mynd i fod angen modelau eraill. Mae modelau cydweithredol yn bwysig iawn yn fy marn i, a chânt eu defnyddio'n rhyngwladol. Soniodd Leanne am gronfeydd pensiwn yn buddsoddi yn y math hwn o ddarpariaeth, mae'n bur debyg—fflatiau mwy o faint ar gyfer bywyd teuluol, ond wedi'u rhentu'n hirdymor fel nad ydych, bob dwy neu dair blynedd, yn poeni a ydych yn mynd i gael aros yn eich cartref. Felly, mae angen llawer iawn o ddulliau o fynd i'r afael â hyn.
Ond un peth rwy'n credu sy'n wirioneddol bwysig yw ein bod yn symud tuag at gonsensws. Rydym wedi bod yn dadlau am hyn yn rhy hir, ac nid oes gan Lywodraeth Cymru hanes gwych o adeiladu tai—dylwn sibrwd y tamaid hwn yn awr ac rwy'n gobeithio nad yw fy nghyd-Aelodau'n gwrando—ond nid oes gan Lywodraeth y DU hanes gwych ar hyn chwaith. Ers yr argyfwng ariannol yn y DU, buaswn yn dweud nad ydym wedi bod yn adeiladu digon o dai, ac mae angen inni ddechrau gwneud hynny.
A gaf fi orffen drwy ddweud bod rhai methiannau yn y farchnad, heb unrhyw amheuaeth? Nid yw'r farchnad at ei gilydd wedi rhoi'r holl atebion sydd eu hangen arnom, ac mae rhai datblygwyr gwael i'w cael, ond nid ydynt i gyd yn wael. Mae'r syniad hwn fod yr holl ystadau preifat newydd hyn rywsut yn flotyn ar y dirwedd, nad oes ganddynt seilwaith da, ac nad yw'r awdurdodau cynllunio wedi cynnwys darpariaeth ysgol: hynny yw, nid yw hynny'n nodweddiadol o'r math o ddatblygiad a gawn yn y DU ac yng Nghymru o dan ddwy Lywodraeth. Mae gennym system gynllunio sydd wedi'i llunio'n dynn iawn ac mae'n cyflawni at ei gilydd, ond rwy'n derbyn y pwynt fod achosion wedi bod lle gwelwyd arferion gwael iawn, ac yn sicr mae angen mwy o ddatblygwyr, busnesau bach a chanolig i ddefnyddio safleoedd llai o faint, a mwy o gefnogaeth gymunedol fel bod pobl yn sylweddoli bod eu cymunedau hwy'n mynd i elwa drwy fod pobl yn cael mynediad at dai gweddus. Diolch ichi eich amynedd, Ddirprwy Lywydd.
Mae'n iawn. Siân Gwenllian.
Diolch yn fawr. Mae hi'n hollol glir i ni ym Mhlaid Cymru ein bod ni angen mwy o dai cymdeithasol neu dai cyngor—beth bynnag dŷn ni'n mynd i'w galw nhw, dŷn ni'n gwybod am beth dŷn ni'n siarad. Yn fy ardal i, mae 2,000 o deuluoedd ar y rhestr aros yng Ngwynedd am dai cymdeithasol. Mae fy nghymorthfeydd i'n llawn o bobl sy'n byw mewn amodau annerbyniol, mewn tai rhent preifat, sy'n damp, sy'n rhy fach, sy'n ddrud i'w gwresogi gan greu tlodi tanwydd, neu mae teuluoedd yn dod ataf i sy'n gorfod rhannu cartref efo'u rhieni neu berthnasau neu ffrindiau. Mae gormod o bobl mewn tai sy'n rhy fach i'w hanghenion, ac mae hyn, yn ei dro, yn effeithio ar eu lles cyffredinol nhw ac mae addysg plant y teuluoedd yma'n dioddef.
Dwi'n mynd i ganolbwyntio ar ddwy agwedd y prynhawn yma. Mae gennym ni system gynllunio yng Nghymru sydd yn gweithio o blaid buddiannau datblygwyr tai mawr. Oes, mae angen iddyn nhw ymrwymo i godi ychydig o dai fforddiadwy dan gytundebau 106, a dŷn ni wedi clywed am y rheini yn barod ac fel mae datblygwyr yn gallu dod i ffwrdd o'r ymrwymiad beth bynnag, ond hyd yn oed os ydyn nhw'n cadw at yr ymrwymiad, ychydig o dai ychwanegol sydd yn cael eu codi yn sgil y cymhwyster yna. Mae angen cyfundrefn gynllunio yng Nghymru sy'n rhoi anghenion lleol—anghenion tai pobl leol yn ganolog i'r polisïau. Mae Plaid Cymru'n ddiweddar wedi mabwysiadu set gynhwysfawr o bolisïau fyddai'n gwneud yn union hynny: yn rhoi'r angen i godi tai addas yn y llefydd addas fel blaenoriaeth.
Yn Ngwynedd, mae'r bobl sydd â'r angen mwyaf am dai yn aml ar gyflogau isel a chyflogaeth ansicr. Mae hyn, wrth gwrs, yn rhwystr anferth ac yn un na ellir ei oresgyn drwy ddatrysiadau syml, sef jest drwy gynyddu'r cyflenwad o dai yn sylweddol. Mae'n rhaid i'r cyflenwad fod o'r math cywir, ac mae'n rhaid i'r tai fod yn y llefydd cywir.
Mae gormodedd o dai mawr, drudfawr mewn rhai ardaloedd yn golygu bod teuluoedd lleol yn cael eu prisio allan o'r farchnad, ac mae gan hyn, wrth gwrs, oblygiadau i'r iaith Gymraeg yn fy ardal i, wrth i bobl ifanc lleol orfod symud allan. Ar y llaw arall, mae prinder tai o'r math cywir hefyd yn golygu bod pobl leol dan anfantais.
Mae cynnydd mewn nifer ail gartrefi hefyd yn prisio pobl leol allan o'r farchnad mewn nifer cynyddol o gymunedau. Er mwyn ceisio taclo'r broblem yma, mae wyth awdurdod lleol bellach yn codi premiwm treth cyngor ar ail gartrefi. Daeth hyn yn bosib o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014. Ond, yn anffodus, mae bron i 800 o'r perchnogion ail gartrefi hyn—yng Ngwynedd yn unig—wedi canfod ffordd i osgoi talu unrhyw drethi i'r pwrs cyhoeddus. Maen nhw'n cofrestru eu hail gartrefi fel busnesau bach, ac, yn sgil yr anomali yn y system, does dim rhaid iddyn nhw dalu'r un geiniog o dreth am eu bod nhw'n gallu cael rhyddhad ardrethi busnes. Dwi wedi galw hyn yn sgandal. Dwi wedi bod yn codi'r broblem yma efo'r Llywodraeth ers amser. Dwi yn deall bod yna adolygiad ar y gweill gan y Llywodraeth, a dwi yn gofyn ichi gynnwys yn yr adolygiad yma'r loophole yma, fel ein bod ni yn canfod ffordd o ddatrys y broblem yma.
Diolch. Y cyfan sydd ei angen mewn gwirionedd yw i'r Llywodraeth ddiddymu rhyddhad ardrethi ar dai i fusnesau bach.
Wel, mae hynna'n un ffordd. Ers imi godi'r mater yma, mae wedi fy rhyfeddu i faint o bobl sydd wedi cysylltu efo fi ac sydd wedi cynnig gwahanol ffyrdd o ddatrys y broblem. Dŷch chi wedi sôn am un ffordd—mae yna bobl yn cynnig ffyrdd eraill. Mae yna ffordd o sortio hyn allan. Beth sydd angen ydy ewyllys gan y Llywodraeth i sortio'r broblem, a'r Llywodraeth ddylai fod yn arwain y ffordd i ganfod yr ateb. Hyd yma, dydy'r ewyllys yna ddim wedi bod yn amlwg i mi, ond dwi yn gobeithio yn fawr iawn y gallwn ni gael trafodaethau manwl ynglŷn â beth yn union ellid ei wneud.
Mae yna rywbeth yn hollol anghywir mewn sefyllfa lle mae 2,000 o bobl yn byw mewn amodau gwael, tra bod 800 o'r 5,000 o berchnogion ail gartrefi yn yr un sir yn chwarae'r system i'w mantais eu hunain ac yn osgoi talu trethi cyngor. Mi allai'r arian hwnnw—cyfanswm o dros £1 miliwn y flwyddyn—ynghyd â'r premiwm tai cyngor, a fyddai'n dod â miliynau eraill, fod yn gyfraniad pwysig tuag at adeiladu mwy o dai addas i bobl leol yng Ngwynedd.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol—Julie James?
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r ddadl hon, er fy mod wedi taflu fy mhapurau dros y llawr yn y modd mwyaf anweddus, felly rwy'n ymddiheuro am hynny. [Chwerthin.] Diolch i chi, Vaughan.
Rydym yn gwbl ymroddedig yn Llywodraeth Cymru i ddarparu tai cymdeithasol gan gynghorau yn ogystal â landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Gwyddom fod angen brys am dai ychwanegol ar gyfer rhentu cymdeithasol ledled Cymru. Nid wyf am hollti blew ynglŷn â'r ffigurau. Gwyddom fod angen llawer, a'u bod yn y miloedd ac nid y cannoedd, felly yn hytrach na dadlau ynghylch niferoedd unigol mae'n bendant yn y miloedd, ac yn sicr rydym am gydnabod hynny. I fod yn gwbl glir, mae darparu tai cymdeithasol ychwanegol yn flaenoriaeth sylfaenol i'r Llywodraeth hon, a dyna pam rwy'n hapus iawn i gefnogi cynnig Plaid Cymru heddiw.
Rwy'n croesawu'r cyfraniadau gan yr holl Aelodau heddiw. Mae pob un ohonom—'y rhan fwyaf ohonom' sydd gennyf wedi'i ysgrifennu yma, ond mewn gwirionedd, rwy'n falch o allu dweud y bydd pob un ohonom yn rhannu'r nod o greu mwy o dai cymdeithasol i'w rhentu. Mae yna gwestiynau pwysig ynglŷn â sut i sicrhau'r cyllid iawn, y cynllun iawn a'r lleoliad iawn, ac yn sicr rwyf wedi bod yn hynod o awyddus i wrando ar y cyfraniadau'n ofalus yn y ddadl heddiw er mwyn nodi'r holl syniadau a gwneud yn siŵr y gallwn eu datblygu. Rwy'n hapus iawn i ddweud nad wyf wedi clywed unrhyw beth yn y ddadl heddiw nad wyf yn hapus i'w gefnogi, a buaswn yn croesawu trafodaethau manwl gyda phob un ohonoch ynglŷn â sut y gallwn ddatblygu rhai o'r syniadau hyn.
Rwyf wedi gweld, a gwn fod pawb yn y Siambr wedi gweld drostynt eu hunain, yr effaith y gall cael man diogel a fforddiadwy o ansawdd da i fyw ynddo ei chael ar rywun, yn enwedig rhywun a allai fod yn agored i niwed neu sy'n cael trafferth i ymdopi â heriau gwahanol o bosibl, ond mewn gwirionedd, yr effaith y gall hynny ei chael ar bawb—mae'n angen sylfaenol, ac rwy'n credu mai Mike Hedges a ddywedodd fod arnom angen bwyd, diod a lle i fyw, ac mae hynny'n hollol gywir.
Gall tai cymdeithasol ddarparu nid yn unig cartrefi o ansawdd, ond y cymorth sydd ei angen i sicrhau y gall pobl gynnal tenantiaeth a ffynnu ynddi. Gall effeithio'n gadarnhaol ar iechyd, iechyd meddwl ac addysg, a dyna pam, yng Nghymru, nad ydym erioed wedi symud oddi wrth gymorth ar gyfer tai cymdeithasol, byth ers i'r Cynulliad ddod i fodolaeth, a chyn hynny yn wir. Dyna pam ein bod wedi gosod targed ar gyfer darparu cartrefi fforddiadwy yn ystod y tymor llywodraeth blaenorol, a llwyddasom i gyrraedd y targed hwnnw, ac rydym wedi ymestyn y targed i 20,000 o gartrefi yn y tymor hwn.
Fel y dywedodd Leanne Wood, mae'r targed o 20,000 yn cynnwys cynlluniau gyda'r nod o helpu pobl i brynu cartrefi, yn bennaf y cynlluniau Cymorth i Brynu a Rhentu i Brynu, ond hefyd mae'n cynnwys cyfran fawr iawn o gartrefi rhent cymdeithasol. Efallai y bydd yn syndod i Leanne Wood weld nad wyf yn anghytuno â fawr o'r hyn a ddywedodd. Rydym wedi cynnwys Cymorth i Brynu oherwydd bod cael mynediad at berchentyaeth wedi dod yn anodd iawn ei gyflawni i lawer o bobl yn y 15 i 20 mlynedd diwethaf. Soniodd David Melding am rymoedd y farchnad yn ysgogi rhywfaint o hynny, a bu'n rhaid inni ymateb i hynny.
Ond cartrefi rhent cymdeithasol yw'r gyfran fwyaf o bell ffordd o'r targed o 20,000, a buaswn yn awyddus iawn i weld y targed hwnnw'n cael ei ymestyn gan fod gennym amodau ychydig yn wahanol ar waith bellach. Rwy'n hyderus y byddwn yn cyflawni'r ymrwymiad hwnnw mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, sydd wedi gwneud buddsoddiad mwy nag erioed o £1.7 biliwn mewn tai yn ystod tymor y Cynulliad hwn, sy'n swm sylweddol ac sy'n cael effaith enfawr ar y cyflenwad o dai cymdeithasol.
Yn 2017-18, cafodd dros hanner y cartrefi fforddiadwy newydd a adeiladwyd yng Nghymru eu darparu drwy grant cyfalaf gan Lywodraeth Cymru. Roedd y mwyafrif helaeth o'r rheini yn wir ar gyfer rhent cymdeithasol, ac rydym yn argyhoeddedig mai dyna'r flaenoriaeth gywir. Hefyd, mae angen cyfradd uwch o gymhorthdal cyhoeddus ar gyfer cartrefi rhent cymdeithasol na mathau eraill o dai fforddiadwy, ond maent yn hanfodol er mwyn diwallu amrywiaeth o anghenion tai ar draws ein cymunedau, ac mae hwnnw'n amlwg yn safbwynt a rennir yn y Cynulliad, ac rwy'n falch iawn ynglŷn â hynny.
Gellir gwneud rhai tai'n fwy fforddiadwy i rai pobl drwy roi cymhorthdal ar gyfer tai sydd ar werth, ac mewn gwirionedd, mae ein cynllun Cymorth i Brynu yn wahanol iawn i'r proffiliau a welwch yn Lloegr. Felly, mae llawer mwy ohono ar gyfer prynwyr tro cyntaf—tua 80 y cant, mewn gwirionedd. Yn fwriadol, mae gennym bolisi sy'n caniatáu i bobl gael y tai y maent eu heisiau. Mae pris y tai hynny'n fater diddorol, ac nid wyf yn anghytuno'n sylfaenol â'r hyn roedd Leanne Wood yn ei ddweud ynglŷn â sut i fesur hynny. Ond yr hyn sydd angen inni ei wneud mewn gwirionedd yw adeiladu llawer iawn mwy o dai cymdeithasol. Felly, rydym yn falch iawn o weld bod Llywodraeth y DU wedi dod at ei choed o'r diwedd ac wedi sylweddoli nad yw cael cap artiffisial ar y swm o arian y gallwch ei fenthyg i adeiladu tai yn beth synhwyrol i'w wneud. Credaf y byddai David Melding yn cytuno â mi, mewn gwirionedd, y byddai cael gwared ar y cap er mwyn galluogi cynghorau i fenthyca er mwyn buddsoddi mewn tai yn beth da. Credaf eich bod chi fwy neu lai wedi dweud hynny yn eich araith. Yn amlwg, mae Llywodraeth y DU wedi gweld y goleuni, os mynnwch, ar hynny o'r diwedd.
Felly, rydym yn bwriadu gweithio'n galed iawn gyda'n cynghorau ledled Cymru i adeiladu tai cyngor ar raddfa fawr, a lle mae'r cyngor wedi allanoli ei stoc dai, i helpu eu landlordiaid cymdeithasol cofrestredig gyda'u benthyca darbodus.
Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog am dderbyn ymyriad. A fyddech yn cytuno ei bod yn hanfodol fod yr adeiladau newydd hyn o ansawdd uchel a'n bod wedi gweld rhai tai cymdeithasol o ansawdd isel iawn yn cael eu hadeiladu yn ail hanner y ganrif ddiwethaf, tai nad oeddent yn ddymunol i neb fyw ynddynt? Rwy'n credu bod hynny hefyd wedi cyfrannu at y stigma ynghylch rhentu, a chredaf y byddai pawb ohonom yn cytuno bod angen inni gael gwared ar hynny. Mae angen inni adeiladu tai cymdeithasol o ansawdd digon da i bobl allu teimlo'n falch eu bod yn byw ynddynt fel cartrefi gydol oes.
Yn hollol, ac wrth wneud hynny, gallwn gael gwared ar nifer o broblemau eraill. Fel y dywedais, gallwn gael gwared ar broblemau iechyd, problemau iechyd meddwl, gallwn gael gwared ar broblemau tlodi tanwydd, problemau dyled ac ati drwy adeiladu tai o'r safon iawn. Ac a dweud y gwir, gallwn gyfrannu at beidio â lladd ein planed drwy adeiladu tai sy'n gollwng gwres allan i'r aer heb reswm ac ati. Felly, mae nifer o bethau y gallwn eu gwneud gyda thai o ansawdd da, ac mae angen inni ymgymryd â'r gwaith hwnnw. Gan fod Llywodraeth y DU bellach wedi newid rhai o'r paramedrau ar gyfer cynhyrchu cyfalaf inni allu gwneud hynny, mae angen inni fwrw ati i'w wneud yn gyflym ac ar raddfa fawr. Mae Hannah Blythyn a minnau wedi teithio o gwmpas y cynghorau, fel sy'n draddodiadol i bobl sy'n ymgymryd â'r portffolio llywodraeth leol, ac ym mhob cyngor y buom yn cyfarfod â hwy hyd yma, ac yng Nghymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, cawsom ein cyfarch yn frwd iawn ar draws y sbectrwm gwleidyddol i fwrw ymlaen ag adeiladu tai cymdeithasol yn gyflym ac ar raddfa fawr. Felly, mater i ni yw sicrhau bod y set iawn o reolau ar waith mewn perthynas â rheoli asedau a'r defnydd o dir ac ati i alluogi hynny i ddigwydd.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n falch iawn o ddweud wrth y Cynulliad ein bod yn gweithio'n galed iawn, er enghraifft, ar newid y rheolau ynghylch defnyddio tir cyhoeddus ar gyfer tai cymdeithasol ar draws Cymru. Efallai y bydd rhai ohonoch yn gyfarwydd ag astudiaeth ym mwrdd iechyd Cwm Taf a gomisiynwyd gan y Prif Weinidog pan oedd mewn swydd flaenorol—ni allaf gofio pa un; gwasanaethau cyhoeddus, rwy'n credu—sy'n defnyddio porth GPS Lle y Llywodraeth i fapio tir cyhoeddus ar draws ardal y bwrdd iechyd. Rydym yn edrych ymlaen at gyflwyno hwnnw ar draws Cymru fel y gallwn weld pa dir cyhoeddus sydd ar gael er mwyn cael gwared ar rywfaint o'r gost gyfalaf o allu cyflwyno tai cymdeithasol—a mathau eraill o ddeiliadaeth.
Mae amryw o bobl o amgylch y Siambr heddiw, Ddirprwy Lywydd, wedi sôn am fathau eraill o ddeiliadaeth, ac rydym yn awyddus iawn i weld hynny. Maddeuwch i mi; ni allaf gofio pa Aelod Cynulliad a ddywedodd hyn, ond holl bwynt hyn yw gwneud cymuned gynaliadwy. Felly, peidio â chael getos o ardaloedd lle nad oes ond un math o ddeiliadaeth ond cael deiliadaethau cymysg cyflawn, cymunedau cynaliadwy, ac yn gymysg o'u mewn yn ogystal. Credaf mai Leanne Wood a ddywedodd, 'Heb ffordd yn eu rhannu yn y canol ond cymuned gymysg gynaliadwy'. Ac yn hynny o beth, mae gennym sawl math arall o waith yn mynd rhagddo. Felly, er enghraifft, rydym yn gwario £90 miliwn ar ein rhaglen tai arloesol, yn edrych ar ffyrdd newydd o ddarparu cartrefi. Mae'r gronfa gofal integredig gwerth £105 miliwn yn dechrau cefnogi atebion a arweinir gan ystyriaethau'n ymwneud â llety i ofal cymdeithasol ochr yn ochr â rhaglenni tai ac iechyd, ac wrth gwrs, mae gennym £134 miliwn eleni yn ein rhaglen grant tai cymdeithasol. A'r hyn rwyf am ei bwysleisio drwy hynny, Ddirprwy Lywydd, yw nad ydynt yn rhaglenni ar wahân—maent yn rhaglenni a gynlluniwyd i gynhyrchu gwahanol fathau o dai, ond nid oes dim i rwystro'r rhain rhag bod mewn cymuned gynaliadwy gyda'i gilydd.
Ac mae gennym ein rhaglen hunanadeiladu arloesol hefyd. Gwnaeth yr hyn a ddywedodd Siân Gwenllian am bobl leol yn cael eu gyrru allan gan berchnogaeth ail gartrefi argraff fawr arnaf, ac rydym yn awyddus iawn i sicrhau y gall awdurdodau adeiladu tai cymdeithasol ar blotiau bach mewn ardaloedd anheddu pentrefol ac ati, a fyddai'n galluogi pobl i gael mynediad at dai cymdeithasol, a thai ar yr ysgol dai hefyd os mynnwch—eu helpu i gael troed ar yr ysgol i wneud hynny.
Os caf roi darlun o ddifrifoldeb y sefyllfa, amcangyfrifir bod traean y tai a werthwyd yn fy etholaeth i yn y flwyddyn ddiwethaf wedi'u gwerthu fel ail gartrefi. Mae hynny'n cael effaith glir a niweidiol ar y farchnad dai leol.
Ydy, yn wir. Gall ail gartrefi ddod â chyfoeth yn eu sgil yn ogystal, ond mae angen inni sicrhau hefyd y gall pobl leol gael cartrefi gweddus i fyw ynddynt. Rwy'n awyddus iawn i weithio gyda chi ar nifer o'r pethau a godwyd heddiw—nid af drwy bob un ohonynt neu fe fydd y Dirprwy Lywydd yn sicr o golli amynedd gyda mi. Ond yn amlwg, mae'r ddadl hon wedi dangos bod nifer fawr o bethau arloesol y gallem eu gwneud i gael ein cynghorau a'n landlordiaid cymdeithasol i ddechrau darparu'r tai cymdeithasol sydd cymaint o'u hangen ar Gymru, a hynny'n gyflym ac ar raddfa fawr. Diolch.
Diolch. Galwaf ar Leanne Wood i ymateb i'r ddadl.
Diolch i bawb. Diolch i bawb am eu cyfraniadau, yn enwedig y rheini sy'n cefnogi hanfod ein dadl. Rwy'n arbennig o ddiolchgar i'r Gweinidog am fod mor agored i gynifer o'n hawgrymiadau. Rwyf hefyd yn croesawu'r awgrym ynglŷn â defnyddio'r system ardrethi busnes i fynd i'r afael â phroblem ail gartrefi. Nid yw'n anodd, ac mewn gwirionedd mae'n rhywbeth y gellid ei wneud ar unwaith.
Nawr, yn ogystal â chynyddu niferoedd tai cymdeithasol, rydym yn cynnig y dylid defnyddio pedair ffynhonnell gyflenwi arall a argymhellwyd gan ein papur ar dai er mwyn helpu i gynyddu'r stoc dai yn y sectorau preifat a chymdeithasol, a gobeithiaf fod hynny'n profi nad mater o ideoleg yw hyn i ni.
Yn gyntaf, i gydnabod yr heriau demograffig a fydd yn wynebu ein system gofal cymdeithasol ac iechyd, rydym yn argymell y dylid creu system o bentrefi gofal cymdeithasol Sgandinafaidd a fydd yn darparu gofal cymdeithasol ac yn helpu pobl i fyw'n annibynnol mewn cartrefi addas. Unwaith eto, mae ariannu hyn yn ddefnydd da o bwerau benthyca a bydd hefyd yn ysgogi'r economi sylfaenol.
Yn ail, rydym eisiau annog modelau tai mwy cydweithredol y gellid eu defnyddio, yn arbennig, fel tai canolradd neu dai ar gyfer grwpiau penodol o bobl fel rhan o fodel o fath tai yn gyntaf.
Yn drydydd, dylem annog hunanadeiladu ar raddfa lai a datblygiadau o fath ecogartrefi, a rhoi hwb i'r hyn sy'n mynd i fod yn ddiwydiant a fydd yn tyfu yn y dyfodol. Unwaith eto, mae'n werth cymharu a chyferbynnu ansawdd a safonau tai mewn ecobentrefi â'r arferion gwael a welsom mewn rhai o'r ystadau newydd y cyfeiriwyd atynt y prynhawn yma.
Yn olaf, rydym eisiau gweld llawer mwy o ymdrech i ailddechrau defnyddio eiddo gwag. Mae'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi'r gorau i'w gwneud hi'n ofynnol i awdurdodau lleol adrodd ar hyn, gan fod y ffigurau diweddaraf ar hyn ar gyfer 2016, ond maent yn dangos bod 26,500 eiddo'n wag, ac mae'r duedd ar gynnydd. Eto i gyd, er bod ganddynt bwerau i orfodi premiymau treth gyngor ar gartrefi gwag, o ganlyniad i Ddeddf tai 2014, canfu ein cwestiynau ysgrifenedig mai naw yn unig o'r 22 o awdurdodau lleol sy'n bwriadu gosod premiwm ar gartrefi gwag. Yn wir, dangosodd ein cwestiynau ysgrifenedig hefyd fod 14 o awdurdodau lleol—mwy na'u hanner—yn bwriadu darparu disgownt treth gyngor ar gartrefi gwag.
Nawr, efallai y bydd y rhai sylwgar yn eich plith wedi nodi bod hynny'n gwneud 23 awdurdod lleol, sy'n golygu naill ai bod Llywodraeth Cymru wedi darparu gwybodaeth anghywir ar ein cyfer, neu fod yna awdurdod lleol yn rhywle sy'n rhoi disgownt ar gyfer cartrefi gwag ac yn codi tâl premiwm ar gartrefi gwag, sy'n ymddangos braidd yn rhyfedd, er ei fod yn gyfreithiol bosibl, mae'n debyg, yn dibynnu ar faint o amser y bydd adeilad yn wag. Ond mae'n dangos nad yw'r pwerau hyn yn cael eu defnyddio, ac yn ôl y wybodaeth sydd gennym, weithiau nid yw swyddogion yn ymwybodol hyd yn oed eu bod yn cael gosod premiwm treth gyngor.
Felly, mae'n amlwg bod yna broblem cyfathrebu yma ac yn amlwg, mae yna broblem o ran cyflenwi yn ogystal, o ystyried sut y mae amryw o Weinidogion tai wedi addo mynd i'r afael â phroblem cartrefi gwag. Mae hyn ar gyfer polisi nad yw'n costio unrhyw arian a gellid ei wneud yfory, felly os yw'r Llywodraeth yn methu cyflawni hynny, sut ar y ddaear y gellir ymddiried ynddi i gyflawni prosiectau drud a thrawsnewidiol?
Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.